delwedd o raddedigion yn taflu eu capiau yn yr awyr a logo'r newid cwricwlwm

Darganfyddwch sut mae cwricwlwm Prifysgol Abertawe yn cael ei drawsnewid


Beth yw Trawsnewid y Cwricwlwm a pham mae'n digwydd?

Mae Trawsnewid y Cwricwlwm yn broses lle mae'r Brifysgol yn adolygu ac yn diweddaru ei chyrsiau i sicrhau eu bod yn parhau’n berthnasol, yn effeithiol ac yn werthfawr. Y nod yw darparu'r profiad addysgol gorau posibl a sicrhau bod yr hyn rydych chi'n ei astudio'n adlewyrchu’r tueddiadau diweddaraf mewn diwydiant a'r sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Mae hyn yn helpu i:

  • Sicrhau bod cyrsiau’n cydweddu â'r datblygiadau diweddaraf yn y sector.
  • Gwella'r ffordd mae cyrsiau'n cael eu haddysgu a'u hasesu.
  • Sicrhau bod myfyrwyr yn graddio wedi meithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfaoedd.
  • Ymateb i adborth myfyrwyr a gwella'r profiad addysgol cyffredinol.

 Mae'r fframwaith cwricwlwm newydd yn sefydlu safonau cynllunio clir a fydd yn sicrhau cysondeb a safon ar draws yr holl raglenni. Bydd hefyd yn ymgorffori priodoleddau allweddol graddedigion a fydd yn hanfodol ar gyfer llwyddiant ein myfyrwyr mewn gweithleoedd modern a'r byd ehangach.

Bydd trawsnewid ein cwricwla yn unol â'r fframwaith hwn yn sicrhau bod Prifysgol Abertawe yn parhau ar y blaen o ran rhagoriaeth addysgol, a fydd o fudd i'n myfyrwyr a'n staff mewn ffyrdd effeithiol.


Sut bydd Trawsnewid y Cwricwlwm yn effeithio arnaf?

Mae Prifysgol Abertawe yn cyflwyno strwythur credydau newydd yn unol â'r sector i wneud pethau'n symlach a gwella eich profiad:

  • 120 credyd ar Lefel 3
  • 80 credyd ar Lefel 4
  • 40 credyd ar Lefelau 5 a 6

Bydd hyn yn golygu:

  • Ymdeimlad cryfach o gymuned - Byddwch chi'n astudio gyda'r un grŵp o fyfyrwyr yn amlach, gan eich helpu i adeiladu cysylltiadau.
  • Llai o wrthdrawiadau yn eich amserlen - Rydym yn gwella'r amserlennu i wneud pethau'n fwy hwylus.
  • Gwell dilyniant dysgu - Bydd y strwythur yn ei gwneud hi'n haws dilyn y cwrs ac adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd.

Manteision

  • Profiad addysgol mwy cadarnhaol, cyfoethog, cynhwysol ac hyblyg, wedi’i gyd-greu gyda staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid allanol.
  • Cwricwlwm hyblyg ac addasadwy, wedi’i gyd-greu gyda rhanddeiliaid, sy’n adlewyrchu anghenion amrywiol, yn gwerthfawrogi moeseg ac yn ymgorffori cynaliadwyedd.
  • Mae graddedigion yn ennill gwybodaeth benodol i’w disgyblaeth, sgiliau digidol a rhinweddau proffesiynol sy’n angenrheidiol i lwyddo mewn byd sy’n newid.
  • Mae myfyrwyr yn cael eu paratoi i fynd i’r afael â heriau lleol a byd-eang gyda hyder, addasrwydd ac ymwybyddiaeth foesegol.
  • Mae dysgwyr yn datblygu sgiliau cryf mewn cyfathrebu, cydweithredu a datrys problemau drwy brofiadau go iawn.
  • Mae technolegau newydd yn cael eu hintegreiddio i’r dysgu i gynhyrchu graddedigion sy’n llythrennog yn ddigidol ac yn fedrus o ran gwybodaeth, ac yn barod ar gyfer y gweithle modern.
  • Mae’r cwricwlwm yn cefnogi cyflogadwyedd drwy ddatblygu rhinweddau proffesiynol wedi’u hymgorffori, gan baratoi myfyrwyr i ffynnu mewn amgylcheddau sy’n esblygu fel rhan o rwydwaith cysylltiedig o gyn-fyfyrwyr Abertawe.
  • Mae ymgysylltu â sefydliadau allanol yn gwella cyflogadwyedd ac yn meithrin dealltwriaeth o ddisgwyliadau’r gweithle.