Beth yw cymhwysedd diwylliannol?
Cyfeiria 'cymhwysedd diwylliannol' at wybodaeth, sgiliau ac agweddau sy'n ffurfio eich gallu i ddod ymlaen gyda phobl o ddiwylliannau amrywiol, gweithio gyda nhw a dysgu ganddyn nhw (addasiad o "International Competencies" gan yr Academi Addysg Uwch 2014). Ymhlith y termau eraill ar gyfer hyn mae 'cymhwysedd rhyngddiwylliannol' ac rydym hefyd yn trafod ymwybyddiaeth am amrywiaeth a datblygu'r sgiliau, y wybodaeth a'r ymwybyddiaeth i gefnogi a datblygu diwylliannau gwaith a bywyd cynhwysol sy'n ddiwylliannol gymwys ar gyfer pob person o bob cefndir ac o bob un o'r nodweddion gwarchodedig.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cynnwys y naw "nodwedd warchodedig" canlynol.
I weld diffiniadau ar gyfer y nodweddion hyn ewch i https://www.equalityhumanrights.com/en/equality-act/protected-characteristics.
I dderbyn gwybodaeth am sut mae bod yn rhan o grwpiau penodol yn gysylltiedig â chyflogaeth i raddedigion gweler gwefan TARGETjobs lle y mae arbenigwyr o AGCAS (Association of Graduate Careers Advisory Services) yn rhoi eu cyngor ar faterion amrywiaeth allweddol gan gynnwys rhyw, hil ac anabledd. Byddwch yn dysgu am sut i adnabod cyflogwyr cadarnhaol o blaid amrywiaeth, penderfynu ar sut/p’un ai i ddatgelu’ch amgylchiadau, a byddwch yn ennill dealltwriaeth o’ch hawliau.
Beth yw Diwylliant?
Sut mae hyn yn cysylltu â chyflogadwyedd?
Pam bod hyn yn bwysig i sefydliadau?
Cynhaliodd y Cyngor Prydeinig ymchwil ymhlith 376 o gyflogwyr mewn 9 gwlad i ddarganfod pam bod gallu diwylliannol yn bwysig iddynt ac i adnabod y sgiliau a'r agweddau sy'n rhan o hyn yn eu tyb nhw - gwyliwch y fideo byr.
Sut mae cyflogwyr yn diffinio sgiliau rhyngddiwylliannol?
Cliciwch yma i edrych ar y ffeithlun y soniwyd amdano yn y fideo.
Ymarferiad: Meddyliwch am adeg pan ddaethoch chi'n ymwybodol o ddiwylliant a oedd yn wahanol i'ch diwylliant chi mewn rhyw ffordd a dewiswch un neu ddau o'r sgiliau a'r galluoedd y soniwyd amdanynt. Meddyliwch am sut wnaethoch chi ddangos y sgiliau hyn ac ystyriwch sut y gallwch eu defnyddio yn y dyfodol yn y gweithle i gefnogi ac i helpu i greu amgylchedd gwaith sy'n gymwys yn ddiwylliannol. Rhowch amlinelliad o hyn mewn myfyrdod o 250 o eiriau.
Am wybodaeth ynghylch sut mae bod yn rhan o grŵp penodol yn gysylltiedig â chyflogaeth i raddedigion ewch i https://targetjobs.co.uk/careers-advice/equality-and-diversity lle y mae arbenigwyr o AGCAS (Association of Graduate Careers Advisory Services) yn rhoi eu cyngor ar faterion amrywiaeth allweddol gan gynnwys rhyw, hil ac anabledd. Byddwch yn dysgu am sut i adnabod cyflogwyr cadarnhaol o blaid amrywiaeth, penderfynu ar sut/p’un ai i ddatgelu’ch amgylchiadau, a byddwch yn ennill dealltwriaeth o’ch hawliau.
Rhagfarn anymwybodol
Gall eich cefndir, eich profiadau personol, stereoteipiau cymdeithas a chyd-destun diwylliannol gael effaith ar eich penderfyniadau a'ch gweithredoedd heb i chi fod yn ymwybodol ohoni. Fel y dywed yr Uned Herio Anghyfartaledd:
"....mae rhagfarn anymwybodol yn digwydd trwy ein hymennydd yn dod i gasgliadau ac yn asesu pobl a sefyllfaoedd ar gyflymder heb i ni sylweddoli. Efallai nad ydym hyd yn oed yn ymwybodol o'r barnau a'r safbwyntiau hyn nac yn ymwybodol o'u heffaith a'u goblygiadau".
Gallwch asesu eich rhagfarn anymwybodol eich hun yng nghyswllt ystod o faterion (a chyfrannu at ymchwil) yma: https://implicit.harvard.edu/implicit/takeatest.html.
Ymarferiad: Dewiswch un holiadur i'w lenwi. Gan ddefnyddio 250 o eiriau myfyriwch ar:
- Pa brawf y dewisoch chi a pham.
- Beth rydych chi wedi'i ddysgu am eich rhagfarn anymwybodol yng nghyswllt y pwnc.
- Beth allwch ei wneud o ganlyniad i hyn?
Beth sy'n digwydd ym Mhrifysgol Abertawe?
Nod Prifysgol Abertawe yw darparu amgylchedd gwaith ac amgylchedd dysgu, heb wahaniaethu annheg, a fydd yn caniatáu i staff a myfyrwyr gyflawni eu potensial personol. Mae'r tîm Cydraddoldeb yn arwain nifer o fentrau Cydraddoldeb sydd o fudd i fyfyrwyr a staff; mae'r rhain yn cynnwys Marc Siarter Cydraddoldeb Hiliol, Athena SWAN a Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall. Ewch i www.swansea.ac.uk/jobs-at-swansea/equality-and-diversity/.
Mae gan Undeb y Myfyrwyr Swyddog Lles amser llawn a nifer o Swyddogion Lles rhan-amser sy'n cefnogi a hyrwyddo hawliau amrywiaeth o grwpiau. Ewch i www.swansea-union.co.uk/voice/officers.
O ddiddordeb? Camau dewisol nesaf
Os hoffech chi ddatblygu eich cymhwysedd diwylliannol ac ennill profiad y gallwch chi ei ddefnyddio fel prawf o'r cymhwysedd a'r wybodaeth berthnasol gallech chi:
- Archwilio sut mae bod yn rhan o grwpiau penodol yn cysylltu â chyflogaeth i raddedigion yn https://targetjobs.co.uk/careers-advice/equality-and-diversity.
- Ymuno a chymdeithas myfyrwyr o ddiwylliant sy'n wahanol i'ch un chi. Ewch i www.swansea-union.co.uk/activities.
- Datblygu cysylltiadau gyda phobl o ystod o gefndiroedd gwahanol trwy wirfoddoli. Ewch i Ewch i Gwirfoddoli fel Myfyriwr - Darganfod, ac i'r adran wirfoddoli ar ein tudalen Parth Cyflogaeth.
- Archwiliwch gyfleoedd rhyngwladol trwy'r Swyddfa Datblygu Rhyngwladol yn yr adran rhyngwladol ar ein tudalen Parth Cyflogaeth.
swyddi rhyngwladol - Archwiliwch gyfleoedd ar gyfer profiadau rhyngwladol trwy eich Coleg
- Cymerwch ran yn Athena SWAN neu'r Marc Siarter Cydraddoldeb Hiliol. Ewch i www.swansea.ac.uk/jobs-at-swansea/equality-and-diversity/.
- Gweithiwch drwy MOOC (Massive Open Online Course) yn https://www.mooc-list.com/course/world-difference-exploring-intercultural-communication-udemy.