Defnyddio Cyfryngau Cymdeithasol i Chwilio am Swydd
Mae cyflogwyr yn defnyddio Cyfryngau Cymdeithasol i recriwtio graddedigion dawnus. Mae'n ffordd gost-effeithiol o hysbysebu, gan nad yw'n costio dim yn aml!
Trwy ddilyn, ac ymwneud â, recriwtwyr a sefydliadau trwy gyfryngau cymdeithasol, gallwch gadw'n gyfredol â'r datblygiadau a newyddion diweddaraf. Gwiriwch a oes gan gyflogwyr gyfrifon penodol ar gyfer swyddi gwag cyfredol, cyfleoedd interniaeth a recriwtio graddedigion. Chwiliwch am gyfrifon cyfryngau cymdeithasol penodol a blogiau sy'n berthnasol i'ch maes, er enghraifft cyrff proffesiynol megis CIPD am yrfaoedd ym maes adnoddau dynol.
Gall cyfryngau cymdeithasol fod yn ffordd wych o ddatblygu'ch Ymwybyddiaeth fasnachol a rhwydweithio.
Top Ten tips for Social Media job seeking gan The Guardian.
Pa offer sydd ar gael i mi?
LinkedIn – y rhwydwaith cymdeithasol proffesiynol mwyaf. Adeiladwch broffil trwy CV ar-lein i amlygu'ch addysg a'ch profiad i'r rhai sy'n recriwtio, ac i ddatblygu'ch 'brand'. Cysylltwch â chyn-gydweithwyr gan adeiladu'ch rhwydwaith; ymunwch â grwpiau perthnasol a fforymau trafod. Mae LinkedIn yn cynnwys grŵp Myfyrwyr a Graddedigion Diweddar a ddyluniwyd i roi cyngor ar ffyrdd i rwydweithio’ch ffordd i swydd; ewch i https://careers.linkedin.com/students i’ch helpu chi i ddechrau arni. Cyhoeddir swyddi ar gyfer myfyrwyr a graddedigion diweddar yn https://students.linkedin.com. Gweler hefyd ein tudalen sy’n egluro sut i wneud y mwyaf o LinkedIn.
Sicrhewch fod eich cysylltiadau ar Facebook yn gwybod eich bod yn chwilio am swydd, a chadwch yn gyfredol â'r sefydliadau lle mae diddordeb gennych mewn swydd trwy 'hoffi' eu tudalennau.
Adnodd rhagorol am chwilio am swydd. Gellwch:
- Dilyn cysylltiadau o fewn y diwydiant
- Anfon a darllen trydariadau byr gan ddarparu gwybodaeth yn sydyn
- Dilyn ffrwd trydar swyddogol cwmnïau
- Chwilio am wybodaeth benodol o ran recriwtio graddedigion neu swyddi gwag
Cofiwch sicrhau, o gynnwys enwau sefydliadau mewn hashnod, bod eich trydariad yn broffesiynol. Unwaith ei fod yn gyhoeddus, does dim modd tynnu trydariad yn ôl.
Gan ddibynnu ar y sector neu broffesiwn, ystyriwch offer eraill megis blogiau ac Instagram yn achos swyddi creadigol neu yn y cyfryngau.
Maglau i'w hosgoi - rheoli'ch presenoldeb ar-lein
Mae'n bwysig i chi farchnata'ch hunain i ddarpar gyflogwyr trwy gyfryngau cymdeithasol. Twtiwch eich proffil, gan sicrhau ei fod yn broffesiynol; rydych am ddenu sylw am y rhesymau iawn!
Cynghorion ar gyfer defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn broffesiynol:
- Llwytho llun proffil proffesiynol
- Ystyried defnyddio cyfrif ar wahân wrth chwilio am swyddi
- Twtio'ch proffil - gwirio'r sillafu a'r gramadeg; ysgrifennu proffil sy'n cynnwys geiriau allweddol sy'n amlygu'ch sgiliau a'ch profiad
- Adolygu'ch gosodiadau preifatrwydd
- Meddwl, bob amser, cyn postio - gan osgoi llwytho unrhyw beth y gellid tybio ei fod yn sarhaus neu'n anaddas
Edrychwch ar TARGETjobs: rheoli’ch enw da ar-lein.