Beth all hyb iView ei gynnig i chi?
Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, rydych chi'n gymwys am danysgrifiad am ddim i iView Learning. Cofrestrwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost Prifysgol Abertawe i greu eich cyfrif.
Ar ôl cofrestru, mae’r platfform hwn yn rhoi canllawiau ar ystod gynhwysfawr o gyfarpar technoleg â chymorth a meddalwedd cynhyrchiant. Mae gan yr adnodd hon lyfrgell o gynnwys sy'n ehangu, ac mae'n cynnig cyfres o fideo-diwtorialau a chanllawiau ar ffurf PDF ar gyfer fersiynau amrywiol o Windows a Mac.