Eich canllaw cyfeirio cyflym…
Y porth i wasanaethau ac adnoddau Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA):
Ffair swyddi rhan-amser, dydd Gwener 27 Medi 2019
Ffair Yrfaoedd, Dydd Gwener 4 Hydref 2019
Cyngor ac arweiniad:
- Sesiynau galw heibio gydag Ymgynghorwyr Gyrfaoedd ar y ddau gampws
- Gallwch drefnu apwyntiad 30 munud yn uniongyrchol drwy'r ddolen hon. Cewch eich annog i greu eich proffil wrth i chi ddefnyddio'r Parth Cyflogaeth am y tro cyntaf. Gallwch drefnu apwyntiad o'r tab ar ochr dde'r faner werdd ar ôl i chi wneud hyn.
Ble i ddod o hyd i waith:
- Bwrdd Swyddi y Parth Cyflogaeth
- Ffair swyddi rhan-amser (gweler uchod)
- Cynllun Myfyrwyr Llysgennad yn recriwtio tan ddiwedd mis Medi - e-bostiwch studentambassadors@swansea.ac.uk
Grant Eich Dyfodol Academi Cyflogadwyedd Abertawe
Bob blwyddyn academaidd, caiff holl glybiau a chymdeithasau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe wneud cais am hyd at £100 tuag at gynnal digwyddiad sy'n cynnig budd cyflogadwyedd. Gall cymdeithasau a chlybiau gydweithio i gynnal digwyddiadau a gallant gyflwyno ceisiadau am gyllid ar y cyd. Gellir tynnu symiau rhwng £20 a £100 i lawr.