Polisi a Gweithdrefnau Cydnabod Dysgu Blaenorol ym Mhrifysgol Abertawe
1. Rhagymadrodd
At ddiben y ddogfen hon, mae Cydnabod Dysgu Blaenorol, yn cyfeirio at y broses a ddefnyddir gan y Brifysgol hon (a llawer eraill) i gydnabod dysgu a gyflawnwyd gan unigolyn cyn cael ei dderbyn i raglen astudio yn Abertawe. Yn Abertawe, mae'r term yn cwmpasu'r canlynol:
a) Trosglwyddo Credydau - lle dyfarnwyd credydau neu gymhwyster gan sefydliad addysg uwch yn y DU fel rhan o gymhwyster ffurfiol neu gan sefydliad y tu allan i'r DU fel rhan o gymhwyster cyfwerth;
b) Cydnabod dysgu tystysgrifedig blaenorol - dysgu blaenorol (megis dyfarniadau datblygiad proffesiynol neu ddyfarniadau sy'n seiliedig ar gyflogaeth) sydd ar lefel addysg uwch ond nad yw wedi arwain at ddyfarnu credydau neu gymhwyster addysg uwch;
c) Cydnabod Dysgu Blaenorol trwy Brofiad - lle mae dysgu a gyflawnir drwy brofiad yn cael ei asesu a'i gydnabod.
2. Egwyddorion Cyffredinol
Ni waeth a yw cais i gydnabod dysgu blaenorol yn seiliedig ar drosglwyddo credydau, dysgu tystysgrifedig blaenorol neu ddysgu blaenorol drwy brofiad, mae'n bwysig sylweddoli mai cyflawni'r dysgu neu ddeiliannau'r dysgu hwnnw sy'n cael eu cydnabod yn hytrach na'r gweithgarwch dysgu ei hun.
Cyfrifoldeb sefydliad derbyn, h.y. Prifysgol Abertawe, yw penderfynu faint o gredyd penodol i'w ddyfarnu i fyfyriwr unigol drwy Gydnabod Dysgu Blaenorol, yn seiliedig ar lefel, hyd a lled a pherthnasedd canfyddedig y deunydd (yn seiliedig ar wybodaeth a sgiliau) yn y rhaglen neu'r cymhwyster sy'n cael ei gynnig gan yr ymgeisydd o'i gymharu â'r rhaglen astudio mae'n bwriadu ei dilyn ym Mhrifysgol Abertawe.
Fel arfer, dylid cyflwyno ceisiadau i Gydnabod Dysgu Blaenorol ar adeg cyflwyno'r cais am le ar raglen astudio - a chyn i'r myfyriwr gofrestru ar y rhaglen.
Gellir cydnabod dysgu blaenorol ar gyfer modiwl cyflawn yn unig, ac nid ar gyfer rhan o fodiwl.
Ar gyfer rhaglenni gradd anrhydedd israddedig a graddau Cychwynnol Uwch, uchafswm nifer y credydau a dderbynnir i gyfrif tuag at y radd gychwynnol fydd:
- Heb fod yn fwy na 240 h.y. rhaid i ymgeiswyr ddilyn o leiaf 120 o gredydau yn Abertawe fel arfer. Lle derbyniwyd uchafswm y credydau trosglwyddadwy, rhaid i weddill y credydau a ddilynir fod ar Lefel 6 neu yn uwch, neu
- Uchafswm o 120 o gredydau drwy ddysgu “drwy brofiad" neu "ardystiedig" (e.e. cymwysterau proffesiynol)
Gall myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir hawlio Cydnabyddiaeth am Ddysgu Blaenorol am uchafswm o draean o gyfanswm pwyntiau credyd dyfarniad.
Ni ddyfernir Cydnabyddiaeth am Ddysgu Blaenorol o ran y gydran traethawd hir neu ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd neu elfen gyfwerth a gymeradwywyd (h.y. interniaeth/modiwlau lleoliad gwaith) rhaglen.
Fodd bynnag, mae'r eithriadau canlynol yn berthnasol, a chaiff myfyrwyr hawlio cydnabyddiaeth am ddysgu blaenorol ar gyfer y rhaglenni canlynol:
- Ymarfer Cyfreithiol, Diploma Ôl-raddedig - 90 credyd o 180
- Diploma i Raddedigion yn y Gyfraith - 60 credyd o 120
- Graddau Nyrsio cyn cofrestru - 180 credyd o 360
- Therapi Galwedigaethol Cyn Cofrestru – ni chaniateir 120 o 360 o Achrediad Dysgu Blaenorol ar gyfer bydwreigiaeth cyn cofrestru
- Cymwysterau Gwyddor Iechyd ar ôl cofrestru - 240 credyd o 360
- Ynghyd â 40 o gredydau ychwanegol ym mlwyddyn 3
Efallai y bydd ymgeiswyr am ystyried y goblygiadau ariannol sy’n gysylltiedig ag RPL. Gall hawlio am RPL effeithio ar gymhwysedd ymgeisydd am fenthyciad ôl-raddedig a chynghorir ymgeiswyr i gael cyngor gan eu cyngor cyllido cyn cyflwyno cais am RPL. Caiff eithriadau i'r uchod eu cymeradwyo fesul achos gan yr Is-bwyllgor Matriciwleiddio.
3. Trosglwyddo Credydau
Gellir dyfarnu credyd penodol ar gyfer rhaglenni sy'n rhan o radd/cymhwyster addysg uwch sy'n dwyn credydau, y mae'n amlwg bod’ y lefel, y safon academaidd, y cynnwys a'r deilliannau dysgu yn debyg i rai dyfarniad cyfatebol ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae'n rhaid bod lefel a chynnwys astudiaethau blaenorol yr ymgeisydd yn cydweddu'n briodol â'r modiwlau mae'n ceisio eithriad ar eu cyfer, yn enwedig o ran modiwlau craidd neu orfodol. Mae'n rhaid i'r Tiwtor Derbyn sicrhau bod y dysgu sy'n deillio o'r astudiaethau blaenorol hyn cyfwerth â'r dysgu y gallai'r ymgeisydd fod wedi'i gyflawni drwy ddilyn y rhaglen astudio lawn yn Abertawe. Serch hynny, mae hefyd yn bosib cydweddu â modiwlau opsiynol yn rhaglen Prifysgol Abertawe lle mae'r lefel yn gyfwerth ond nid yw'r cynnwys yn cyfateb.
Serch hynny, rhaid i ymgeiswyr nodi nad oes gwarant y cânt eu heithrio o gredydau ar eu rhaglen astudio arfaethedig ym Mhrifysgol Abertawe ac efallai na fydd hyn yn adlewyrchu'n uniongyrchol werth/lefel y credyd cyffredinol a roddwyd i'w cymhwyster presennol/blaenorol gan y corff dilysu h.y. gall fod yn llai.
Ni roddir eithriad fel arfer ar gyfer rhaglenni/cymwysterau a ddyfarnwyd dros 5 mlynedd yn ôl cyn y dyddiad cofrestru ar gyfer y rhaglen astudio arfaethedig. Byddai hyn yn cael ei ystyried mewn amgylchiadau eithriadol pan fyddai'r ymgeisydd yn gallu cynnig rhyw fath o dystiolaeth ategol sy'n nodi'r ffyrdd y mae'r dysgu drwy'r rhaglen/gymhwyster wedi'i gymhwyso a'i ddiweddaru dros y 5 mlynedd diwethaf. Ni fydd eithriad yn cael ei roi fel arfer pan fydd myfyriwr wedi cofrestru gynt am ddyfarniad ac wedi methu rhan ohono ac mae'n dymuno ailddechrau ar yr un dyfarniad neu un tebyg.
Ystyrir ceisiadau am eithriad gan fyfyrwyr sydd wedi astudio yn Abertawe o'r blaen ac wedi gadael â Thystysgrif neu Ddiploma Israddedig neu Ôl-raddedig ac sy'n dymuno dychwelyd i gwblhau'r radd, ond nid gan y rhai sydd wedi derbyn dyfarniad ymadael ar sail methiant academaidd. Derbynnir credydau sydd wedi cyfrannu at ddyfarniad llawn os yw'r dyfarniad blaenorol yn cael ei fforffedu a'r dystysgrif yn cael ei dychwelyd i'r sefydliad dyfarnu (lle bynnag y bo modd).
3.1
Y broses ymgeisio Os yw ymgeiswyr yn ansicr a yw eu hastudiaethau blaenorol yn gyfwerth â'r cymhwyster ym Mhrifysgol Abertawe maent yn hawlio credyd ar ei gyfer, dylent gysylltu â Thiwtor Derbyn y rhaglen dan sylw am drafodaeth anffurfiol cyn cyflwyno cais i drosglwyddo credydau.
Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw cyflwyno tystiolaeth i gefnogi ei gais i drosglwyddo credydau. Mae'n debygol y bydd tystiolaeth ategol yn cynnwys trawsgrifiad academaidd a maes llafur y rhaglen, ond bydd y Tiwtor Derbyn perthnasol yn cynghori'r ymgeisydd ar y ddogfennaeth sy'n ofynnol.
a. Dylai ymgeiswyr israddedig sydd am gyflwyno cais am fynediad uniongyrchol i flwyddyn 2 (neu flwyddyn 3) rhaglen nodi eu blwyddyn mynediad ddymunol yn yr adran 'pwynt mynediad' ar y ffurflen gais UCAS/Apply ac anfon tystiolaeth ategol i'r Swyddfa Derbyn.
Os yw ymgeisydd yn gofyn am fynediad uniongyrchol i flwyddyn 2 neu 3 ar ei ffurflen gais, bydd y Swyddfa Derbyn yn gwneud asesiad cychwynnol o'r ffurflen fel arfer ac yn amlygu'r wybodaeth ynghylch pwynt mynediad er sylw'r Tiwtor Derbyn. Os nad oes digon o dystiolaeth ategol o astudiaethau blaenorol yr ymgeisydd, dylai'r Swyddfa Derbyn roi gwybod i'r Tiwtor Derbyn a dylid gofyn i'r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ychwanegol.
Cyfrifoldeb Tiwtor Derbyn y rhaglen yw asesu a chymeradwyo ceisiadau am fynediad uniongyrchol i flwyddyn 2 y rhaglen (neu flwyddyn 3 rhaglen gradd gychwynnol uwch 4 blynedd). Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir ystyried cais am fynediad uniongyrchol i flwyddyn olaf rhaglen gradd israddedig, yn amodol ar gymeradwyaeth y Tiwtor Derbyn a'r Is-bwyllgor Matriciwleiddio. Nid yw mynediad uniongyrchol yn briodol ond ar gyfer y rhai sy'n ceisio eithriad, ar adeg gwneud cais, o flwyddyn/lefel gyfan rhaglen israddedig.
b. Ceisiadau am drosglwyddo credydau ar gyfer modiwlau unigol - Dylai ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen gais safonol ar gyfer y rhaglen (e.e. UCAS, Apply etc.) a Chydnabod Dysgu Blaenorol: Ffurflen trosglwyddo Credyd; gan amgáu tystiolaeth ategol berthnasol (fel arfer, trawsgrifiad ffurfiol a maes llafur).
Gellir cymryd hyd at 6 wythnos i brosesu ceisiadau i drosglwyddo credydau a bydd y Swyddfa Derbyn yn ysgrifennu at yr ymgeisydd i'w hysbysu am y canlyniad.
3.2
Dosbarthiad Gradd Ni fydd marciau credydau a drosglwyddir o Sefydliad Addysg Uwch arall yn y DU yn cael eu defnyddio i gyfrifo'r dyfarniad. Bydd y dyfarniad yn cael ei ddosbarthu gan ddefnyddio'r credydau a ddilynwyd ym Mhrifysgol Abertawe.
4. Cydnabod Dysgu Tystysgrifedig Blaenorol/Dysgu Blaenorol Drwy Brofiad
Er mwyn dyfarnu eithriad ar sail dysgu tystysgrifedig blaenorol neu ddysgu blaenorol drwy brofiad ar gyfer rhaglenni sy'n destun gofynion proffesiynol statudol neu reoleiddio, bydd angen bodloni gofynion penodol. Dylai ymgeiswyr ofyn i'r Tiwtor Derbyn perthnasol am gyngor pellach.
4.1
Y Broses Ymgeisio Anogir ymgeiswyr sydd am wneud cais ar sail Cydnabyddiaeth ar gyfer Dysgu Tystysgrifedig Blaenorol neu Ddysgu Blaenorol drwy Brofiad i gysylltu â Thiwtor Derbyn y rhaglen dan sylw am drafodaeth anffurfiol cyn cyflwyno cais. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw cyflwyno tystiolaeth i ategu ei gais i gydnabod dysgu blaenorol.
Bydd ceisiadau am ddysgu tystysgrifedig blaenorol neu ddysgu blaenorol drwy brofiad yn cael eu hasesu'n unigol. Mae'n rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi cyflawni profiad dysgu perthnasol. Gallai hyn fod drwy un neu fwy o'r canlynol, i'w benderfynu gan y Tiwtor Derbyn perthnasol:
a. ymgymryd ag un neu fwy o asesiadau cymeradwy ar gyfer pob modiwl (gallai hyn fod ar ffurf asesiadau safonol neu arholiadau atodol); neu asesiadau wedi'u dylunio a'u cymeradwyo'n benodol etc.); neu
b. gyflwyno portffolio o dystiolaeth i ddangos bod yr ymgeisydd wedi cyflawni deilliannau dysgu'r modiwl(au) a myfyrdod personol yr ymgeisydd am sut mae'r profiad wedi cynyddu ei ddealltwriaeth o'r maes pwnc perthnasol: gall hyn gynnwys cadarnhad gan reolwyr llinell o'r disgrifiad swydd/cyfrifoldebau'r swydd a galluoedd yr ymgeisydd.
Bydd Y Coleg yn cynnal asesiad cychwynnol i benderfynu a oes gan yr ymgeisydd ddigon o brofiad perthnasol i gwblhau portffolio.
Bydd Y Coleg yn sicrhau bod ymgeiswyr sydd am gael cydnabyddiaeth am Ddysgu Tystysgrifedig Blaenorol neu Ddysgu Blaenorol drwy Brofiad sy'n cael cynhyrchu portffolio yn derbyn cyngor digonol ynghylch yr hyn sy'n ofynnol cyn dechrau'r gwaith (strwythur, nifer y geiriau etc). Byddant yn cefnogi'r ymgeisydd (o fewn terfynau penodol) i gynhyrchu ei bortffolio. Bydd Y Coleg yn hysbysu ymgeiswyr sydd am gael cydnabyddiaeth am Ddysgu Tystysgrifedig Blaenorol neu Ddysgu Blaenorol drwy Brofiad am unrhyw offer asesu ychwanegol a ddefnyddir wrth asesu eu ceisiadau (e.e. cyfweliadau, profion diagnostig, aseiniadau arbennig). Bydd Y Coleg yn sicrhau bod ymgeiswyr yn llwyr ymwybodol o ofynion cais am gydnabyddiaeth ar gyfer Dysgu Tystysgrifedig Blaenorol neu Ddysgu Blaenorol drwy Brofiad cyn cyflwyno cais a'u bod yn deall nad yw cwblhau portffolio yn gwarantu y caiff eithriad ei roi.
Ar ôl i'r portffolio gael ei gyflwyno, bydd y Coleg yn penderfynu a yw'r dystiolaeth a ddarparwyd yn dangos bod ymgeisydd wedi cyflawni deilliannau dysgu'r modiwlau yn Abertawe y mae'n ceisio eithriad ar eu cyfer a bydd yn gwneud argymhelliad ynghylch Cydnabod Dysgu Tystysgrifedig Blaenorol/Dysgu Blaenorol drwy Brofiad i'r Is-bwyllgor Matriciwleiddio. Gellir cymryd hyd at 10 wythnos i brosesu ceisiadau am Gydnabod Dysgu Tystysgrifedig Blaenorol/Ddysgu Blaenorol drwy Brofiad.
4.2
Ffïoedd a thaliadau Codir tâl gweinyddol fesul modiwl am geisiadau am Gydnabod Dysgu Tystysgrifedig Blaenorol/Dysgu Blaenorol drwy Brofiad - 10% o ffi'r modiwl, ni waeth a yw'r cais yn llwyddiannus ai peidio.
4.3
Dosbarthiad Gradd Fel arfer byddai gradd llwyddo/methu yn hytrach na marc yn cael ei dyrannu i gredydau Cydnabod Dysgu Tystysgrifedig Blaenorol/Dysgu Blaenorol drwy Brofiad.
Dim ond y marciau ar gyfer modiwlau a astudiwyd yn Abertawe a ddefnyddir i gyfrifo dosbarth y radd, ac nid y credydau drwy Gydnabod Dysgu Tystysgrifedig Blaenorol/Dysgu Blaenorol drwy Brofiad. Lle cydnabyddir blwyddyn israddedig gyfan, bydd y datganiad canlynol yn ymddangos ar y trawsgrifiad. "Caniatawyd eithriad o gam cynnar y rhaglen astudio drwy gredyd, ar sail astudio mewn sefydliad arall, cymhwyster blaenorol neu brofiad gwaith perthnasol."
Yn achos cydnabod credydau unigol (llai na blwyddyn astudio gyfan) byddai nifer y credydau'n ymddangos ar y trawsgrifiad.
5. Ffioedd Dysgu
Polisi cyfredol y Brifysgol yw lleihau ffioedd dysgu myfyriwr yn ôl cost unrhyw fodiwlau sy'n cael eu heithrio drwy Gydnabod Dysgu Blaenorol (ond, gweler 4.2 uchod am daliadau ar gyfer ceisiadau Cydnabod Dysgu Tystysgrifedig Blaenorol/Dysgu Blaenorol drwy Brofiad). Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i adolygu'r polisi hwn ar unrhyw adeg. Os bydd cais ymgeisydd am Gydnabod Dysgu Blaenorol yn llwyddiannus, caiff cost unrhyw fodiwlau sy'n cael eu heithrio ei didynnu o'i ffioedd dysgu.
Fodd bynnag, os bydd yr ymgeisydd yn disgwyl penderfyniad ynghylch cais i Gydnabod Dysgu Blaenorol ar adeg cofrestru, bydd rhaid iddo dalu'r ffi ddysgu lawn yn brydlon. Os dyfernir credyd tuag at radd iddo wedi hynny, bydd yn derbyn ad-daliad am unrhyw fodiwlau sy'n cael eu heithrio.
Bydd Gwasanaethau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) yn cyfrifo unrhyw ostyngiad yn y ffioedd dysgu ar ôl i'r Swyddfa Derbyn anfon llythyr penderfyniad at yr ymgeisydd a chaiff ei gofnod myfyriwr ei ddiwygio i adlewyrchu hyn.
6. Apeliadau
Ni fydd y Brifysgol yn ailystyried penderfyniad ynghylch Cydnabod Dysgu Blaenorol lle mai'r unig sail dros geisio apêl yw'r ffaith bod yr ymgeisydd yn anghytuno â'r farn academaidd sy'n sail y penderfyniad, a lle nad oes unrhyw dystiolaeth na ddilynwyd y gweithdrefnau cywir. Ni fydd unrhyw rwymedigaeth ar y Brifysgol i ystyried apêl am yr unig reswm bod yr ymgeisydd yn anfodlon derbyn y penderfyniad gwreiddiol i beidio â dyfarnu credyd a'i fod am wrthdroi'r penderfyniad hwnnw.
Ni chaiff ymgeiswyr sy'n cyflwyno ceisiadau aflwyddiannus i Gydnabod Dysgu Blaenorol ofyn i'r penderfyniad gael ei adolygu ond ar sail tystiolaeth ychwanegol nad oedd ar gael ar adeg y cais, neu os oes tystiolaeth na ddilynwyd y gweithdrefnau cywir. Er enghraifft, os bydd yr ymgeisydd yn dod o hyd i ddogfennaeth ychwanegol sy'n berthnasol i'w astudiaethau tystysgrifedig blaenorol sy’n cefnogi ei gais. Dylid cyflwyno cais ysgrifenedig i'r penderfyniad gael ei adolygu'n ffurfiol i'r Swyddfa Derbyn.
Mae rhagor o gyngor ar gael ym Mhennod B6 Côd Ansawdd Addysg Uwch yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd.