Diben astudio'n ddoethach yw defnyddio dulliau a fydd yn eich helpu i fod yn ddysgwr mwy effeithiol a chreadigol. Dull sy'n cael ei yrru gan wyddoniaeth ydyw sy'n seiliedig ar sut mae ein hymennydd yn gweithredu ac sy’n cynnig strategaethau i'ch helpu i ddatrys problemau a dysgu'n fwy effeithiol.

Bydd astudio'n ddoethach yn cynyddu pa mor effeithiol a chynhyrchiol ydych gan y byddwch yn treulio eich amser yn fwy pwrpasol. Mae rheoli eich prosesau astudio, cynyddu eich gallu i gofio a bod yn rhywun sy'n medru datrys problemau yn greadigol yn sgiliau a fydd yn para gydol eich oes – felly maen nhw'n werth eu dysgu! Gall y mathau hyn o strategaethau hefyd eich helpu i reoli'r gorbryder sy’n gysylltiedig weithiau ag arholiadau.

Yr hyn y mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn ei gynnig

Mae ein gweithdai atebion astudio yn canolbwyntio'n benodol ar fireinio'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn ddysgwr mwy effeithiol, gan ymchwilio i bob peth o'r wyddoniaeth sydd y tu cefn i arferion y dysgwyr gorau, i gyfrinachau'r pencampwyr cofio, i'r ffordd y gall pob un ohonom ddod yn feddylwyr creadigol. Cewch awgrymiadau a chyngor penodol er mwyn llwyddo mewn arholiadau yn ein gweithdai sgiliau arholiadau, a chofiwch edrych ar-lein er mwyn cael mynediad at ein cwrs e-ddysgu 'dysgwch i ddysgu' poblogaidd.

Cymerwch olwg ar ...

Rheoli Amser

oriawr