Bydd y rhan fwyaf o newidiadau'n effeithio ar fyfyrwyr newydd sy'n dechrau'r rhaglen. Fodd bynnag, efallai bydd rhai addasiadau'n berthnasol i fyfyrwyr presennol. Os yw hynny'n digwydd, byddwch yn cael gwybod ymlaen llaw a darperir arweiniad ynghylch sut mae'n effeithio arnoch chi.
Nac ydy, ein nod yw cael cydbwysedd rhwng darparu strwythur a rhoi hyblygrwydd i chi. Y nod yw rhoi ffocws gwell i gyrsiau a'u gwneud yn fwy effeithlon heb dynnu opsiynau gwerthfawr. Bydd gennych chi'r cyfle o hyd i ddewis modiwlau dewisol ac archwilio eich diddordebau.
Rydym yn adolygu strwythur asesiadau i sicrhau eu bod yn gytbwys ac yn ystyrlon. Dros amser, mae nifer yr asesiadau wedi cynyddu, sydd wedi rhoi pwysau diangen ar fyfyrwyr. Rydym yn gweithio i:
Osgoi gor-asesu - Lleihau gormod o asesiadau fel y gallwch chi ganolbwyntio ar ddysgu.
Dosbarthu asesiadau'n fwy cyfartal - Gan sicrhau nad yw'r holl ddyddiadau cau'n dod ar unwaith.
Gwneud asesiadau'n fwy ystyrlon - Canolbwyntio ar asesiadau sydd wir yn adlewyrchu'r hyn rydych chi wedi’i ddysgu.
Byddant. Mae cynaliadwyedd, moeseg, a'r argyfwng hinsawdd yn themâu allweddol Trawsnewid y Cwricwlwm. Rydym yn ychwanegu'r rhain at gyrsiau i sicrhau eich bod yn:
Deall yr heriau sy'n wynebu cymdeithas a'r blaned.
Datblygu sgiliau a fydd yn eich helpu i gyfrannu at ddatrysiadau yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Barod i weithio mewn diwydiannau lle mae cynaliadwyedd yn dod yn fwyfwy pwysig.
Mae cynwysoldeb yn ffocws mawr wrth Drawsnewid y Cwricwlwm. Rydym eisiau i’n holl fyfyrwyr deimlo eu bod wedi'u cefnogi a’u gwerthfawrogi. Mae hyn yn golygu:
Sicrhau bod addysgu, deunyddiau ac asesiadau'n hygyrch i bawb.
Adlewyrchu cefndiroedd ac anghenion amrywiol myfyrwyr mewn cynnwys cyrsiau.
Darparu mwy o gymorth lle mae ei angen i helpu pob myfyriwr i lwyddo.
Fel arall, os hoffech drafod Trawsnewid y Cwricwlwm wyneb yn wyneb, mae croeso i chi anfon neges i’r mewnflwch a byddwn yn trefnu cyfarfod gydag aelod o'r tîm.