Trosolwg | |
---|---|
![]() |
Lefel 1, 2, 3, Master's a lefel PhD |
![]() |
2 awr yr wythnos am 6 wythnos |

Bydd y cwrs hwn yn eich helpu chi i hogi eich sgiliau ysgrifennu academaidd ac i gynyddu eich ymwybyddiaeth o gonfensiynau academaidd. Byddwch chi’n dysgu technegau i wella eich ysgrifennu academaidd trwy weithgareddau ymarferol a luniwyd i’ch helpu chi i gymhwyso’r hyn a ddysgir yn y dosbarth i'ch gwaith eich hun.
Maes llafur
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys y sesiynau dwy awr a ganlyn:
SESIWN UN: Cyflwyniad a Nodweddion Ysgrifennu Academaidd
Yn y sesiwn hon, byddwn yn diffinio nodweddion cyffredin ysgrifennu academaidd.Bydd myfyrwyr yn deall diben y nodweddion hyn a’u heffaith ar ysgrifennu academaidd, ac yn gallu adeiladu diwedd-glo a chyflwyniad yn seiliedig ar ‘symudiadau rhethregol’ cyffredin.
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mercher 1af Mawrth 2023, 13:00-15:00
SESIWN DAU: Cyfosodiad a defnyddio ffynonellau
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn dysgu i ddefnyddio ystod o dechnegau er mwyn ysgrifennu paragraffau cyson ac argyhoeddiadol.
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mercher 8fed Mawrth 2023, 13:00-15:00
SESIWN TRI: Ysgrifennu Beirniadol
Yn y sesiwn hon, byddwn yn nodi’r gwahaniaethau rhwng ysgrifennu disgrifiadol, dadansoddol a gwerthusol.Bydd myfyrwyr yn dysgu i ddefnyddio ystod o strategaethau er mwyn sicrhau bod eu hysgrifennu’n ymddangos yn fwy beirniadol.
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mercher 15fed Mawrth 2023, 13:00-15:00
SESIWN PEDWAR: Cyfosod a Defnyddio Ffynonellau
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn dysgu i gyfosod gwybodaeth drwy ddefnyddio matrics, defnyddio dyfyniadau uniongyrchol yn gywir, a defnyddio strategaethau gwahanol ar gyfer aralleirio.
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mercher 22ain Mawrth 2023, 13:00-15:00
SESIWN PUMP: Dulliau ar gyfer Gwella Arddull
Yn y sesiwn hon, byddwn yn trafod technegau er mwyn gwneud eich ysgrifennu’n fwy cryno, ac ystod o dechnegau er mwyn gwneud eich ysgrifennu’n haws ac yn fwy pleserus i’w ddarllen.
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mercher 29ain Mawrth 2023, 13:00-15:00
SESIWN CHWECH: Prawf-ddarllen a Golygu
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i fynd at ddarllen proflenni a golygu mewn dull mwy effeithiol a systematig.
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mercher 26ain Ebrill 2023, 13:00-15:00