Gall dysgu sut i rannu tasgau, blaenoriaethu, a chreu cynlluniau realistig ymddangos fel gwaith diflas ar yr olwg gyntaf. Nid felly y mae; mewn gwirionedd, pan fyddwch yn rheoli eich astudiaethau yn effeithiol, mae'n bosibl y byddwch yn darganfod bod mwy o amser gennych, nid llai. Byddwch hefyd yn fwy brwdfrydig a hyderus, a byddwch yn osgoi sefyllfa lle bydd nifer y tasgau sydd angen eu cwblhau yn cynyddu.
Gall gofynion niferus eich cwrs, os nad ydynt yn cael eu rheoli'n dda, arwain at deimlad eich bod yn cael eich llethu gan waith. Gall hyn arwain at lefelau straen uwch, a allai olygu na fydd modd i chi gwblhau tasgau i safon sy'n adlewyrchu eich gallu, erbyn y dyddiad cyflwyno. Bydd rheoli eich llwyth gwaith yn effeithiol yn eich helpu i gynnal cyflymdra'r astudiaethau a lleihau straen.