Mewn gwirionedd, dylem sôn am ‘greu nodiadau’ neu ‘wneud nodiadau’ yn hytrach na ‘chymryd nodiadau’. Y rheswm am hyn yw bod nodiadau da’n waith unigryw sy’n cynrychioli eich meddyliau, eich dysgu, eich dealltwriaeth a’ch cwestiynu – sydd i gyd yn brosesau gweithredol. Ar y llaw arall, mae ‘cymryd’ nodiadau sy’n cynrychioli’r hyn rydych chi wedi’i glywed, gair am air, yn aneffeithiol ar gyfer dysgu. Maen nhw’n ffordd wych o gofnodi profiad (fel darlith) ond nodiadau gwael ydyn nhw ar gyfer dysgu gan eu bod yn cael eu datblygu’n oddefol a does dim angen i chi feddwl lawer.
![Gliniadur, llechen a ffôn clyfar, yr holl offer ar gyfer cymryd nodiadau digidol](/cy/bywyd-academaidd/cannllaw-ar-gyfer-dysgu-o-bell/sgiliau-i’ch-helpu-i-ddysgu-ar-lein/creu-nodiadau-digidol/digital-notes.jpg)
Mae’r cynnwys hwn yn dod o’r ffynhonnell ganlynol gan Brifysgol Hull, ac mae wedi’i drwyddedu dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0.