Amdanom ni
Mae Prifysgol Abertawe yn Sefydliad Addysg Uwch (SAU) gyda phwerau dyfarnu graddau ac elusen gofrestredig.
Eich cyfrifoldebau
Mae gennych gyfrifoldeb i gadw'ch manylion personol yn gyfredol.
Gwybodaeth rydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi
Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch pan fyddwch yn cofrestru gyda ni. Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth pan fyddwch yn cwblhau arolygon yn wirfoddol ac yn darparu adborth. Cesglir gwybodaeth am ddefnydd o'r wefan gan ddefnyddio cwcis.
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi i gofnodi eich manylion personol, cynnydd academaidd, rheoli eich mynediad i gyfleusterau'r Brifysgol ac e-bostio neu anfon neges atoch am ddigwyddiadau, asesiadau academaidd a gwasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi yn ein barn ni, fel y crybwyllwyd yn Siarter y Myfyrwyr.
Pwy sy'n derbyn eich gwybodaeth
Lle bo angen, bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu'n fewnol ar draws y Brifysgol ac yn allanol gydag asiantaethau a sefydliadau yn unol â'n cyfrifoldebau statudol ac o dan y ddeddfwriaeth Diogelu Data gyfredol.
Am ba hyd y bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw
Bydd Prifysgol Abertawe'n cadw eich gwybodaeth bersonol yn unol â Pholisi Rheoli Cofnodion y Brifysgol
Datganiad preifatrwydd
I gael manylion llawn am eich hawliau mynediad, polisi cadw, diogelwch data, gyda phwy rydym yn rhannu data a sut i gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein polisi preifatrwydd, porwch ein Hysbysiad Preifatrwydd Myfyrwyr