a stopwatch in the palm of someone's hand

Rheoli amser

Wrth ddechrau blwyddyn newydd, mae’n bryd ystyried yr hyn rydym ni’n ei wneud yn ein bywydau’n feunyddiol a meddwl am yr hyn rydym ni am ei gyflawni yn ystod y flwyddyn i ddod.

Un o’r nodau ar gyfer llawer o fyfyrwyr yw rheoli amser yn well er mwyn iddynt allu cwblhau eu holl asesiadau’n brydlon, astudio ar gyfer arholiadau a byw holl brofiad myfyrwyr i’r eithaf.

Fodd bynnag, mae llawer o rwystrau i reoli amser yn llwyddiannus, ac mae’r rhain yn cynnwys:

  • Technoleg symudol – yr holl ffyrdd amrywiol sy’n mynnu fy sylw a’m cyfranogiad drwy’r amser
  • Rhwydweithio cymdeithasol – fel yr uchod
  • Gwylio cyfresi teledu cyfan - oherwydd oni bai y byddaf yn gwybod beth ddigwyddodd yn xxxxx ni fydd modd i mi gyfranogi yn y pethau uchod
  • Synfyfyrio. - treulio llawer o amser yn meddwl am bethau ond heb wneud dim byd mewn gwirionedd. Ond, nid yw hynny wir yn gwastraffu amser... meithrin creadigrwydd yw hi.

Felly, efallai bydd hi’n amlwg ond y cam cyntaf at reoli amser yn well yw treulio llai o amser ar y pethau uchod. Ond beth yw’r camau nesaf?

Blaenoriaethu

Mae’n bwysig dysgu blaenoriaethu drwy gydbwyso’r hyn y mae angen ei wneud â’r hyn gallai ofyn am y buddsoddiad mwyaf o ran amser, ymdrech ac egni. Mae’n ymddangos yn amlwg, ond cadwch ddyddiadur er mwyn nodi dyddiadau profion a dyddiadau cau prosiectau ac aseiniadau. Ar ôl i chi lunio rhestr o’ch blaenoriaethau, bydd modd i chi amserlennu.
Os byddwch yn ansicr o ran sut i flaenoriaethu, edrychwch ar sut i ddefnyddio hyn Urgent/Important Matrix

 

Amserlennu

Mae angen i chi gynllunio sut i rannu eich amser rhwng ymrwymiadau astudio, eich amser hamdden a digwyddiadau eraill sy’n cymryd eich amser yn rheolaidd. Mae’n rhaid i chi fod yn realistig iawn ynghylch yr amser y mae gweithgareddau yn ei gymryd, boed yn darllen pennod o lyfr testun neu’n ymchwilio i wybodaeth ar y rhyngrwyd. Cynlluniwch ddigon o seibiau oherwydd oni bai eich bod yn dda iawn yn eich hunanddisgyblaeth, bydd eich amserlennu a’ch ymdrechion i drefnu yn cael eu gwastraffu. Felly, peidiwch ag amserlennu pob awr o’r dydd, gadewch amser hamdden neu amser ar gyfer digwyddiadau annisgwyl. Byddwch yn hyblyg – ystyriwch amserlennu bloc sy’n para 2 i 3 awr bob wythnos er mwyn dal i fyny â rhywbeth nad ydych chi wedi’i gyflawni eto. Rhaid adnabod eich hunan hefyd – pryd rydych chi’n gwneud eich gwaith gorau? Ydych chi’n ehedydd yn y bore neu’n dylluan gyda’r nos? Os mai person bore ydych chi, trefnwch i wneud y tasgau mwyaf anodd y peth cyntaf yn y bore. Os nad oes modd i chi weithredu cyn canol y prynhawn, trefnwch i wneud eich tasgau mwyaf pwysig yr amser hwnnw o’r dydd. Lluniwch amserlen ddyddiol a glynwch wrthi. Mae ymchwil yn awgrymu ei bod hi’n cymryd 30 niwrnod i greu arfer newydd, felly rhowch gyfle i’ch arfer i weithio, a bydd arferion gwaith da yn dod yn arfer.

Trefnu

Cadwch eich holl bapurau a ffeiliau wedi’u trefnu’n glir ac yn daclus, er mwyn i chi allu dod o hyd i gyfeirnodau’n gyflym pan fo angen. Eto, mae hyn yn ymddangos yn amlwg ond byddwch yn gwastraffu llai o amser yn chwilio amdanynt. Nodiadau trefnus yw’r ffordd orau o ddefnyddio amser astudio’n effeithiol. Defnyddiwch ddeunydd ysgrifennu’n dda, fel nodiadau post-it a sticeri mynegeio er mwyn nodi tudalennau pwysig mewn llyfrau a chyfnodolion. Yn yr un modd, prynwch farcwyr a beiros lliw er mwyn aroleuo pwyntiau pwysig a gwneud eich nodiadau’n fwy apelgar. Trefnwch rywle penodol i weithio yn eich ystafell neu defnyddiwch gyfleusterau’r llyfrgell yn well.

Am gyfrif diddorol, llawn ysbrydoliaeth o hynt a helynt un person wrth reoli ei amser, edrychwch ar ‘Deep Habits: The Importance of Planning Every Minute of Your Work Day’.

Ben Martin

llun o Ben Martin