grŵp o bobl yn cael cyfarfod â'u dyfeisiau

Os ydych yn cydweithio ar brosiect, gall fod yn ddefnyddiol os oes gennych le cyffredin lle gallwch i gyd rannu ffeiliau neu weithio ar yr un pryd.

Ym Mhrifysgol Abertawe mae gan ein holl fyfyrwyr gyfrif Office 365 a meddalwedd arall a fydd yn caniatáu i chi gymryd rhan mewn cyfarfodydd ar-lein, storio a rhannu ffeiliau ar-lein a llunio dogfennau ar y cyd. Mae opsiynau eraill ar gael  hefyd, megis Google Drive a DropBox. Gydag Office 365 a Google Drive, yn ogystal â storio ffeiliau yn yr un lle, gallwch hefyd eu golygu ar y cyd ar yr un pryd.

Creative Commons LicenseMae’r cynnwys hwn yn dod o’r ffynhonnell ganlynol gan Brifysgol Hull, ac mae wedi’i drwyddedu dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0.