Mae dadansoddiad SWOT yn ystyried Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau. Gall ddod o hyd i'r rhain fod yn rhan ddefnyddiol o wneud penderfyniadau ac adnabod eich camau nesaf a llunio Cynllun Gweithredu.
Nod: Ennill cyflogaeth yn gweithio gyda phobl ddigartref.
Cryfderau
Unrhyw sgiliau, galluoedd a all fod o fudd i'ch helpu i gyflawni eich nod.
Enghraifft:
- Trwy fy nghwrs gradd rwyf wedi datblygu ymagwedd ddadansoddol a gwrthrychol
- Mae gennyf ddiddordeb cryf mewn lles seicolegol a digartrefedd ac ennill dealltwriaeth ohono.
- Mae gennyf dair blynedd o brofiad gwaith trwy fy swydd ran-amser felly gallaf ddangos sgiliau craidd megis cyfathrebu a gwaith tîm, ....
Gwendidau
Unrhyw feysydd efallai y bydd angen i chi ganolbwyntio ar eu gwella a'u datblygu ymhellach.
Enghraifft:
- Nid oes gennyf unrhyw brofiad uniongyrchol o weithio gyda phobl ddigartref.
- Rwy'n tueddu i ganolbwyntio ar anawsterau yn hytrach na datrysiadau.
Cyfleoedd
I ba gyfleoedd fyddwch chi'n cymhwyso eich cryfderau, eich sgiliau a’ch galluoedd penodol?
Enghraifft:
- Yn ôl fy ymchwil, mae'r maes hwn yn tueddu i hysbysebu nifer o swyddi.
- Rwy'n mwynhau bod yn annibynnol a bydd y maes hwn yn rhoi cyfle i mi dderbyn lefelau uchel o gyfrifoldeb
Bygythiadau
Pa rwystrau sy'n eich wynebu? Sut allech chi eu goresgyn?
Enghraifft:
- Gall amgylchedd byd gwaith sydd â gofynion anrhagweladwy fod yn anodd ac achosi straen i mi.
- Mae rhai o'r swyddi ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol cymwys; gall fy natblygiad gyrfaol fod yn gyfyng heb i mi ymgymryd ag astudiaethau pellach ar ryw adeg.
Gweithrediadau
Enghraifft:
Trwy fyfyrio ar y dadansoddiad SWOT uchod parthed fy mhrofiad, gwelaf fod angen i mi ganolbwyntio fy sylw ar ...
Gallwn wneud hyn trwy ...