GWYBODAETH AM SYMUD I MEWN I LETY TŶ BECK

Beck House

CYN I CHI GYRRAEDD

 

  1. Derbyniwch eich Cytundeb Tenantiaeth a chwblhau eich proses Sefydlu ar-lein yma.
  2. Ar gyfer ein prif gyfnod Cyrraedd, rhwng dydd Mercher 20 a dydd Sadwrn 23 Medi, dylech chi drefnu amser i gyrraedd y campws.                                                        Os bydd eich tenantiaeth yn dechrau y tu allan i’r amserau hyn, gallwch gyrraedd y tu allan i’r slot amser rydych wedi’i ddewis ar ddyddiad dechrau eich tenantiaeth neu ar ôl y dyddiad hwn.
  3. Gallwch gwrdd â’ch cyd-letywyr a thrafod eitemau rydych chi am eu rhannu. Byddai hyn yn osgoi cael 5 tostiwr ond dim sosbenni yn eich cegin!
Group of people

CYMUNED UNIBUDDY

Cysylltwch â phobl eraill yng Nghymuned Unibuddy

GRŴP FACEBOOK

GRŴP FACEBOOK

Ymunwch â’ch grŵp Facebook a chwrdd â’ch cyd-letywyr

CYRRAEDD YMA

16 – 26 Heol Sgeti, Uplands, Abertawe SA2 0NF

PAN FYDDWCH YN CYRRAEDD

Ewch i Dderbynfa’r Llety yn yr adeilad i gasglu eich allwedd.

Oriau Agor: O ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 4pm.

Gellir parcio ar y safle am ddim.

Os byddwch yn cyrraedd y tu allan i'r amserau uchod, bydd tîm Diogelwch y Campws ar gael 24 awr y dydd a bydd yn gallu rhoi mynediad i chi i’ch llety. Pan fyddwch yn cyrraedd, ffoniwch: + 44 (0) 1792 604271 neu + 44 (0) 1792 205678