Prif bwrpas canolfan asesu yw creu amgylchedd lle gallwch chi, ac ymgeiswyr eraill, ddangos sgiliau allweddol ar gyfer y gweithle. Mae'r rhain yn cynnwys cyfathrebu, gwaith tîm, datrys problemau, rheoli tasgau, ac arweinyddiaeth, ac fe'u hasesir trwy weithgareddau megis gwaith grŵp, cyflwyniadau, astudiaethau achos, ac ymarferion e-fasged.
Dyma ddolenni defnyddiol i'ch helpu i ddeall beth sy'n digwydd mewn canolfan asesu a'r ffordd orau o fynd ati gyda'r gwahanol weithgareddau:
Gwella'ch perfformiad mewn Canolfan Asesu
Cyn i chi fynd i Ganolfan Asesu, rydym yn argymell eich bod yn cael cip ar yr adnodd canlynol, a ddyluniwyd i ddatblygu'ch sgiliau yn y maes hwn:-
Abintegro Porth Dysgu - Gyrfaoedd: Adnoddau - canolfannau asesu
Fideo'r Ganolfan Asesu
Cynghorion cyflogwyr am y ffordd orau o baratoi ar gyfer canolfan asesu:-
Cynghorion cyffredinol am lwyddo mewn canolfan asesu
Canolfannau Asesu ffug
Mae'r Tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cynnal Canolfannau Asesu ffug yn ystod y tymor. Dyma ffordd dda o ddatblygu'ch sgiliau yn y maes hwn - gweler ein tudalen 'Beth sydd ymlaen'.