Rheoliadau ar gyfer Astudio Dramor
Lleoliadau Semester a Blwyddyn Astudio
1. Rheoliadau Israddedigion ar gyfer Lleoliadau Astudio Dramor am Semester a Blwyddyn
Mae'r canllawiau hyn yn ddilys ar gyfer rhaglenni israddedig lle naill ai:
- Mae'r rhaglen yn gofyn bod myfyriwr yn astudio mewn sefydliad a gymeradwywyd am flwyddyn academaidd lawn er mwyn ennill credydau, hynny yw 'Lleoliad Blwyddyn Astudio Lawn'.
neu
- Mae'r myfyriwr yn astudio mewn sefydliad arall am gredydau yn lle'r credydau y byddai'r myfyriwr wedi'u hastudio fel arfer yn Abertawe, hynny yw 'Lleoliad Astudio Semester'.
2. Egwyddorion Cyffredinol
2.1
Lle mae'r cyfnod astudio yn ofyniad ffurfiol y rhaglen, rhaid i fanyleb y rhaglen nodi'n glir sut y dylid bodloni deilliannau dysgu arfaethedig y rhaglen.
2.2
Rhaid i bob cytundeb partneriaeth newydd sicrhau darparu fframwaith credydau, a chanllawiau am ddyrannu marciau.
2.3
Rhaid i unrhyw gyfnod ffurfiol o leoliad astudio ennill credydau a chyfrannu at gymhwyster y rhaglen, ac felly at ddosbarth y radd (hynny yw, felly, nid dim ond i'r penderfyniad llwyddo/methu).
2.4
Fel arfer, dylid gwneud y Lleoliad Astudio Blwyddyn:
• Yn ystod trydedd flwyddyn gradd gychwynnol bedair blynedd o hyd sy'n cynnwys blwyddyn neu semestrau dramor;
• Yn ystod pedwaredd flwyddyn gradd gychwynnol pum mlynedd o hyd sy'n cynnwys blwyddyn o semestrau tramor.
Lle bo angen (er enghraifft, oherwydd oedi wrth leoli o ganlyniad i bandemig byd-eang neu fater arall), gellir cymryd lleoliadau hefyd ym mlwyddyn 4 raglen 4 blynedd, neu flwyddyn 5 o raglen 5 mlynedd, gyda chytundeb y Gyfadran/Ysgol.
2.5
Pennir unrhyw farciau a enillir ar leoliad astudio trwy drosi marciau'r sefydliad partner gan ddefnyddio'r Canllawiau a gymeradwywyd gan Brifysgol Abertawe. Bydd trawsgrifiad swyddogol y Brifysgol yn dangos marc(iau) Prifysgol Abertawe ar ôl trosi'r marciau o'r lleoliad astudio.
3. Fframwaith Strwythurol
3.1
Dylai lleoliadau astudio gydymffurfio ag un o'r strwythurau canlynol:
- Blwyddyn o hyd (cyfwerth â 120 credyd Prifysgol Abertawe, ac yn aml cyfeirir at y fath flwyddyn fel blwyddyn ryngosodol);
- Dau semester dros gyfnod o ddwy flwyddyn (cyfwerth â 2 x 60 credyd Prifysgol Abertawe ac yn aml cyfeirir at y fath drefniant fel blwyddyn ryngosodol);
- Un semester (cyfwerth â 60 credyd Prifysgol Abertawe o fewn gradd tair blynedd neu radd gychwynnol uwch bedair blynedd);
- Cyfuniad o leoliad astudio un semester a lleoliad gwaith un semester (cyfwerth â 120 credyd Prifysgol Abertawe, ac yn aml cyfeirir at y fath drefniant fel blwyddyn ryngosodol);
3.2
Cofnodir lleoliad astudio blwyddyn llawn fel 120 credyd, a lleoliad astudio semester fel 60 credyd ar drawsgrifiad Prifysgol Abertawe y myfyriwr.
3.3
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr gofrestru ar gyfwerth ag isafswm o 80% o lwyth cwrs llawn ym Mhrifysgol Abertawe yn y sefydliadau partner (gall fod eithriadau a gall rhai partneriaid ganiatáu i fyfyrwyr gofrestru ar lai nag 80% o gwrs llawn ym Mhrifysgol Abertawe). Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol, er bod Prifysgol Abertawe yn disgwyl i fyfyrwyr gofrestru ar 80% o lwyth cwrs llawn yn unig, y gall rheoliadau fisa yn y wlad sy'n eu derbyn fynnu bod myfyrwyr yn cofrestru ar lwyth cwrs llawn yn y sefydliad partner.
Bydd myfyrwyr yn cael Cynllun Dysgu a fydd yn rhoi manylion am yr isafswm llwyth credydau y bydd yn ofynnol iddynt gofrestru ar eu cyfer yn y brifysgol bartner.
3.4
Trosir y marciau trwy ddefnyddio'r Canllawiau i'r weithdrefn am ddyrannu marciau ar gyfer cyfnod Semester Tramor a gymeradwywyd. Bydd trawsgrifiad swyddogol y Brifysgol yn dangos marciau Prifysgol Abertawe ar ôl trosi'r marc(iau) o'r lleoliad astudio.
4. Trothwy ar Gyfer Cymryd Rhan
4.1
Mae proses ymgeisio gystadleuol ar waith ar gyfer astudio dramor. Bydd y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol yn gweithio gyda Chyfadrannau i ystyried perfformiad academaidd myfyriwr a datganiad personol fel rhan o'r broses ymgeisio honno.
4.2
Ystyrir amgylchiadau esgusodol myfyrwyr fesul achos.
4.3
Caniateir i gyfadrannau/ysgolion osod cyfartaledd gofynnol fel trothwy ar gyfer cyfranogiad (a adolygir ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf), yn amodol ar brosesau cymeradwyo'r Brifysgol.
4.4
Os dyfernir asesiadau atodol i fyfyrwyr yn ystod eu hail flwyddyn astudio, rhaid iddynt basio'r asesiadau atodol a chael caniatâd i symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf cyn y gall myfyrwyr gyfranogi mewn lleoliad dramor am semester/flwyddyn. Gall hyn olygu na fydd modd i fyfyrwyr fynd i'r brifysgol bartner o'u dewis (e.e. y rhai hynny yn yr Unol Daleithiau, Awstralia neu Ganada gan fod y tymor yn dechrau yng nghanol mis Awst ac ni fydd canlyniadau asesiadau atodol yn hysbys mewn pryd).
4.5
Ni fydd myfyrwyr na chaniateir iddynt symud ymlaen yn eu hastudiaethau cyn y lleoliad astudio dramor am semester neu flwyddyn yn gallu cyfranogi yn y semester/flwyddyn dramor ac efallai y bydd angen iddynt drosglwyddo i raglen astudio wahanol (o raglen astudio sy'n para am bedair blynedd i raglen astudio sy'n para am dair blynedd).
5. Cyfrifoldebau'r Cydlynyddion Academaidd
Rhaid i Gydlynyddion Academaidd sicrhau:
5.1
Bod myfyrwyr yn hollol ymwybodol o'r trefniadau academaidd ar gyfer unrhyw leoliad astudio cyn ymrwymo iddo, a bod gan fyfyrwyr sy'n dymuno astudio mewn iaith nad yw'n famiaith iddynt y sgiliau iaith perthnasol.
5.2
Bod y modiwlau a astudir ar leoliad astudio ar lefel addas ar gyfer y rhaglen.
5.3
Y caiff Cytundeb Dysgu cymeradwy ei gwblhau cyn cychwyn y lleoliad astudio, ac na newidir y cytundeb heb eu cydsyniad penodol nhw, a chydsyniad y myfyriwr.
5.4
Yr hysbysir myfyrwyr am gyfleoedd ailsefyll yn y brifysgol/gwlad arall cyn iddynt ddewis lleoliad astudio.
5.5
Y cynhelir cyswllt rheolaidd ag unrhyw fyfyriwr sy'n ymgymryd â lleoliad astudio ar ben y gofynion ar y myfyriwr yn ôl y Polisi Monitro Presenoldeb ar gyfer Myfyrwyr a Addysgir.
6. Cofnodi Modiwlau Lleoliadau Astudio ar Gofnod y Myfyriwr
6.1
Mae'r Brifysgol wedi mabwysiadu ymagwedd wedi'i seilio ar dystiolaeth tuag at drosi marciau a enillir ar leoliadau, ar ffurf tablau trosi graddau a gymeradwywyd, sydd wedi'u meincnodi a'u cymharu â thrawsgrifiadau a thablau graddio o'n sefydliadau partner ac o sefydliadau Addysg Uwch eraill yn y Deyrnas Unedig.
6.2
Mae'r Brifysgol yn cydnabod y gall fod amrywiaeth sylweddol yn nifer y cyrsiau a'r credydau sydd ar gael i'w hastudio yn y brifysgol bartner. Argymhellir (at ddibenion cofnodi lleoliad astudio ar gofnod Abertawe) defnyddio un o'r opsiynau canlynol (caiff Cyfadrannau/Ysgolion ddewis yr opsiwn mwyaf priodol):
LLEOLIAD BLWYDDYN
|
LLEOLIAD SEMESTER
|
---|---|
1 modiwl Prifysgol Abertawe gwerth 120 credyd
|
1 modiwl Prifysgol Abertawe gwerth 60 credyd
|
2 fodiwl Prifysgol Abertawe gwerth 60 credyd
|
4 modiwl Prifysgol Abertawe gwerth 15 credyd
|
8 modiwl Prifysgol Abertawe gwerth 15 credyd
|
|
Neu strwythur amgen yn ôl diffiniad cytundeb partneriaeth penodol.
|
6.3
Os bydd y Gyfadran/Ysgol yn penderfynu defnyddio un modiwl Abertawe (60 neu 120 credyd Prifysgol Abertawe) ar gyfer y lleoliad astudio, dylid cyfrifo'r marc terfynol fel a ganlyn:
• Defnyddio'r marciau a'r credydau a gofnodir ar y trawsgrifiad (cyn trosi), er mwyn;
• Cyfrifo cyfartaledd wedi'i bwysoli o'r holl farciau a enillwyd;
• Cyfrifo'r marc canolrifol;
• Dewis y marc gorau o safbwynt y myfyriwr o'r holl amcangyfrifon hyn, a'i drosi i radd Prifysgol Abertawe gan ddefnyddio'r tablau trosi a gymeradwywyd.
6.4
Os bydd y Gyfadran/Ysgol yn penderfynu defnyddio 4 (neu 8) modiwl gwerth 15 credyd Abertawe (cyfwerth â 4 neu 8 modiwl cyfartal o ran credydau yn y sefydliad partner) ar gyfer y lleoliad astudio, dylid cyfrifo'r marc ar gyfer pob modiwl fel a ganlyn:
- Trosi'r marc ar gyfer pob modiwl ar y trawsgrifiad gan ddefnyddio'r tablau cymeradwy a'i neilltuo i fodiwl cyfwerth Abertawe.
6.5
Rhaid trosi marciau gan ddefnyddio'r wybodaeth a ddarperir ar drawsgrifiad y sefydliad partner yn unol â'r tablau trosi cymeradwy y cyfeiriwyd atynt uchod a'r Canllawiau a gymeradwywyd gan Brifysgol Abertawe a gymeradwywyd.
6.6
Y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol fydd yn gwneud y trosi cychwynnol ar ran y Cyfadrannau/Ysgolion, a bydd yn anfon y marc a argymhellir at y Cydlynydd Academaidd perthnasol (ynghyd â chopi o'r trawsgrifiad).
6.7
Y Cydlynydd Academaidd fydd yn gyfrifol am adolygu'r marc a argymhellir i sicrhau ei fod yn gadarn.
7. Gwneud Iawn am Fethiant
7.1
Fel arfer, nid yw Prifysgol Abertawe yn cynnig cyfle atodol i fyfyrwyr sy'n methu modiwl tra eu bod yn astudio tramor.
7.2
Rhaid i fyfyrwyr gael eu hysbysu am y cyfleoedd ailsefyll sydd ar gael yn y brifysgol neu'r wlad arall cyn iddynt ddewis yr opsiwn.
7.3
Lle mae sefydliad partner yn cynnig cyfle ailsefyll yn arferol yn ystod cyfnod y lleoliad, cynghorir myfyrwyr i fanteisio ar y cyfle hwn i ailsefyll unrhyw fodiwlau a fethwyd.
7.4
Mewn achos lle mae amgylchiadau esgusodol (neu amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y myfyriwr), mae'n bosibl y cynigir cyfle asesu atodol ar argymhelliad y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd.
7.5
Lle cynigir cyfle asesu atodol, rhaid i'r Gyfadran/Ysgol sicrhau ei fod yn bodloni deilliannau dysgu'r modiwl.
8. Cyfraniad at Ddosbarth y Radd
8.1
Ceir canllawiau ar sut mae lleoliadau astudio'n cyfrannu at ddosbarth terfynol y radd yn y Rheoliadau Academaidd.
Canllawiau i'r Weithdrefn am Ddyrannu Marciau ar Gyfer Cyfnod Semester Tramor
Rhoddir cyngor i bob myfyriwr am y modiwlau sy'n addas yn rhan o'i radd ym Mhrifysgol Abertawe. Caiff bob myfyriwr gytundeb dysgu cyn iddo adael a fydd yn rhoi manylion am nifer a lefel y credydau y disgwylir iddo gofrestru ar eu cyfer. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy'n treulio semester dramor gofrestru ar gyfer oddeutu 25 credyd System Trosglwyddo Credydau Ewropeaidd (ECTS) (neu'r nifer cyfwerth o gredydau a gymeradwywyd mewn prifysgolion rhyngwladol). Ar ôl dychwelyd o semester dramor, caiff y graddau eu trosi'n 60 credyd Prifysgol Abertawe ar gyfer Semester Dramor.
Bydd pob myfyriwr sy'n dychwelyd o semester dramor yn derbyn trawsgrifiad swyddogol gan y brifysgol yr aeth iddi. Fel arfer, caiff copi o'r trawsgrifiad neu lythyr canlyniadau ei anfon i’r Swyddfa Datblygu Rhyngwladol hefyd, ac yna caiff ei roi i'r cydlynydd academaidd perthnasol ar gyfer cyfrifo a throsi'r marciau.
1. Trosi Marciau a Enillwyd mewn Sefydliad Partner
Wrth ddyrannu marc ar gyfer semester, dylai cydlynwyr academaidd gyfeirio at y cytundeb dysgu a gwblhawyd yn ogystal â'r trawsgrifiad academaidd a ddarparwyd gan y sefydliad partner.
Bydd trawsgrifiad gan brifysgolion partner yn Ewrop yn cynnwys gwybodaeth am nifer y credydau ar gyfer pob modiwl neu gwrs a astudiwyd, yn ogystal â gradd System Trosglwyddo Credydau Ewropeaidd (ECTS) (rhwng A ac E) a marc gwirioneddol ar gyfer y modiwl neu'r cwrs.Bydd trawsgrifiad gan bartneriaid rhyngwladol yn cynnwys gwybodaeth am nifer y credydau ar gyfer y modiwl neu'r cwrs a marc gwirioneddol ar gyfer y modiwl neu'r cwrs.
I gyfrifo'r marc a ddefnyddir wrth bennu lefel dyfarniad Prifysgol Abertawe, dylid dilyn y drefn hon:
Dyrannu marciau
Penderfynu ar y dull mwyaf priodol o ddyrannu marciau a ddyfarnwyd o brifysgol bartner i gredydau Abertawe (gan ddefnyddio'r dull mwyaf manteisiol i'r myfyriwr):
- 1 modiwl gwerth 60 credyd - fel arfer y dull mwyaf addas ar gyfer credydau System Trosglwyddo Credydau Ewropeaidd
- 4 modiwl gwerth 15 credyd yr un - fel arfer y dull a ddefnyddir ar gyfer marciau o Hong Kong a rhai sefydliadau yn yr Unol Daleithiau
neu
- Strwythur amgen a gymeradwywyd gan y Brifysgol yn unol â diffiniad cytundeb partneriaeth strategol penodol
Cyfrifo a Throsi'r Marciau
a) Lle defnyddir 1 modiwl 60 credyd
Yn gyntaf, dylid cyfrifo ystod y marciau a roddwyd gan y sefydliad partner, o ran
- Cyfartaledd wedi'i bwysoli
a’r
- Canolrif
Wedyn, dylid trosi'r marc gorau o'r rhain o safbwynt y myfyriwr i gredydau Abertawe gan ddefnyddio Tablau Trosi Gradd Abertawe h.y.
I gyfrifo'r cyfartaledd wedi'i bwysoli:
- Lluosi'r marc gan nifer y credydau ar gyfer y modiwl hwnnw (am bob modiwl sydd i'w gynnwys yn y cyfrifo).
Er enghraifft, mae myfyriwr wedi astudio mewn prifysgol yn Ffrainc am semester, ac wedi astudio 25 credyd System Trosglwyddo Credydau Ewropeaidd. Dyma ei ganlyniadau:
modiwl XX1 marc a enillwyd = 12 (3 chredyd) 12 x 3 = 36
modiwl XX2 marc a enillwyd = 13 (5 credyd) 13 x 5 = 65
modiwl XX3 marc a enillwyd = 11 (6 chredyd) 11 x 6 = 66
modiwl XX4 marc a enillwyd = 10 (5 credyd) 10 x 5 = 50
modiwl XX5 marc a enillwyd = 14 (6 chredyd) 14 x 6 = 84
Adiwch yr holl farciau hyn
36+65+66+50+84 = 301
a rhannu â nifer y credydau a ddefnyddiwyd wrth gyfrifo (hynny yw 25, yn yr achos hwn) i ddod i'r cyfartaledd wedi'i bwysoli
301 ÷ 25 = 12.04
Y cyfartaledd wedi'i bwysoli yw 12.04.
I gyfrifo'r canolrif:
modiwl XX1 marc a enillwyd = 12 (3 chredyd)
modiwl XX2 marc a enillwyd = 13 (5 credyd)
modiwl XX3 marc a enillwyd = 11 (6 chredyd)
modiwl XX4 marc a enillwyd = 10 (5 credyd)
modiwl XX5 marc a enillwyd = 14 (6 chredyd)
Rhestrwch y rhifau mewn trefn (yr uchaf yn gyntaf)
14
13
12
11
10
Chwiliwch am y rhif yn y canol = 12
(os oes nifer eilrif o fodiwlau, adiwch y ddau rif yn y canol, a rhannu â 2)
Y canolrif yw 12
Ystyriwch pa rif - y cyfartaledd wedi'i bwysoli ynteu'r canolrif - sydd fwyaf manteisiol i'r myfyriwr.
Mae gan y myfyriwr uchod gyfartaledd wedi'i bwysoli o 12.04 a chanolrif o 12.
Gan ddefnyddio Tabl Trosi Graddau Prifysgol Abertawe, byddai cyfartaledd wedi'i bwysoli yn Ffrainc o 12.04 yn gyfwerth, yn fras, a gradd o oddeutu 58% yn Abertawe, a byddai canolrif o 12 gyfwerth ag oddeutu 57%.
Felly, yn yr achos hwn, dylid defnyddio'r cyfartaledd wedi'i bwysoli, gan gofnodi 58% yn farc terfynol ar gyfer y semester tramor.
b)
Marciau i'w dyrannu i 4 modiwl 15 credyd yr un
e.e. Mae myfyriwr mewn prifysgol bartner yn astudio'r modiwlau canlynol ac yn ennill y graddau a nodir gan y partner. Gellir neilltuo'r rhain i bedwar modiwl unigol:
Modiwl Credydau Gradd y Partner
MOD1 3 chredyd A
MOD2 3 chredyd B
MOD3 3 chredyd A
MOD4 3 chredyd C
Gan ddefnyddio'r tabl trosi, cyfrifir marciau Abertawe fel a ganlyn:
Modiwl Gradd Abertawe Wedi'i Throsi
MOD1 A = 72
MOD2 B = 61
MOD3 A = 72
MOD4 C = 51
Wedyn, cofnodir y marciau hyn ar drawsgrifiad Abertawe fel 4 modiwl 15 credyd yr un, gan roi'r canlyniad hwn:
Abertawe1 = 72%
Abertawe2 = 62%
Abertawe3 = 72%
Abertawe4 = 51%
2. Dosbarth y Dyfarniad
Defnyddir canlyniadau'r modiwlau yn y fframwaith Dosbarth Dyfarniadau gan ddefnyddio'r dull addas fel y'i cyhoeddir yn y Rheoliadau Asesu Israddedig, Dosbarthiad Gradd Anrhydedd.
Tablau Trosi Graddau Lleoliadau Astudio (Israddedig)
EWROP*
Ystod marciau Abertawe | ECTS | Awstria | Gwlad Belg | Denmarc | Y Ffindir | Ffrainc | Yr Almaen | Gwlad Groeg | Hwngari | Yr Eidal | Iseldiroedd | Gwlad Pwyl | Sbaen | Sweden | Swistir |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
100 78 |
A | 1 |
18 17 16 |
12 | 5 |
20 16 |
1.0 |
10 8.5 |
5 |
30 lode 29 |
10 9 |
5 |
10 9 |
5 |
6.0 5.2 |
77 66 |
B |
15 14 13 |
10 | 4 |
15 14 |
1.3 1.7 |
8 7 |
4 |
28 26 |
8.9 7.5 |
4.5 4.0 |
9 7.5 |
4 |
5.1 4.6 |
|
65 57 |
C | 2 |
12.9 12 |
7 | 3 |
13 12 |
2.0 2.7 |
6 | 3 |
25 23 |
7.4 6.5 |
3.75 |
7.4 6.2 |
3 |
4.5 4.2 |
56 45 |
D | 3 |
11.9 11 |
4 | 2 |
11.9 11 |
3.0 3.7 |
5 | 2.5 |
22 20 |
6.4 6 |
3.5 |
6.1 5.5 |
2 |
4.1 3.6 |
44 40 |
E | 4 |
10.9 10 |
02 | 1 |
10.9 10 |
4.0 | 4 | 2 |
19 18 |
5.9 5.5 |
3 |
5.4 5.0 |
2 |
3.5 3.2 |
<39 | F | 5 | <10 |
00 -3 |
0.9 | <10 | 5.0 |
3 2 |
1 | <18 | <5.5 | 2 | 4.5 | 1.9 | <3.2 |
Canrannau ECTS | Gradd gyfwerth ECTS | Canrannau Abertawe 2013/14 |
---|---|---|
10% | A | 78 – 100% |
25% | B | 66 – 78% |
30% | C | 57 – 66% |
25% | D | 45 – 57% |
10% | E | < 45% |
RHYNGWLADOL*
Marc Abertawe | Awstralia | Canada | Hong Kong | Seland Newydd | UDA (dyfarnu A+) | UDA (ddim yn dyfarnu A+) |
---|---|---|---|---|---|---|
100 | ||||||
90 | A+ | |||||
85 | ||||||
80 | High Distinction (85‐100) | A+ | ||||
76 | A+ | A | A+ | A | ||
75 | A | |||||
74 | ||||||
73 | Distinction (80‐84) | |||||
72 | A | A‐ | A | A‐ | ||
71 | ||||||
70 | A‐ | |||||
68 | Distinction (75‐79) | A‐ | A‐ | B+ | ||
65 | B+ | B | ||||
64 | Credit (70‐74) | B+ | B+ | B | ||
61 | B | B | B‐ | |||
60 | B | |||||
58 | Credit (65‐69) | B‐ | B‐ | B‐ | C+ | |
55 | B‐ | |||||
54 | C+ | C+ | C | |||
52 | Pass (60‐64) | |||||
51 | C | C+ | C | C‐ | ||
50 | C+ | |||||
48 | Pass (56‐59) | |||||
47 | C‐ | C‐ | D | |||
45 | C | C | ||||
44 | Pass (50‐55) | |||||
42 | D | C‐ | D | D‐ | ||
41 | ||||||
40 | Pass Condoned (46‐49) | D | C‐ | |||
39 | ||||||
37 | D‐ | D‐ | ||||
0‐30 | F | F | D/E | F | F |
*SYLWER
Canllawiau yw’r tablau hyn yn unig, a dylid eu defnuddio ar y cyd â’r tabl trawsgrifio a throsi a ddarperir gan y Brifysgol sy’n derbyn y myfyriwr.