Cymraeg

Rhaglen fywiog ac amrywiol o weithdai cyfrwng Cymraeg. Mae'r rhain ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio rhai neu'r cyfan o'u cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg, a'r rhai sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau Cymraeg.

 Yma gallwch archwilio’r gweithdai byw sydd gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd i’w cynnig dros yr ychydig wythnosau nesaf a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dydd Gwener 28ain Mawrth 2025

Cyflwyniad i’r Porth

Mae Porth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn drysordy o adnoddau defnyddiol i fyfyrwyr. Yn ogystal â gwybodaeth bynciol, mae nifer o ddeunyddiau iaith yn y Porth all fod yn ddefnyddiol iawn i fyfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y gweithdy hwn yn cynnig taith tywys o amgylch cynnwys y Porth, ac yn cynnig cyngor ar sut i wneud y defnydd orau ohoni.

Ar-lein trwy Zoom
Dydd Gwener 28ain Mawrth 2025
12:00 - 13:00 GMT

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Cyflwyniad i’r Porth

Dydd Llun 31ain Mawrth 2025

Adolygu effeithiol

Meistrolwch eich cynllun adolygu, a pharatowch am lwyddiant, yn y gweithdy hwn sy’n llawn cyngor ymarferol ar sut i baratoi tuag at eich arholiadau.

  Campws Singleton
  Dydd Llun 31ain Mawrth 2025
 11:00 - 12:00 GMT

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Adolygu effeithiol

Sesh sgwrs wythnosol

Sesiwn anffurfiol i ymarfer a datblygu eich sgiliau Cymraeg ar lafar. Dewch â gwaith, neu goffi – mae croeso mawr i bawb, beth bynnag eich lefel iaith!

  Ystafell CAS 36, Bloc Stablau, Campws Singleton
  Dydd Llun 31ain Mawrth 2025
 12:00 - 13:00 GMT

Dewch draw i'r sesiwn galw heibio
myfyrwyr yn sgwrsio yn Gymraeg

Arholiadau ar-lafar

Archebwch eich lle yn y gweithdy anffurfiol hwn i ymarfer ar gyfer eich arholiad ar lafar. Dewch a’ch nodiadau ac unrhyw ddeunyddiau cyflwyno, a manteisiwch ar y cyfle i ymarfer a derbyn adborth, neu holi unrhyw gwestiynau sydd gennych am y broses.

  Campws Singleton
  Dydd Llun 31ain Mawrth 2025
 14:00 - 15:00 GMT

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
cyfle i ymarfer

Dydd Gwener 4ydd Ebrill 2025

Ysgrifennu traethodau arholiad

Mae'r gweithdy hwn yn cyflwyno cyngor a strategaethau i’ch helpu chi i berfformio'n well mewn arholiadau, gan ganolbwyntio ar sut i gyfansoddi ac ysgrifennu traethodau dan amodau arholiad. Byddwn yn edrych ar ddehongli gofynion cwestiynau traethawd, a sut i fynd ati i baratoi strwythur cychwynnol, ac yn edrych ar enghreifftiau o atebion arholiad er mwyn dadansoddi eu cryfderau neu wendidau.

Ar-lein trwy Zoom
Dydd Gwener 4ydd Ebrill 2025
10:00 - 11:00 GMT

Dydd Llun 7fed Ebrill 2025