person sy'n rhoi cyflwyniad

Nod cyflwyno yw ymgysylltu â'ch cynulleidfa a gwneud eich neges yn eglur. Er mwyn cyfathrebu'n effeithiol, bydd angen yr iaith a'r cymhorthion gweledol cywir arnoch er mwyn helpu eich cynulleidfa i ddilyn eich dadleuon mewn ffordd sydd wedi'i strwythuro'n dda. Bydd datblygu hyder ar y llwyfan a siarad heb flewyn ar dafod wrth ynganu'n gywir yn helpu eich cynulleidfa i ddeall eich neges yn well a mwynhau eich cyflwyniad.

Mae cyfleu syniadau'n llawn hyder yn eich galluogi i sefydlu hygrededd fel bod modd i'ch cynulleidfa gredu'r hyn rydych yn ei ddweud. Bydd datblygu'r sgiliau priodol yn eich galluogi i feithrin hyder a lleihau gorbryder, yn ogystal â rhoi sgiliau trosglwyddadwy a sgiliau bywyd gwerthfawr i chi, a fydd yn eich galluogi i ddangos eich arbenigedd mewn ffordd sy’n symbylu cynulleidfaoedd i ymgysylltu â chi a'ch gwaith.

Yr hyn y mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn ei gynnig

Gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r ffordd orau o gyfleu eich prif negeseuon er mwyn sicrhau eich bod yn cyflwyno syniadau mewn modd trefnus, atyniadol a phriodol ar gyfer eich cynulleidfa - boed hynny ar gyfer aseiniadau ar lafar neu ysgrifenedig, cynadleddau, cystadlaethau a sesiynau cynnig syniad, neu yn allanol mewn sefyllfaoedd cymdeithasol neu yn y gwaith.

Yn ogystal â manteisio ar ein dosbarthiadau sgiliau seminar, gallwch hefyd ddod i'n cyrsiau cyflwyno a siarad yn gyhoeddus, a fydd yn eich helpu i feddwl am ddewis y pynciau cywir, trefnu eich deunydd, a defnyddio'r cymhorthion gweledol mwyaf addas. Gallwn hefyd eich helpu i ddysgu'r dulliau ar gyfer defnyddio'r rhaglenni cyfrifiadurol mwyaf addas i greu cymhorthion gweledol effeithiol yn ein gweithdai fformatio, dylunio sleidiau a chyflwyno posteri.

Cymerwch olwg ar ...