Profion dewis ac ymarferion recriwtio
Profion dewis ac ymarferion recriwtio
Mae’r safleoedd canlynol yn rhoi cyngor a gwybodaeth am amrywiaeth o brofion seicometrig, ac mae llawer yn cynnwys cwestiynau enghreifftiol a phrofion rhyngweithiol y gallwch roi cynnig arnynt am ddim.
Profiling for Success: Mae profion sgiliau rhesymu ar-lein a phecyn datblygu personol ar gael AM DDIM i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ym Mhrifysgol Abertawe a graddedigion Prifysgol Abertawe sy’n aelodau o’n Grŵp Cymorth i Raddedigion.
Graduate Prospects: Gwybodaeth am brofion ac ymarferion cyfweld, gan gynnwys dolenni i adnoddau profion ymarfer.
TARGETjobs:
PracticeReasoningTests: Canllawiau ar gyfer myfyrwyr y brifysgol sy’n delio â phrofion rhifol a llafar yn ystod prosesau cyfweliad ar gyfer interniaethau a swyddi llawn amser o PracticeReasoningTests:
• Profion rhesymu rhifol
• Profion rhesymu llafar
SHL: Enghreifftiau o’r mathau o asesiadau y gallai fod gofyn i chi eu cwblhau mewn cyfweliadau.
AssessmentDay: Profion gallu i’w hymarfer ar-lein, gan gynnwys rhai ymarferion yn y ‘fasged i mewn’ am ddim.
Dr Mark Parkinson, Seicolegydd Busnes - yn rhestru safleoedd eraill gyda phrofion ymarfer yn cynnwys profion barn sefyllfaol.
Practice Aptitude Tests - gan gynnwys Profion Rhesymu o dan Ddylanwadau Sefyllfa
European Personnel Selection Office (EPSO) - gweler profion sampl o dan ‘how to apply'.
Llwybr Carlam y Gwasanaeth Sifil: Arweiniad ar wneud cais, profion ar-lein, canolfannau asesu, dethol terfynol a dechrau ar y Llwybr Carlam.
Numeracy Skills for Employability and the Workplace - cwrs ar-lein am ddim gan Brifysgol Loughborough i baratoi myfyrwyr ar gyfer profion rhifedd cyflogwyr. Lluniwyd y cwrs ar gyfer y llwyfan FutureLearn gan Jeanette Matthews a Tony Croft o Brifysgol Loughborough. Trwy diwtorialau fideo ac esboniadau ar y sgrin ar ffurf cwisiau gan roi adborth manwl ar bob cam i brofi'ch gwybodaeth a chadarnhau eich dealltwriaeth bydd y cwrs hwn yn helpu i fagu eich hyder mathemategol a'ch paratoi ar gyfer profion rhifedd cyflogwyr a defnyddio rhifedd yn y gweithle.
Profion tuedd o dan ddylanwadau sefyllfa
Mae'r profion hyn yn cyflwyno sefyllfaoedd realistig efallai y byddwch yn eu profi yn y gweithle a'r amrywiaeth o ffyrdd efallai y byddwch yn ymateb iddynt. Mae'n rhaid i ymgeiswyr benderfynu pa ymateb yw'r un mwyaf priodol i ddatrys y sefyllfa. Dyma rai adnoddau i'ch helpu i baratoi ar gyfer y profion hyn:
- www.assessmentday.co.uk/situational-judgement-test.htm
- www.psychometrictest.org.uk/sjt/
- www.jobtestprep.co.uk/practice_situational_judgement
- https://www.practiceaptitudetests.com/situational-judgement-tests/
- Mae'r Gwasanaeth Sifil yn rhoi arweiniad ar sefyll eu profion ar-lein yn https://www.faststream.gov.uk/faqs/, gan gynnwys cwestiynau ymarfer ar gyfer yr holiadur tuedd o dan ddylanwadau sefyllfa.
- Profion SJT sef y profion mae'n rhaid i fyfyrwyr Meddygaeth i Raddedigion eu sefyll i symud i'w lle ar y Rhaglen Hyfforddiant Sylfaenol: http://sjt.foundationprogramme.nhs.uk/
GAMSAT – Prawf Mynediad Graddedigion i Ysgol Feddygaeth:
Rôl GAMSAT yw cynorthwyo yn y meini prawf dewis, yn bennaf i fyfyrwyr sy’n gwneud cais i astudio meddygaeth ar y rhaglenni mynediad graddedig llwybr carlam newydd. Mae'r Academi Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn tanysgrifio i ddeunyddiau paratoi swyddogol GAMSAT ac maent ar gael trwy Blackboard. Gallwch gael mynediad atynt fel a ganlyn:
- Mewngofnodwch i Myfyrio yna cliciwch yma i lawrlwytho deunyddiau GAMSAT.
- Ar ôl mewngofnodi i Blackboard, ewch i’r cwrs Interactive Career Planning lle gwelwch ‘GAMSAT’ yn y ddewislen.
I dderbyn gwybodaeth bellach am GAMSAT ewch i https://gamsat.acer.edu.au/gamsat-uk ac mae profion eraill wedi'u hamlinellu ar y wefan Gyrfaoedd ym maes Iechyd.
The British Psychological Society: Mae Canolfan Profion Seicolegol y Gymdeithas yn darparu gwybodaeth a gwasanaethau’n ymwneud â safonau mewn profion a phrofi ar gyfer y rhai sy’n cymryd profion, defnyddwyr y profion, datblygwyr y profion ac aelodau’r cyhoedd.
Gwefannau’r cyflogwyr
Ymchwiliwch i wefannau’r cyflogwyr oherwydd gallent gynnwys samplau o brofion, cwisiau, astudiaethau achos, proffiliau gweithwyr, gwybodaeth am brosesau cyfweld ayyb.
Rhowch gynnig ar chwilio'r rhyngrwyd gan ddefnyddio enw'r cyflogwr sydd o ddiddordeb i chi ynghyd ag ymadrodd perthnasol megis "selection tests" i weld a oes modd dod o hyd i adnoddau penodol.
Profion sy'n ymwneud â maes Peirianneg
Gyrfaoedd ym maes Awyrofod - Porth Hunanasesu: https://www.careersinaerospace.com/career-resources/self-assessment-portal/
www.jobtestprep.co.uk/engineering-psychometric-tests: Mae Job Test Prep (fel yr hyrwyddir gan Graduate Prospects uchod) yn codi tâl am eu profion ond mae rhywfaint o adnoddau ar gael am ddim os ewch i'w gwefan.
Graduate Management Admission Test (GMAT)
Mae’r Graduate Management Admissions Council (GMAC) yn sefydliad dielw o ysgolion arweiniol i raddedigion rheolaeth ar hyd a lled y byd. Mae’n berchen ar ac yn gweinyddu GMAT sy’n asesiad safonol, a gyflwynir yn Saesneg, a ddyluniwyd i helpu ysgolion busnes i asesu cymwysterau’r ymgeiswyr ar gyfer astudiaeth uwch mewn busnes a rheolaeth. Fe’i defnyddir fel un rhagfynegydd o berfformiad academaidd mewn MBA neu raglenni rheolaeth raddedig eraill. Mae’n mesur rhesymu beirniadol a geiriol, darllen a deall, cywiro brawddegau, digonolrwydd data a gallu i ddatrys problemau, ac mae hefyd yn cynnwys ysgrifennu traethodau.
Dyma rai adnoddau gwybodaeth bellach am y GMAT:
Mae’r Fulbright Commission yn darparu cyngor a chefnogaeth i bobl sy’n dymuno astudio yn UDA, gan gynnwys gwybodaeth am y GMAT
Mae www.mba.com/global yn safle defnyddiol ar gyfer deunydd paratoi.
Mae Kaplan yn darparu dosbarthiadau a llyfrau hefyd y gall myfyrwyr eu defnyddio i baratoi adref. Gweler eu hoffer paratoi GMAT am ddim.