POLISI ASTUDIO MEWN SEFYDLIADAU DRAMOR

Mae Prifysgol Abertawe'n ceisio datblygu a chynnal trefniadau cyfnewid myfyrwyr strategol a byd-eang cyffrous a fydd yn galluogi ei myfyrwyr i ehangu eu gorwelion a gwella profiad y myfyrwyr drwy symudedd, astudio dramor a thrwy ryngweithio â sefydliadau rhyngwladol proffil uchel a’u staff.

1. DIFFINIAD


1.1

Mae astudio dramor yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â lleoliad sy'n rhoi credydau mewn sefydliad partner dan delerau cytundeb cyfnewid. Mae myfyrwyr ar raglenni cyfnewid yn cael eu cofrestru gyda Phrifysgol Abertawe a'u sefydliad lletyol yn ystod y cyfnod cyfnewid.

2. EGWYDDORION

2.1

Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfnewid myfyrwyr yn seiliedig ar yr egwyddorion craidd canlynol:

i. Bydd yr holl drefniadau astudio dramor yn cynnig profiad i fyfyrwyr sy'n cyfateb o ran ansawdd i'r hyn y mae Prifysgol Abertawe'n ei gynnig.

ii. Bydd Prifysgol Abertawe'n ymrwymo adnoddau priodol i reoli, goruchwylio a chefnogi gweithgareddau cyfnewid myfyrwyr, er mwyn cefnogi nod strategol y Brifysgol o feithrin graddedigion byd-eang hynod gyflogadwy.

iii. Bydd egwyddorion strategol a gwerthoedd y partner cyfnewid a'r Brifysgol/Gyfadran/Ysgol yn cyfateb i'w gilydd.

iv. Bydd yr holl bartneriaid cyfnewid rhyngwladol o ansawdd addas, gan ystyried enw da a statws ar restrau o brifysgolion y byd.

v. Bydd yr holl drefniadau cyfnewid myfyrwyr yn bodloni'r ansawdd a'r safonau a bennir gan brosesau cymeradwyo'r Brifysgol a Chôd Ansawdd Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) y DU.

vi. Bydd Prifysgol Abertawe'n sicrhau y caiff deilliannau dysgu ar gyfer gweithgareddau cyfnewid myfyrwyr eu cyfleu'n glir, a bod y cyfleoedd o hyd ac ansawdd digonol i sicrhau y gellir cyflawni deilliannau. Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod mecanweithiau ar waith i gynnig cyfleoedd amgen i fyfyrwyr i gyflawni deilliannau dysgu os na ellir cwblhau profiad cyfnewid myfyrwyr.

vii. Bydd Prifysgol Abertawe'n cadw cyfrifoldeb am y radd a ddyfernir yn ei henw. Bydd y Brifysgol yn sicrhau y caiff cyfrifoldebau unigol a chyfunol myfyrwyr, staff a darparwyr eu diffinio a'u cyfleu'n glir.

viii. Bydd Prifysgol Abertawe'n rhoi trefniadau llywodraethu effeithiol ar waith ar gyfer gweithgareddau cyfnewid myfyrwyr ar lefel sefydliadol a lleol. Os bydd myfyrwyr yn anfodlon ar eu profiad, mae gan y Brifysgol fecanweithiau priodol ar waith i dderbyn cwynion ac ymateb iddynt.

ix. Bydd Prifysgol Abertawe'n sicrhau y caiff yr holl bartneriaethau cyfnewid myfyrwyr eu gwerthuso cyn i fyfyrwyr ymgymryd â'r profiad ac yn barhaus wedyn.

x. Bydd Prifysgol Abertawe'n sicrhau bod myfyrwyr yn gallu ymgymryd â gweithgareddau cyfnewid myfyrwyr yn unol ag awdurdodaeth leol, yn ogystal â rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau Prifysgol Abertawe. Bydd y Brifysgol yn sicrhau y cydymffurfir â gofynion cyrff perthnasol, gan gynnwys cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol mewn perthynas â'r trefniadau cyfnewid myfyrwyr.

xi. Bydd Prifysgol Abertawe'n sicrhau bod gweithdrefnau cadarn ar waith i ddiogelu profiad y myfyriwr os bydd yn rhaid tynnu myfyriwr yn ôl o brifysgol bartner.

xii. Bydd Prifysgol Abertawe'n mabwysiadu ymagwedd gymesur at ddiogelu gweithgareddau cyfnewid myfyrwyr ac yn cyflawni, i'r graddau y bydd yn rhesymol ymarferol, ei dyletswydd gofal am yr holl fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyfleoedd cyfnewid myfyrwyr.

xiii. Bydd Bwrdd Partneriaethau Cydweithredol y Brifysgol yn cadw cyfrifoldeb terfynol am y profiad academaidd a'r safonau mewn prifysgolion partner.

3. CYMERADWYO TREFNIADAU CYFNEWID MYFYRWYR NEWYDD

3.1

Mae trefniadau cyfnewid myfyrwyr yn cynnwys sefydlu cytundeb cyfnewid sefydliadol neu drefniant cyfnewid penodol i bwnc – rhaid cael cytundeb cyn gweithredu. Mae'r Swyddfa Datblygu Rhyngwladol yn gyfrifol am ddatblygiad strategol trefniadau cyfnewid myfyrwyr ac am fynd ati wedyn i gyfeirio trefniadau cyfnewid newydd arfaethedig am gymeradwyaeth.

3.2

Er mwyn i drefniant cyfnewid myfyrwyr newydd gael ei gymeradwyo ar gyfer maes pwnc penodol, rhaid i gyfnod symudedd gael ei gymeradwyo eisoes o fewn rhaglen radd berthnasol.

3.3

Mae dau gam ar gyfer cymeradwyo trefniadau cyfnewid myfyrwyr newydd.

i. Cymeradwyaeth Academaidd.
ii. Proses Diwydrwydd Dyladwy.

3.4

Cymeradwyaeth Academaidd: Bydd y broses o gael cymeradwyaeth academaidd yn cynnwys ystyried a chymeradwyo'r achos academaidd gan Bwyllgor Addysgu'r Gyfadran (neu Bwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig y Gyfadran/Ysgol, os ceir cyfnewid ar lefel ymchwil ôl-raddedig). Er mwyn trosglwyddo credydau, rhaid cael cymeradwyaeth academaidd ar gyfer maes pwnc penodol y brifysgol bartner. Ar gyfer cytundebau cyfnewid newydd sy'n ymwneud â'r Brifysgol gyfan, dylai fod arwydd o gefnogaeth gan Gyfadrannau/Ysgolion.

Bydd yr achos academaidd yn cynnwys ystyried y canlynol:

i. Priodoldeb y rhaglen dysgu arfaethedig yn y brifysgol bartner;
ii. Argaeledd modiwlau perthnasol;
iii. Cyfwerthedd deilliannau dysgu;
iv. Addysgu, adnoddau ymchwil (os bydd yn briodol), cymorth a chyfleusterau yn y brifysgol bartner;
v. A yw'r astudiaethau gyfwerth â lefel Prifysgol Abertawe ai peidio;
vi. Arferion asesu a phrosesau sicrhau ansawdd i ddangos cyfwerthedd â safonau Prifysgol Abertawe.

3.5

Diwydrwydd Dyladwy: Fel rhan o'r broses diwydrwydd dyladwy, bydd y Bwrdd Partneriaethau Cydweithredol yn ystyried ac yn cymeradwyo'r cynnig cyfnewid myfyrwyr, wedi'i hwyluso gan y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol a'r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd.

Mae'n ofynnol i'r Brifysgol, fel rhan o'i goblygiadau dan Gyngor ac Arweiniad Côd Ansawdd y DU ar Bartneriaethau, sicrhau y cynhelir asesiadau risg ac ymholiadau diwydrwydd dyladwy cymesur ar yr holl drefniadau partneriaeth arfaethedig newydd.

Mae Prifysgol Abertawe'n mabwysiadu ymagwedd sy'n seiliedig ar risg ym mhob achos ac mae ymholiadau diwydrwydd dyladwy'n ymdrech ar y cyd rhwng pob parti â diddordeb, wedi'i goruchwylio gan y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd. Cynhelir ymholiadau diwydrwydd dyladwy o ryw fath bob amser, waeth am enw da'r partner. Mae hyn yn unol ag arweiniad QAA.

Bydd diwydrwydd dyladwy'n ystyried y canlynol:

i. Statws academaidd a phroffesiynol y sefydliad;

ii. Statws cyfreithiol y sefydliad a'i allu i gymryd rhan mewn partneriaeth cyfnewid myfyrwyr;

iii. Statws a sefydlogrwydd ariannol y sefydliad;

iv. Strwythurau addysg uwch y wlad;

v. Y cyd-destun gwleidyddol, moesegol a diwylliannol;

vi. Profiad y partner arfaethedig o letya ac addysgu myfyrwyr cyfnewid rhyngwladol o wledydd eraill;

vii. Yr iaith addysgu ac asesu (a chyfleusterau cymorth ieithyddol priodol os nad Saesneg yw'r iaith addysgu);

viii. Cynhelir asesiad risg gan y Cyfadrannau/Ysgolion/Gwasanaethau Ansawdd Academaidd ar bob cynnig er mwyn asesu lefel y risg sy'n gysylltiedig â'r sefydliad partner a'r trefniadau partneriaeth arfaethedig;

ix. Byddai ymweliad â safle partner posib fel arfer cyn y byddai'r Brifysgol yn anfon myfyrwyr ar raglenni symudedd allanol er mwyn cynnal dyletswydd gofal y Brifysgol i'w myfyrwyr.

4. TROSGLWYDDO A CHYDNABOD CREDYDAU

4.1

Bydd yr holl drefniadau cyfnewid myfyrwyr sy'n rhan annatod a chydnabyddedig o'r rhaglen radd yn gofyn am drosglwyddo credydau o'r brifysgol letyol i Brifysgol Abertawe. Rhoddir gwybod i'r myfyrwyr am y marc a gaiff ei bennu i'w hastudiaethau gan y Gyfadran/Ysgol gartref. Bydd y marc hwn yn cael ei gynnwys yn y confensiynau dosbarthu graddau ac efallai y bydd yn dylanwadu ar ddosbarthiad gradd myfyrwyr. Mae'r rheolau ynghylch dyfarnu gradd i fyfyrwyr sy'n astudio ar raglen sy'n cynnwys cyfnod symudedd wedi eu cynnwys yn rheoliadau'r rhaglen a'r rheoliadau asesu. Mae'r rheoliadau sy'n llywodraethu symudedd a dilyniant myfyrwyr ar gael yma: https://myuni.swansea.ac.uk/cy/bywyd-academaidd/rheoliadau-academaidd/canllawiau-a-addysgir/gwybodaeth-hanfodol-ar-gyfer-myfyrwyr-a-addysgir/cyfleoedd-symudedd/

4.2

Mae proses trosglwyddo credydau'n darparu system deg a thryloyw o drosglwyddo credydau a graddau o un sefydliad i un arall er mwyn nodi'r perfformiad gradd/academaidd cyfatebol ar raddfa werthuso'r Brifysgol gartref.

4.3

Mae gan Bwyllgor Addysgu'r Gyfadran berthnasol gyfrifoldeb cyffredinol am gymeradwyo'r broses o drosglwyddo graddau a chredydau.

4.4

Dylai Cyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu benodi Cydlynydd Academaidd i fod yn gyfrifol am y broses o drosglwyddo credydau a graddau ar gyfer rhaglenni mewn meysydd pwnc.

4.5

Cyn dechrau'r cyfnod symudedd, dylid cytuno ar raglen astudio unigol â phob myfyriwr a'i chadarnhau'n ffurfiol mewn Cytundeb Dysgu. Mae'r Cytundeb Dysgu'n gweithredu fel ‘addewid trosglwyddo credydau’ ac yn gwarantu bod y credydau a bennir yn y Cytundeb Dysgu yn briodol, eu bod wedi cael eu cymeradwyo ac y cânt eu trosglwyddo yn ôl i gwrs gradd y myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe. Yn ogystal, mae cynllun dysgu/hyfforddi ar gyfer pob myfyriwr yn nodi'r gofynion cyffredinol.

4.6

Os bydd myfyriwr am wneud newidiadau i'r Cytundeb Dysgu cymeradwy, dylid gwneud hyn o fewn pedair wythnos i ddechrau ei leoliad a bydd yn rhaid i'r Cydlynydd Academaidd gymeradwyo'r holl newidiadau.

4.7

Dylai adrannau sicrhau bod myfyrwyr yn deall yn llwyr eu hymrwymiadau astudio a sut caiff y graddau a geir dramor eu hintegreiddio yn rhaglen y cwrs gradd cyn iddynt ddechrau astudio dramor. Ymdrinnir â hyn yng nghyfarfodydd paratoi adrannol y Gyfadran/Ysgol ac yn y llawlyfr sy'n ymwneud â blwyddyn/semester dramor, ac yn rhannol yn y cynllun dysgu.

5. MONITRO, GWERTHUSO AC ADOLYGU

5.1

Fel rhan o'r broses fonitro:

i. Bydd y Cydlynydd Academaidd yn gweithio gyda'r Swyddfa Datblygu Rhyngwladol i sicrhau bod myfyrwyr yn cael yr wybodaeth angenrheidiol cyn eu lleoliad a bydd yn gyfrifol am sicrhau y cedwir mewn cysylltiad â myfyrwyr yn ystod eu lleoliad.

ii. Bydd y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol yn cyflwyno adroddiad blynyddol am weithgareddau cyfnewid myfyrwyr i'r Bwrdd Partneriaethau Cydweithredol.

iii. Rhennir adborth gan fyfyrwyr â Chyfadrannau/Ysgolion ac mae'n cyfrannu at yr adroddiad adolygu blynyddol a'r adolygiad mwy ffurfiol a gynhelir cyn adnewyddu contract.

iv. Bydd yr adborth ar gyfer yr adroddiad blynyddol a'r adolygiad ffurfiol yn cynnwys gwybodaeth am y partner, y cymorth a gafwyd gan y Gyfadran/Ysgol a'r cymorth a roddwyd gan dîm Ewch yn Fyd-eang y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol.

v. Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd y Brifysgol yn cymryd pob mesur sy'n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd, lles a phrofiad ehangach y myfyriwr.

6. ADNEWYDDU CYTUNDEBAU

i. Ar gyfer cytundebau sy'n benodol i bwnc, bydd y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol yn gofyn i'r Gyfadran/Ysgol a yw am adnewyddu'r cytundeb. Os bydd Cyfadrannau/Ysgolion am ei adnewyddu, bydd y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol yn gwneud hynny. Fodd bynnag, byddai'r Swyddfa Datblygu Rhyngwladol yn amlygu cytundebau nas defnyddiwyd ac yn awgrymu y dylid rhoi terfyn arnynt.

ii. Ar gyfer cytundebau sy'n ymwneud â'r Brifysgol gyfan, bydd tîm Ewch yn Fyd-eang yn penderfynu a ddylid eu hadnewyddu ai peidio, heb ymgynghori â Chyfadrannau/Ysgolion, yn seiliedig ar y galw am y trefniadau cyfnewid. Bydd adborth gan fyfyrwyr yn llywio'r penderfyniad hwn. Gwneir hyn drwy'r Bwrdd Partneriaethau Cydweithredol, yn seiliedig ar restr a ddarperir gan y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol o gytundebau sydd ar fin dod i ben. Bydd y Bwrdd Partneriaethau Cydweithredol yn gofyn yn ffurfiol i Gyfadrannau/Ysgolion am ymateb ynghylch a ddylid eu hadnewyddu ai peidio a chofnodir hyn yng nghofnodion y Bwrdd. Bydd adolygiadau ffurfiol, ffurflenni adroddiadau blynyddol ac achosion o dorri contract yn llywio'r penderfyniad hwn. Yna bydd y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol yn adnewyddu cytundeb yn seiliedig ar yr wybodaeth hon gan y bwrdd.

iii. Pan wneir penderfyniad i adnewyddu neu derfynu cytundeb, bydd y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol yn rheoli'r broses honno.