Tân, Diogelwch a Diogeledd
Gwasanaethau Diogelwch
Mae timau Diogelwch Campws Parc Singleton a Champws y Bae yn darparu gwasanaeth diogelwch 24/7. Mae'r ddarpariaeth hon yn cynnwys patrolau ar draws y campws, monitro lluniau teledu cylch cyfyng, ymatebwyr cyntaf i larymau a rheoli eiddo a gollwyd. Mae'r tîm Diogelwch hefyd yn gweithredu fel y swyddogion cymorth cyntaf ar bob safle.
Yn ystod eich amser mewn llety, gallwch chi helpu i sicrhau diogelwch y llety drwy:
- Sicrhau bod ffenestri eich ystafell wely ar glo
- Sicrhau bod eich ystafell wely a drws eich fflat wedi'u cloi a bod y drysau'n cau'n dynn ar eich ôl
- Bod yn ymwybodol o bobl anawdurdodedig sy'n eich dilyn i mewn i’ch llety
- Rhoi gwybod am unrhyw weithgaredd neu ddigwyddiadau anarferol
Argyfwng
Mae gwybodaeth am weithdrefnau ar gyfer argyfyngau'n cael ei rhoi ar gefn drws eich ystafell wely.
Sut rydw i'n cael gafael ar y tîm diogelwch mewn argyfwng?
Ffoniwch +44 (0) 1792 604271 neu defnyddiwch yr ap SafeZone.
Os bydd angen y gwasanaethau brys arnoch (Ambiwlans, yr Heddlu neu'r Gwasanaeth Tân) ffoniwch 999.
Awgrymiadau am Ddiogelwch Personol
Meddyliwch am eich diogelwch yn y preswylfeydd, a byddwch yn wyliadwrus bob amser. Cofiwch gloi eich ystafell a chau'r ffenestri a'r drws pan fyddwch chi’n mynd allan. Os na wnewch chi hyn, gallech chi annilysu eich polisi yswiriant cynnwys, yn ogystal â pheryglu diogelwch y preswylwyr eraill. Mae byrgleriaethau mewn preswylfeydd yn brin, ond gall gadael drysau/ffenestri ar agor fod yn demtasiwn i ladron.
- Peidiwch â gadael neb nad ydych chi’n ei adnabod i mewn i’ch adeilad neu’r fflat
- Dylech chi gloi eich ystafell, hyd yn oed os ydych chi’n mynd allan am eiliad yn unig
- Peidiwch â gadael eiddo gwerthfawr lle gellir eu gweld – dylech chi eu rhoi o'r golwg neu eu cloi mewn man ddiogel
- Os ydych chi ar y llawr gwaelod, dylech chi gau eich ffenestr pan fyddwch chi’n gadael eich ystafell
- Cysylltwch â'r tîm Diogelwch os byddwch chi’n gweld rhywbeth amheus
- Dywedwch wrth eich cymdogion os byddwch chi’n mynd i ffwrdd i osgoi achosi pryder
Os oes angen i chi roi gwybod am ladrad, ffoniwch Dderbynfa eich Safle a'r heddlu ar +44 (0) 1792 456999. Bydd angen cyfeirnod trosedd arnoch ar gyfer hawliad yswiriant.
Diogelwch tân - eich cyfrifoldebau
Cofiwch fod rheolau a rheoliadau tân yno i’ch diogelu chi a’r preswylwyr eraill rhag risg achosi tân. Rydym yn gyfrifol am sicrhau eich bod yn gwybod beth i'w wneud mewn argyfwng, felly rhowch amser i ymgyfarwyddo â’r hanfodion sylfaenol i’ch cadw'n ddiogel.
Ceir cyfarwyddiadau diogelwch tân ym mhob rhan o'r llety a gellir eu gweld ar ddrws eich ystafell wely ac ar hysbysfyrddau cymunedol. Darllenwch yr arwyddion tân a diogelwch hyn wrth symud i mewn.
- Sicrhewch nad oes eiddo personol yn rhwystro’r allanfeydd tân a'r mannau cymunedol , gan gynnwys y ffordd allan o’ch ystafell wely.
- Peidiwch â gadael pethau'n coginio heb eu gwylio.
- Mae saim wedi’i losgi ar hob ffwrn yn berygl tân, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn eu glanhau yn rheolaidd.
- Mae canhwyllau, ffyn arogldarth a llosgwyr arogldarth yn berygl tân, ac ni chaniateir hwy yn y preswylfeydd.
- Ni chaniateir gwresogyddion personol, tuniau nwy a deunyddiau llosgadwy eraill yn y preswylfeydd.
- Mae’n rhaid defnyddio a storio offer coginio personol (megis: platiau poeth; griliau; tostwyr brechdanau; peiriannau coginio reis) yn y gegin yn unig. Ni chaniateir defnyddio eitemau felly yn yr ystafelloedd gwely.
- Mae peiriannau ffrio dwfn yn berygl tân ac ni chaniateir hwy yn y preswylfeydd.
- Mae gennym broblemau cyson ar ddechrau'r tymor gyda stêm o gawodydd yn actifadu larymau, felly cofiwch gau drysau'r ystafell ymolchi yn ystod ac ar ôl cawodydd.
Mae gan bawb gyfrifoldeb am wybod beth i'w wneud os bydd argyfwng, felly cymerwch amser i ddeall yr wybodaeth hon.
Am ragor o fanylion am ddiogelwch tân, gweler yr wybodaeth sefydlu o ran llety myfyrwyr ar eich Cyfrif Llety.
Profion Larwm Tân
Cynhelir profion larwm tân unwaith yr wythnos ac ym mhob adeilad. Yn ystod y prawf, bydd y larwm yn canu am ychydig eiliadau. Os yw'r larwm yn canu'n barhaus, mae hyn yn dangos bod larwm tân yn canu oherwydd tân go iawn. Os bydd larwm tân go iawn, dylid dilyn gweithdrefnau gwacáu'r adeilad.
Gweler y weithdrefn gwacáu mewn argyfwng yn eich ystafell wely i wybod beth i'w wneud os bydd tân. Dylech chi adael yn gyflym drwy ddefnyddio'r grisiau; nid y lifftiau. Os byddwch chi’n dod ar draws tân, rhaid i chi actifadu'r larwm tân, gadael yr adeilad a mynd i'r man ymgynnull dynodedig ar gyfer yr adeilad. Peidiwch â pheryglu eich hun unrhyw bryd.
Ymarferion tân a gwacáu
Mae gofyniad cyfreithiol ar y Brifysgol i gynnal driliau gwacáu mewn tân yn ei holl adeiladau. Bydd rhaglen reolaidd o ddriliau ar gyfer y flwyddyn academaidd yn dechrau’n fuan ar ôl i chi gyrraedd.
Mae driliau tân wedi'u dylunio i fod mor realistig â phosibl a bydd larwm yn canu'n barhaus. Mae'n ofynnol i bob preswylydd adael adeiladau'r preswylfeydd a chwrdd yn y man ymgynnull cyhoeddus.
Gall peidio â chadw at weithdrefnau neu beidio â chydweithredu yn ystod ymarfer tân arwain at gamau disgyblu.
Lifftiau
Ceir lifft ym mhob un o'n blociau llety. Cânt eu gwirio a'u cynnal gan ein technegwyr cynnal a chadw a pheirianwyr allanol.
I sicrhau na fydd problemau gyda’r lifft dilynwch y rheolau syml hyn:
- Peidiwch â mynd i mewn i’r lifft nes bod y golau lefel allanol wedi'i oleuo.
- Peidiwch byth â rhwystro drysau'r lifft. Os oes angen i'r drysau fod ar agor am gyfnod hwy, pwyswch y <> ar banel mewnol y lifft. Bydd dal y drysau ar agor â llaw, neu eu rhwystro, yn atal y lifft rhag gweithredu.
- Mae'r terfyn pwysau wedi'i nodi yn y lifft. Gall gorlenwi’r lifft, neu neidio ynddo achosi i'r lifft dorri.
Er ei bod yn annhebygol, os bydd y lifft yn stopio gweithio wrth ei ddefnyddio, dylech chi bwyso a dal y botwm galw a byddwch chi’n cael eich cysylltu â chanolfan alwadau'r peirianwyr, lle bydd aelod o'r tîm yn gofyn am fanylion a bydd peiriannydd yn cael ei anfon. Gallai ymyrryd â'r botwm argyfwng arwain at godi taliadau a chymryd camau disgyblu. Caiff pob lifft ei fonitro gan deledu cylch cyfyng er eich diogelwch.
Os bydd y larwm tân yn canu pan fyddwch yn defnyddio'r lifft, bydd y lifft yn gostwng yn awtomatig i'r llawr gwaelod a bydd y drysau'n agor. Ni fydd modd defnyddio’r lifft nes bod y larwm wedi'i ailosod.
Eitemau gwaharddedig
Mae nifer o eitemau sydd wedi'u gwahardd o'n llety am resymau diogelwch. Nid yw'r rhestr isod yn holl gynhwysfawr, a gellir ychwanegu eitemau, a gosod cyfyngiadau os oes angen. Os canfyddir bod gennych chi eitemau gwaharddedig neu os ydych chi’n archebu eitemau yr amheuir eu bod yn waharddedig i'r llety, gall hyn arwain at gamau disgyblu.
- Rhaid storio oergelloedd, gan gynnwys oergelloedd bach, mewn ceginau (ac eithrio'r rhai a ddarperir gan y Brifysgol mewn llety ar sail arlwyo rhannol, ac at ddibenion meddygol)
- Tuniau ocsid nitraidd
- Canhwyllau a fflamau noeth
- Ffyn arogldarth
- Byrddau dartiau
- Barbeciws
- Arfau, h.y. bwâu, saethau, gwaywffyn etc.
- Tân gwyllt
- Tuniau nwy cywasgedig
Mae'r tîm Llety yn cadw'r hawl i fynd i mewn i unrhyw ystafell ar unrhyw adeg i ymchwilio, tynnu a gwahardd unrhyw eitemau sy'n berygl tân.
Ffenestri ystafelloedd ac ardaloedd cyfyngedig
Mae cyfyngwyr agor ffenestri wedi'u gosod ar bob ffenestr am resymau diogelwch. Ni ddylid tynnu nac ymyrryd â'r cyfyngwyr hyn am unrhyw reswm. Peidiwch â gorfodi ffenestri a chofiwch gau ffenestri pan fyddwch chi’n gadael eich llety. Gall difrod a achosir drwy adael ffenestri ar agor arwain at godi tâl. Os nad ydych chi’n siŵr sut i weithredu eich ffenestr, siaradwch ag aelod o’r staff. Byddwch yn ymwybodol wrth storio eitemau ar siliau ffenestri, bydd camau disgyblu'n cael eu cymryd ar gyfer unrhyw ddifrod a achosir gan eitemau sy'n cwympo neu'n cael eu taflu. Ni ddylai eitemau gael eu taflu o'r llety neu eu storio ar siliau allanol o dan unrhyw amgylchiadau.
Byddwch yn ymwybodol a chymerwch ofal a chamau diogelu ychwanegol os yw eich ystafell ar y llawr gwaelod a sicrhewch fod ffenestri bob amser ar gau os bydd eich ystafell yn wag.
Ni chaniateir i chi gael mynediad i atig, mannau ar y to, llwybrau cynnal a chadw, cypyrddau codi nac unrhyw fannau anawdurdodedig eraill.
Damweiniau
Os cewch chi ddamwain neu os oes angen Cymorth Cyntaf arnoch chi, siaradwch ag aelod o'r tîm yn Nerbynfa eich Preswylfa a fydd yn eich cynghori’n briodol ac yn llenwi ffurflen ddamweiniau. Caiff unrhyw ffurflenni damweiniau sydd wedi'u cwblhau eu hadolygu yn ystod y cyfarfodydd Adolygu Diogelwch adrannol.
Mae digwyddiad Trwch Blewyn yn ddigwyddiad sydd â'r potensial i achosi damwain. Rhowch wybod am ddigwyddiadau Trwch Blewyn cyn i ddamwain ddigwydd.
Clirio eira a graeanu
Yn ystod tywydd oer, cynghorir myfyrwyr i gymryd gofal ychwanegol, gan y gallai arwynebau fynd yn llithrig. Os yw eira neu iâ’n debygol, bydd prif lwybrau, mynedfeydd a grisiau yn cael eu graeanu. Ar ôl iddi fwrw eira, bydd yr ardaloedd hyn yn cael eu clirio (cyn gynted ag y bo modd) ac yn cael eu gwirio'n rheolaidd. Mewn gwyntoedd cryfion a glaw trwm, rhaid cymryd gofal ychwanegol i gadw ffenestri ar gau.