GWYBODAETH AM SYMUD I MEWN I LETY AR GAMPWS PARC SINGLETON

Photograph of students walking past Cefn Bryn on Singleton Park Campus

CYN I CHI GYRRAEDD

 

  1. Derbyniwch eich Cytundeb Tenantiaeth a chwblhau eich proses Sefydlu ar-lein yma.
  2. Ar gyfer ein prif gyfnod Cyrraedd, rhwng dydd Mercher 20 a dydd Sadwrn 23 Medi, dylech chi drefnu amser i gyrraedd y campws.                                                        Os bydd eich tenantiaeth yn dechrau y tu allan i’r amserau hyn, gallwch gyrraedd y tu allan i’r slot amser rydych wedi’i ddewis ar ddyddiad dechrau eich tenantiaeth neu ar ôl y dyddiad hwn
  3. Gallwch gwrdd â’ch cyd-letywyr a thrafod eitemau rydych chi am eu rhannu. Byddai hyn yn osgoi cael 5 tostiwr ond dim sosbenni yn eich cegin!
unibuddy logo

CYMUNED UNIBUDDY

Cysylltwch â phobl eraill yng Nghymuned Unibuddy

facebook logo

GRŴP FACEBOOK

Ymunwch â’ch grŵp Facebook a chwrdd â’ch cyd-letywyr

CYRRAEDD YMA

PAN FYDDWCH YN CYRRAEDD

Ewch i Dderbynfa Preseli, adeilad rhif 20 ar y map o'r campws.

Oriau agor: O ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 10pm.

Bydd angen i chi gofrestru eich cerbyd yn y Dderbynfa at ddibenion llwytho (os yw'n berthnasol). Unwaith eich bod wedi cofrestru, bydd gennych ganiatâd i barcio am hyd at 2 awr heb dalu.

Os byddwch yn cyrraedd y tu allan i'r amserau uchod, bydd tîm Diogelwch y Campws ar gael 24 awr y dydd a bydd yn gallu roi mynediad i chi i’ch llety. Pan fyddwch yn cyrraedd, ffoniwch: + 44 (0) 1792 604271 neu + 44 (0) 1792 205678