ATODIAD 1: POLISI’R BRIFYSGOL AR ADBORTH AC ASESU
Mae Polisi’r Brifysgol ar Adborth ac Asesu.
ATODIAD 2: CANLLAWIAU AR GYFER COLEGAU AR GYFER YMDRIN A MYFYRWYR AG AMGYLCHIADAU ESGUSODOL A/NEU OFYNION PENODOL
Myfyrwyr y mae Arnynt Angen Darpariaethau Penodol a'r Broses Asesu
Gall pob Coleg benderfynu a yw’n mynd i ffurfio un Pwyllgorau Achosion Arbennig y Coleg neu gynnal byrddau o’r fath ar lefel pynciau/disgyblaethau.
Crynodeb o’r Canllawiau
- Rhaid i unrhyw fyfyriwr sydd, am ba bynnag reswm, yn gofyn am lwfans/ystyriaeth arbennig mewn perthynas ag asesiad, wneud ei anghenion yn hysbys a bod yn barod i ddangos tystiolaeth ategol briodol. [Egwyddor A1]
- Dylai’r Swyddfa Anabledd graffu ar gyflyrau hirdymor, yn enwedig rhai meddygol, a hynny gan ymgynghori â’r Coleg a’r myfyriwr dan sylw, gyda golwg ar lunio cyfundrefn asesu sy’n ymarferol, sy’n diwallu anghenion yr unigolyn ac sy’n dderbyniol i’r holl bartïon. Rhaid i drefniadau gael eu ffurfioli a rhaid i’r holl bartïon lofnodi cytundeb. [Egwyddor A1-6]
- Y Coleg dan sylw ddylai ymdrin â phroblemau byrdymor; fodd bynnag, lle y bo’n briodol, efallai y bydd yn dymuno ymgynghori â’r Swyddfa Anabledd. [Egwyddor A7-13]
- Dylai pob Coleg sefydlu Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig i ymdrin ag achosion o’r fath. Dylai gwrdd mor aml ag sy’n briodol i wrando achosion ac i gyflwyno argymhellion ynghylch asesu i’r Bwrdd Arholi. Dylai pob Coleg hefyd ddynodi aelod o staff i fod yn Swyddog Anabledd y Coleg a chychwyn system lle gall gwybodaeth am fyfyrwyr ac arnynt angen darpariaeth arbennig gael ei chofnodi a’i chynnal [Egwyddor A7]
- Dylai Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig pob Coleg fabwysiadu’r un gweithdrefnau a defnyddio meini prawf tebyg.
- Yn achos myfyrwyr Cydanrhydedd y mae arnynt angen lwfans/ystyriaeth arbennig, dylai Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig y Coleg dan sylw ymgynghori i wneud yn siŵr bod y myfyriwr yn cael triniaeth gyson.
- Mewn ychydig iawn o achosion arbennig, efallai y bydd yn rhaid i’r Coleg fabwysiadu cyfundrefnau asesu unigol, y mae’n rhaid iddynt gael eu cymeradwyo gan Gadeirydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol.
Rhaid osgoi cydadfer dwbl ar gyfer amgylchiadau esgusodol. O ganlyniad, dylid wastad dynodi achosion lle cymerwyd camau cydadfer. - Mae’r Brifysgol yn cynhyrchu’r canllawiau canlynol y bydd Colegau o bosibl yn dymuno cyfeirio atynt:
‘Dyslecsia ac Anawsterau Dysgu Penodol: Dogfen ar arfer da gan gynnwys canllawiau marcio’
‘Polisi ar Anawsterau Dysgu Penodol (Dyslecsia)’
Mae’r ddwy ddogfen ar gael o’r Swyddfa Anabledd.
MYFYRWYR Y MAE ARNYNT ANGEN DARPARIAETHAU PENODOL A’R BROSES ASESU
Egwyddorion
A1
Cyfrifoldeb y myfyriwr yw hysbysu’r Coleg perthnasol ynghylch unrhyw anabledd neu unrhyw amgylchiadau esgusodol, a allai olygu bod angen darpariaeth arbennig ar gyfer asesu. Rhaid i fyfyrwyr fod yn barod i ddangos dogfennaeth briodol i ategu hyn. Dylai eu cais, boed yn deillio o anabledd hirdymor neu amgylchiadau byrdymor, fod wedi’i nodi ar ffurflen arbennig, sy’n gyffredin i’r Brifysgol gyfan, a chael ei ategu, lle y bo’n bosibl, gan dystiolaeth ysgrifenedig.
A2
Yn achos anabledd hirdymor, efallai y bydd y Swyddfa Anabledd yn ymwybodol o unrhyw achosion o’r fath cyn bod y myfyrwyr yn cofrestru yn y Brifysgol. Fodd bynnag, dylai’r llythyr gwreiddiol a anfonir at fyfyrwyr newydd, a llawlyfrau’r Brifysgol a Cholegau a.y.b., egluro’r angen i gofrestru eu hawliad. Wedyn dylai’r Coleg sicrhau bod yr holl fyfyrwyr sy’n dymuno gwneud hawliad o’r fath yn cael eu dwyn i sylw’r Swyddfa Anabledd.
A3
Ar hyn o bryd mae’r Swyddfa Anabledd yn asesu myfyrwyr â phroblemau hirdymor er mwyn darparu ar gyfer eu hanghenion. Yn y dyfodol, dylai’r asesiad hwn o’u hamgylchiadau gynnwys argymhellion ynghylch mesurau angenrheidiol ar gyfer asesu. Mewn cydweithrediad â’r myfyriwr a’r Coleg, bydd y Swyddfa Anabledd yn asesu’r myfyriwr, gan ystyried cyngor meddygol neu gyngor arall priodol. Os rhagwelir anawsterau gydag asesu, bydd y Swyddfa Anabledd yn gwneud argymhellion ar gyfer patrwm o fesurau cydadferol, o ran amser ychwanegol ar gyfer arholiadau, ysgrifenyddion, cymorth cyfrifiadur a.y.b., fel rhan o’r broses asesu arferol ar gyfer y myfyriwr. Rhaid pwysleisio bod rôl cynrychiolydd y Coleg mewn ymgyngoriadau o’r fath yn ymwneud nid â gwerthuso’r amgylchiadau, ond yn syml â hysbysu’r Swyddfa Anabledd ynghylch natur yr asesu yn y Coleg dan sylw.
A4
Dylai hawlyddion gael datganiad o’r mesurau cydadferol, wedi’i ddyddio’n briodol, a llofnodi datganiad i nodi eu bod yn eu derbyn.
A5
Yn achos anabledd hirdymor, gall fod yn angenrheidiol darparu amrywiaeth o gyfundrefnau ar gyfer achosion penodol, yn seiliedig ar asesiad gan y Swyddfa Anabledd. Ni ddiystyrir y posibilrwydd y gall fod angen mwy nag un sesiwn ar gyfer arholiad, neu y gall fod yn rhaid amserlennu arholiadau mewn ffordd wahanol i fyfyrwyr eraill.
A6
Unwaith y mae’r Swyddfa Anabledd wedi gwneud asesiad ac wedi argymell mesurau cydadferol, efallai na fydd myfyrwyr y caniateir y mesurau hynny iddynt yn cael unrhyw ryddhad na chymorth pellach o ran yr angen asesedig hwn. Bydd gwaith yn cael ei farcio yn unol â chonfensiynau marcio’r Coleg. Os honnir bod cyflwr wedi newid, gellir cyflwyno cais i’r Swyddfa Anabledd am asesiad pellach. Fodd bynnag, dylid rhybuddio myfyrwyr nad yw asesiadau o’r fath yn gallu cael eu cymhwyso’n ôl-weithredol i gynyddu lwfansau. Cydnabyddir, wrth gwrs, y gall rhai myfyrwyr â phroblemau hirdymor ddatblygu anawsterau byrdymor hefyd; gellir ymdrin â’r rhain yn unol â Pholisi’r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy’n Effeithio ar Asesiad.
A7
Dylai pob Coleg sefydlu Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig.
A8
Bydd cofnodion yn cael eu cymryd o gyfarfodydd Pwyllgorau Amgylchiadau Arbennig.
A9
Bydd Pwyllgorau Amgylchiadau Arbennig yn ymdrin â’r holl geisiadau am driniaeth arbennig:
Cyflyrau hirdymor, sy’n rhai meddygol fel arfer. Mae gan Bwyllgorau Amgylchiadau Arbennig gyfrifoldeb i sicrhau bod y gofrestr o’r myfyrwyr hynny o fewn eu hawdurdodaeth, sydd wedi gofyn am ryddhad ar y sail hon, wedi’i diweddaru. Dylai’r cofnod sydd gan y Coleg gyd-fynd â’r cofnodion sydd gan y Swyddfa Anabledd ac a gaiff eu cylchredeg ganddi. Bydd hyn yn ei galluogi i ystyried Egwyddor A6 uchod;
Amgylchiadau byrdymor a thros dro.
A10
Dylai’r Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig ymdrin ag unrhyw geisiadau sy’n ymwneud â gwaith cwrs. Cadeirydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol sy’n ymdrin â cheisiadau arbennig sy’n ymwneud ag arholiadau.
A11
Awgrymir ymdrin â cheisiadau am estyniadau ar yr amser ar gyfer gwaith cwrs (ar ba bynnag ffurf) neu ystyriaethau arbennig eraill, mor agos â phosibl at yr amser y caiff y gwaith ei gyflwyno neu ei gwblhau fel arall. Rhaid i benderfyniadau gael eu cofnodi bob amser.
A12
Lle mae ar Bwyllgor Amgylchiadau Arbennig y Coleg angen cyngor pellach i ymdrin â mater sy’n achosi pryder, bydd yn ymgynghori â’r Swyddfa Anabledd.
A13
Bydd y Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig yn cwrdd, fel y bo’n gyfleus, i ymdrin â busnes, ond wastad yn union cyn cynnull Bwrdd Arholiadau’r Coleg a bydd yn adrodd wrth y Bwrdd hwnnw ac yn cyflwyno argymhellion iddo. Dylid nodi mai’r pwynt penderfynu terfynol o hyd, lle mae’r Coleg yn y cwestiwn, yw ei Fwrdd Arholiadau.
ACHOSION ARBENNIG AC EITHRIADOL:
Rhagwelir mai ychydig o geisiadau fel hyn fydd i’w cael.
Cydnabyddir y bydd achosion, o bryd i’w gilydd, a fydd yn galw am gyfundrefnau asesu unigol iawn, sy’n wahanol yn sylfaenol i’r rhai sydd mewn grym yn gyffredinol yn y Coleg(au) dan sylw. Gallai angen o’r fath ddeillio o achosion hirdymor neu fyrdymor. Dylai addasrwydd unrhyw gyfundrefn asesu gael ei gytuno rhwng y Swyddfa Anabledd a’r Coleg(au) dan sylw, a chael ei chyfeirio at Gadeirydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol wedyn i gael cymeradwyaeth.
Mewn unrhyw achos lle mae’r Swyddfa Anabledd a Choleg neu Golegau’n cael anhawster cytuno ar gyfundrefn asesu, Cadeirydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.