Mae Llwyddiant Academaidd yn gwrs Canvas a luniwyd i’ch cefnogi chi wrth i chi ymgartrefu yn y Brifysgol. Bydd yr adrannau’n eich helpu chi i ganolbwyntio ar eich nodau, datblygu dealltwriaeth o werthoedd craidd uniondeb academaidd ac yn addysgu’r sgiliau newydd hanfodol i chi y bydd eu hangen arnoch chi i lwyddo ym myd addysg uwch. Byddant hefyd yn canolbwyntio ar yr holl wasanaethau sydd ar gael os bydd angen cymorth arnoch chi.

Myfyrwyr yn y Brifysgol

CWRS 1: Beth yw diben Addysg Uwch?

Bydd yr crws hon yn eich cyflwyno chi i sut brofiad yw bywyd ac astudio yn y Brifysgol a bydd yn rhoi cyngor ar sut i wneud y mwyaf o’ch amser yma. Byddwch chi hefyd yn dysgu am ffynonellau cyngor, arweiniad a chymorth. 

Cliciwch y botwm yma i ddaccu ' r adnodd ar-lein hwn

dau fyfyriwr yn astudio gyda'i gilydd

CWRS 2: Cyflwyniad i sgiliau myfyrwyr

Sicrhewch ddechreuad da yn y Brifysgol drwy ddysgu’r sgiliau allweddol y bydd eu hangen arnoch chi er mwyn llwyddo’n academaidd. Yn yr crws hon, byddwch chi’n dysgu am ddulliau dysgu gwahanol er mwyn eich helpu chi i gyflawni eich potensial a’r arddulliau addysgu y byddwch chi’n dod ar eu traws yn ystod eich amser yma. 

Cliciwch y botwm yma i ddaccu ' r adnodd ar-lein hwn

Amlygwr a gwerslyfr

CWRS 3: Uniondeb Academaidd

Datblygwch ddealltwriaeth o werthoedd craidd arfer academaidd da. Bydd yr adran hon yn rhoi trosolwg i chi o ran sut i gyfeirnodi yn gywir ac elfennau eraill arfer academaidd da fel na fyddwch chi’n cyflawni camymddygiad academaidd yn anfwriadol.

Cliciwch y botwm yma i ddaccu ' r adnodd ar-lein hwn