Atriwm Y Coleg
The College Atrium
Atriwm Y Coleg

Mae’r atriwm sydd ar lawr gwaelod adeilad Y Coleg yn cynnig lle gwych i gyfarfod, i ymlacio ac i astudio. Gydag ystod o opsiynau eistedd, gan gynnwys desgiau, byrddau a soffas cyfforddus, mae'r atriwm yn ofod golau ac agored y gall pawb ei ddefnyddio.

Oriau Agor

08:00 - 18:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Oes angen cadw lle?

Does dim angen cadw lle ymlaen llaw.

Cyfleusterau sydd ar gael

Mae’r atriwm yn cynnig cyfleusterau gwefru dyfeisiau ac ystafelloedd ymolchi, yn ogystal â chaffi Costa Coffee, sy'n cynnig ystod wych o fyrbrydau a diodydd poeth ac oer.

ROOM ICONS