3 o bobl yn ysgrifennu ar nodiadau ar wal

Meddwl yn feirniadol yw'r gallu i arfer synnwyr cyffredin wrth ymdrin â phroblem benodol. Mae'n eich helpu i nodi a deall dadleuon a thystiolaeth, a defnyddio'r ddealltwriaeth hon i ateb cwestiwn neu awgrymu camau gweithredu addas er mwyn datrys problem.

Mae gofyn i chi ddangos eich bod yn gallu meddwl yn feirniadol er mwyn cael marciau da yn y brifysgol. Yr atebion gorau mewn aseiniadau yw'r rhai hynny sy'n cyflwyno dadleuon rhesymegol, deallus a gwreiddiol. Yn aml iawn, bydd canlyniadau eich aseiniadau yn adlewyrchu pa mor dda rydych yn defnyddio ac yn dangos sgiliau meddwl yn feirniadol, a pha mor bell rydych yn symud oddi ar ddisgrifio mater yn unig.

Gall sgiliau meddwl yn feirniadol hefyd eich helpu i ddatrys problemau mewn bywyd bob dydd, a'ch helpu i gyflwyno gwybodaeth yn fwy perswadiol. Mae'r ffactorau hyn yn gwneud meddwl yn feirniadol yn sgìl allweddol mewn bywyd, ac yn rhywbeth y mae mawr alw amdano gan gyflogwyr.

Yr hyn y mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn ei gynnig

Nod ein cyrsiau meddwl yn feirniadol yw gwella eich gallu i feddwl am bwnc yn feirniadol a gwneud penderfyniadau da sy'n seiliedig ar dystiolaeth, tra bydd ein cwrs rhethreg yn eich helpu i ddysgu sut i osgoi dadleuon gwael a deall sut y dylanwadir ar bobl. Mae ein cyrsiau ysgrifennu a siarad hefyd yn ymdrin â strategaethau i'ch helpu i ddwyn perswâd a bod yn eglur wrth gyflwyno dadleuon.

Cymerwch olwg ar ...