Trosolwg | |
---|---|
![]() |
Myfyrwyr nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt |
![]() |
10 awr adferf |
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr nad Saesneg yw eu iaith gyntaf. Bydd yn eich helpu i wella'ch gramadeg sylfaenol cyn i chi ysgrifennu'ch aseiniadau. Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â meysydd hanfodol gramadeg Saesneg, megis defnyddio'r llais fynegol/oddefol a strwythur sylfaenol brawddegau i helpu i wella cywirdeb eich ysgrifennu.
Mae’r cwrs hwn a addysgir hefyd ar gael fel cwrs astudio annibynnol ar Canvas. Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen e-Ddysgu’r cwrs.
Gwybodaeth: Mae modiwlau sy'n cario'r cod UG yn fodiwlau dwyn credyd. Golyga hyn y bydd cwblhau'r modiwlau hyn yn llwyddiannus trwy fynychu 80% o'r cwrs, yn ymddangos ar eich Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR).
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys y sesiynau awr canlynol:
Rhannau ymadrodd yw’r gwahanol fathau o eiriau sy’n creu ein lleferydd a’n hysgrifennu. Maent fel blociau adeiladu cyfathrebu. Mae’n ddefnyddiol gwybod y rhannau ymadrodd a deall sut maent yn gweithio ar y cyd er mwyn helpu i adeiladu brawddegau da.
CAMPWS SINGLETON
Dydd Iau 9fed Chwefror 2023, 12:00-13:00
Bydd gwahanol ieithoedd yn trefnu geiriau mewn ffyrdd gwahanol i’r Saesneg. Diben y wers hon yw amlinellu sut i drefnu geiriau a chynnig cyfle i ymarfer hyn mewn brawddegau.
CAMPWS SINGLETON
Dydd Iau 16eg Chwefror 2023, 12:00-13:00
Diben y wers hon yw'ch helpu i ymgyfarwyddo â chysyllteiriau a'r ffyrdd posib y gellir eu defnyddio, gan eich galluogi i wella llif eich ysgrifennu a'ch iaith.
CAMPWS SINGLETON
Dydd Iau 23ain Chwefror 2023, 12:00-13:00
Bydd y wers hon yn canolbwyntio ar adferfau a geiriau ac ymadroddion pontio, gydag enghreifftiau o'u swyddogaeth ac ymarferion i ddysgu sut i ddefnyddio ac adnabod pob un ohonynt. Byddwn yn ystyried eu strwythurau a’r dulliau posib y gellir eu defnyddio, gan eich galluogi i wella eich gramadeg a llif eich ysgrifennu a'ch iaith.
CAMPWS SINGLETON
Dydd Iau 2il Mawrth 2023, 12:00-13:00
CAMPWS SINGLETON
Dydd Iau 9fed Mawrth 2023, 12:00-13:00
CAMPWS SINGLETON
Dydd Iau 16eg Mawrth 2023, 12:00-13:00
CAMPWS SINGLETON
Dydd Iau 23ain Mawrth 2023, 12:00-13:00
CAMPWS SINGLETON
Dydd Iau 30ain Mawrth 2023, 12:00-13:00
Yn aml defnyddiwn y goddefol mewn ysgrifennu academaidd. Bydd y wers hon yn ystyried sut mae'r goddefol yn cael ei ffurfio, a pham ac ym mhle mae'n cael ei ddefnyddio mewn ysgrifennu academaidd.
CAMPWS SINGLETON
Dydd Iau 27ain Ebrill 2023, 12:00-13:00
Diben y wers hon yw'ch helpu i ddeall sut a phryd i ddefnyddio cymalau’n gywir. Gwallau o ran cymalau yw’r gwallau mwyaf cyffredin a wneir gan ddysgwyr iaith. Mae hyn yn aml yn deillio o'r ffaith nad oes rhywbeth sy'n cyfateb iddynt yn iaith gyntaf y myfyriwr.
CAMPWS SINGLETON
Dydd Iau 4ydd Mai 2023, 12:00-13:00