A woman with a book on her face

Helpwch eich darllenydd i ddod o hyd i'ch dadl – nodwch hi’n glir

Ni waeth beth yw eich cymhellion personol teilwng wrth ysgrifennu eich traethawd, mewn gwirionedd, rydych chi'n ysgrifennu eich traethawd ar gyfer dim ond un person ac mae angen i chi gofio am y person hwn ar bob adeg. Eich darlithydd (neu eich arholwr) yw'r person hwn ac mae angen i chi wneud beth bynnag y gallwch i'w dywys drwy eich gwaith ysgrifenedig fel y gall fod yn hollol siŵr bod eich traethawd yn wych.

Mae angen i chi wneud yn siŵr bod eich darlithydd yn gwybod yn union beth yw eich dadl felly gosodwch hi'n eglur yn eich cyflwyniad. Efallai bydd rhaid i chi ysgrifennu neu ailysgrifennu'ch cyflwyniad ar ddiwedd eich traethawd, ond, pryd bynnag yr ysgrifennwch chi ef, gwnewch yn siŵr ei fod yn dangos yn hollol eglur i'ch darllenydd beth yw eich dadl.

Cofiwch, ni ddylai'ch darlithydd orfod dyfalu wrth ddarllen eich traethawd ac mae'n debyg os nad ydych chi'n deall eich dadl eich hun, fydd eich darlithydd ddim yn ei deall chwaith. Peidiwch â gwneud iddo chwilio drwy eich traethawd yn ceisio dod o hyd i ddadl. Nodwch hi ar y dechrau. Ydy, mae'n fentrus, oherwydd gall y darlithydd anghytuno. Ar y llaw arall, hyd yn oed os bydd yn anghytuno, cyhyd â'ch bod chi wedi cefnogi'ch dadl yn dda, bydd yn gwybod bod eich traethawd yn wych!

I gael rhagor o wybodaeth am helpu'ch darllenydd, gweler pennod 5 o Students Must Write gan Robert Barrass.

Lizzy Tanguay

llun o Dr Elizabeth Tanguay