Gwneud cyflogadwyedd yn hawdd!
Planet eStream - ein fersiwn fewnol ni o YouTube
Mae Prifysgol Abertawe'n datblygu'i llwyfan fideos ei hun - Planet eStream. Cliciwch y tab 'Sianeli', lle cewch sianel 'Gyrfaoedd'. Cewch hefyd lawer o fideos diddorol drwy chwilio am "cyflogadwyedd".
Fideos Cyflogwyr
Rydym yn tanysgrifio i gasgliad o fideos o Abintegro.com, y maent yn rhoi safbwynt cyflogwyr ar agweddau allweddol ar brosesau gwneud cais a chyfweld. Cliciwch yma i weld y casgliad hwn.
Fideos Cymdeithas y Gwasanaethau Cyngor ar Yrfaoedd i Raddedigion (AGCAS):
Fideo'r Ganolfan Asesu: ansawdd uchel, sgrin lawn
Fideo'r Ganolfan Asesu: ansawdd canolig, chwarter sgrin
Swyddi ar-lein - gwellwch eich ceisiadau electronig: ansawdd uchel, sgrin lawn
Swyddi ar-lein - gwellwch eich ceisiadau electronig: ansawdd canolig, chwarter sgrin
Cyfleoedd mawr gyda busnesau bach (i raddedigion): ansawdd uchel, sgrin lawn
Cyfleoedd mawr gyda busnesau bach (i raddedigion): ansawdd canolig, chwarter sgrin
Mae Careersbox yn llyfrgell ar-lein am ddim o ffilmiau'n ymwneud â gyrfaoedd, newyddion a gwybodaeth. Cynrychiola'r fideos gymysgwch o swyddi i raddedigion a phobl heb radd, sy'n ddefnyddiol os ydych yn ystyried llwybr heb radd i yrfa benodol neu os ydych yn anelu at ennill swydd fel rheolwr yn gyfrifol am bobl eraill sy'n gwneud yr un math o swydd ddi-radd a geir ar y wefan hon.
icould
www.icould.com: Oddeutu 1,000 o storïau unigol am yrfa wedi'u hadrodd drwy fideo, yn mynd i'r afael ag ystod eang o brofiadau a llwybrau gyrfa.