Y Priodoleddau Graddedigion (PG) yw ein gweledigaeth ar gyfer y sgiliau a'r rhinweddau y bydd pob myfyriwr sy'n dod i Brifysgol Abertawe yn eu datblygu.


PG1: Cymhwysedd Proffesiynol ac yn y Ddisgyblaeth
Nodau a Buddion:
Mae'r holl raglenni yn Abertawe wedi'u dylunio i'ch helpu i ddod yn gymwys yn eich disgyblaeth drwy ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a rhinweddau proffesiynol a rhai sy'n benodol i'r pwnc, sy'n hanfodol ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Drwy asesiadau dilys, arloesol sy'n seiliedig ar sgiliau, bydd gennych chi'r cyfle i arddangos eich gallu mewn meysydd academaidd a phroffesiynol. Drwy wreiddio'r ymagwedd hon ar draws eich cwricwlwm byddwch yn:
- Meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r cymwyseddau sy'n angenrheidiol yn eich disgyblaeth i lwyddo yn eich proffesiwn dewisol.
- Ennill dealltwriaeth glir o sut mae eich taith academaidd yn eich paratoi ar gyfer y gweithle, gan roi hwb i'ch hyder a'ch parodrwydd am yrfa.

PG2: Mynd i'r afael â Heriau Byd-eang
Nodau a Buddion:
Mae'r briodoledd hon yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch ym meysydd cynaliadwyedd, newid yn yr hinsawdd a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Byddwch yn dysgu sut mae eich disgyblaeth yn effeithio ar y Nodau Datblygu Cynaliadwy a sut i gymhwyso eich dysgu i fynd i'r afael â heriau byd-eang, yn eich bywyd personol a phroffesiynol. Mae hyn yn sicrhau y byddwch:
- Wedi’ch paratoi’n dda i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol, yn lleol ac yn fyd-eang a deall y ffactorau sy'n dylanwadu ar y materion hyn.
- Yn diwallu anghenion cyflogwyr ar gyfer graddedigion â chymwyseddau sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd.
- Yn meddu ar ymwybyddiaeth fyd-eang a meddylfryd moesegol, a'r gallu i ddatrys problemau cymdeithasol ac amgylcheddol yn eich gyrfa.

PG3: Cyfathrebwyr Effeithiol
Nodau a Buddion:
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddofn o egwyddorion cyfathrebu ac yn meistroli eich sgiliau cyfathrebu drwy gydol eich astudiaethau, drwy ddarlithoedd, seminarau ac asesiadau, gan eich galluogi chi i:
- Ddefnyddio cyfathrebu effeithiol i wella eich gyrfa wrth adeiladu rhwydweithiau proffesiynol wyneb yn wyneb ac ar-lein.
- Cydweithio'n hyderus mewn timau, dehongli negeseuon o ffynonellau amrywiol a chymhwyso gwybodaeth yn briodol.
- Adeiladu hyder cymdeithasol a phroffesiynol, i’ch galluogi i fynegi eich hun yn briodol ar draws cyd-destunau gwahanol.
- Dysgu i fynegi eich sgiliau’n glir ar draws ystod o gyfryngau, gan ddewis y tôn a’r cywair priodol ar gyfer pob cynulleidfa, gan gynnwys platfformau digidol.

PG4: Meddylwyr Arloesol
Nodau a Buddion:
Rydym eisiau i chi raddio wedi'ch paratoi’n dda i feddwl yn feirniadol, datrys problemau byd go iawn a ffynnu mewn byd sy'n newid yn gyflym. Gan fod meddylfryd entrepreneuraidd ac arloesi wedi'u plethu i'ch cyrsiau, byddwch yn:
- Nodi cyfleoedd ac yn mynd i'r afael â heriau gan ddefnyddio data, ymchwil a meddwl yn feirniadol.
- Magu’r hyder i ddatrys problemau cymhleth byd go iawn, a gweithio ar brosiectau byw gyda chyflogwyr, diwydiannau a chymunedau.
- Meithrin dealltwriaeth o sut mae busnesau a gweithleoedd yn gweithredu yn eich maes.
- Myfyrio ar eich dysgu i ddod yn feddyliwr hyblyg ac annibynnol.
- Datblygu sgiliau ymarferol, sy'n benodol i'r pwnc y gallwch eu rhoi ar waith ar unwaith mewn lleoliadau proffesiynol.

PG5: Arweinwyr Cydweithredol
Nodau a Buddion:
Rydym eisiau i chi fagu hunanhyder a hyder yn eich ffordd o gydweithio ac arwain. Trwy ddatblygu'r briodoledd hon drwy gydol eich cwrs byddwch yn:
- Deall eich cryfderau a sut i'w defnyddio i gyfrannu'n ystyrlon mewn grwpiau.
- Cyfathrebu a chydweithio'n effeithiol â chymheiriaid.
- Meithrin hunanymwybyddiaeth i adnabod sut mae eich emosiynau, eich personoliaeth a’ch cymhellion yn llywio eich gweithredoedd.
- Gosod nodau clir, yn rheoli eich amser ac yn cynllunio sut i gyflawni pethau, ar eich pen eich hun ac mewn tîm.
- Datblygu'r hyder i gamu y tu hwnt i'ch parth cysur, croesawu heriau a pharhau i dyfu.
- Cydnabod ac yn gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol ac yn deall sut gall amrywiaeth wneud timau'n gryfach.
- Meithrin rhinweddau arweinyddiaeth megis deallusrwydd emosiynol, gwydnwch, hyder a goddefgarwch.