Mae dewis anferth o adnoddau ar-lein y gallwch eu defnyddio i hwyluso eich cyfarfodydd, a bydd rhaid i chi gytuno pa rai ohonynt byddwch yn eu defnyddio drwy gydol eich prosiect.

Isod rhestrir rhai o'r adnoddau y gallwch ystyried eu defnyddio, ynghyd â'u manteision a'u hanfanteision fel y gallwch eu cymharu.

Canvas

logo canvas

Manteision:

Mae cyfrif gan bawb eisoes. Does dim angen cyfnewid manylion cyswllt oherwydd bod modd cysylltu â phawb  mewn modiwl drwy Canvas.

Anfanteision:

Nid yw mor gyflym neu syml o'i gymharu â'r offer eraill.

E-bost

logo e-bost

Manteision:

Mae cyfrif gan bawb eisoes. Hyd yn oed os nad yw cyfeiriadau e-bost pawb gennych, gallwch chwilio amdanynt yn y llyfr cyfeiriadau cynhwysfawr yn Outlook ar y we.

Anfanteision:

Nid pawb sy'n cadw llygad ar eu cyfrif e-bost. Gall fod yn anodd cynnal sgyrsiau grŵp ac mae'n anodd rhannu ffeiliau.

Messenger

logo messenger

Manteision:

Mae'n cynnig ffordd o gyfathrebu ar unwaith rhwng aelodau'r grŵp.Gall hwyluso galwadau fideo grŵp hefyd. Mae'n rhwydd iawn rhannu ffotograffau.

Anfanteision:

Ni fydd pawb am gael cyfrif Messenger. Gall fod yn rhwystredig dod o hyd i bawb.

WhatsApp

logo WhatsApp

Manteision:

Mae'n cynnig negeseua, galwadau sain a fideo. Gallwch rannu eich sgrîn ag eraill yn yr alwad hefyd.

Anfanteision:

Mae'n rhaid i bawb fod yn gysylltiedig ar yr un pryd.

Slack

Logo Slack

Manteision:

Offeryn cyfathrebu pwerus a ddyluniwyd i gael ei ddefnyddio yn lle e-bost mewn busnesau.

Anfanteision:

Bydd yn cymryd amser i bawb ddod i arfer ag ef.

Zoom

Logo Zoom

Manteision:

Mae'n cynnig cynadledda proffesiynol ar-lein, gan ganiatáu i eraill rannu sain, fideo a sgriniau.

Anfanteision:

Mae'n gyfyngedig i 40 munud ar gyfer cyfarfodydd grŵp a bydd yn datgysylltu wedi hynny.

Creative Commons LicenseMae’r cynnwys hwn yn dod o’r ffynhonnell ganlynol gan Brifysgol Hull, ac mae wedi’i drwyddedu dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0.