Someone holding a remote up infront of a television

Ynaml, mae natur problemau mewn deunyddiau ysgrifenedig myfyrwyr yn fwy cymhleth na chamgymeriadau sillafu'n unig. Rydym yn eithaf ffodus bod y rhan fwyaf o brosesyddion geiriau yn cynnwys gwirwyr sillafu sy'n canfod llythrennau ychwanegol anfwriadol neu wallau sillafu y gellir eu hadnabod. Un peth na all gwirwyr sillafu ei ganfod yw cydleoliad. Term gramadegol yw 'cydleoliad' sy'n cyfeirio at leoliad arferol geiriau mewn perthynas â geiriau eraill. Fel enghraifft syml, ystyriwch y frawddeg ganlynol:

Gwyliais i'r teledu tan 2.20am.

Yma, mae'r cydleoliad gwylio/teledu'n llawer cryfach na'r amrywiad e.e. Gwelais i'r teledu tan 2.30am.

Er bod yr enghraifft uchod yn syml iawn, mae'r rhagosodiad yn berthnasol i eirfa arall... Gall geirfa fod yn benodol i'ch disgyblaeth ac os caiff ei defnyddio'n anghywir, gall fod yn anodd i'r darllenwr eich deall. Wrth reswm felly, os nad ydych chi wedi mynegi'ch hun yn eglur, gallwch chi golli marciau. Yn anffodus, nid yw prosesyddion geiriau fel arfer yn cynghori ar eich dewis geiriau felly eich cyfrifoldeb chi yw gofalu am hyn wrth ysgrifennu a phrawf-ddarllen.

  • Meddyliwch am sut y cyflwynwyd yr eirfa rydych chi wedi'i gweld mewn testunau. Chwiliwch am batrymau. Pa eiriau sydd fel arfer yn dilyn neu'n dod cyn geirfa allweddol?
  • Nodwch eirfa allweddol yn y teitl ac ystyried y ffyrdd gwahanol y gellir ei geirio. Mae'n debygol yr hoffech ddefnyddio cynifer o'r rhain â phosib er mwyn ceisio osgoi ailadrodd eich hun yn eich gwaith.
  • Pan fyddwch yn prawf-ddarllen eich gwaith, meddyliwch am eich dewis geiriau. Ydyn nhw'n gwneud synnwyr?

Pete Hanratty

llun o Pete Hanratty