Arolwg ac adnoddau
Mae gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI)lawer o ddiffiniadau tebyg o'r enghraifft ganlynol:
"Cyfres o briodoleddau, sgiliau a gwybodaeth y dylai fod gan holl gyfranogwyr y farchnad lafur i sicrhau bod ganddynt y gallu i fod yn effeithiol yn y gweithle - er lles eu hunain, eu cyflogwyr a'r economi ehangach.
Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) wedi uno â Chydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) i ysgrifennu Working Towards Your Future - arweiniad syml i'r sgiliau a'r rhinweddau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae'n rhesymoli "cyflogadwyedd" ac yn rhoi llawer o gyngor defnyddiol ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd drwy waith cwrs, gweithgareddau cymdeithasol, gwirfoddoli a phrofiad gwaith er mwyn gwneud y gorau o'ch amser yn y brifysgol.
Mae datblygu cyflogadwyedd yn broses ailadroddol o fyfyrio, dysgu a chael profiad.
Sgiliau gwaith: Sgiliau y gallwch eu trosglwyddo i fyd gwaith ac o un swydd i'r llall wrth i chi ennill profiad.
Sylwch: Gweler y dolenni isod hefyd i adnoddau ar-lein i’ch helpu i adnabod a datblygu’r sgiliau sydd gennych.
Mae gan bob sgìl (a gwybodaeth) botensial ar gyfer eu trosglwyddo o'r sefyllfa lle y'u dysgwyd i sefyllfaoedd eraill. I raddedigion, y prif feysydd trosglwyddo yw o astudio academaidd, interniaethau/lleoliadau profiad gwaith, gwaith gwirfoddol, gweithgareddau allgyrsiol, teithio... i gyflogaeth.
Byddwch yn dod ar draws cyfeiriadau at "sgiliau allweddol" neu "sgiliau craidd" cyffredinol yn aml am eu bod yn bwysig ym mhob sector cyflogaeth a swydd, er enghraifft:
- Cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig
- Rhifedd
- Technoleg gwybodaeth
- Trafod/argyhoeddi
- Hyblygrwydd/gallu i addasu
- Gwaith tîm
- Arweinyddiaeth
- Trefnu/cynllunio
- Dadansoddi a datrys problemau
Mae cyflogwyr yn chwilio am sgiliau cyffredinol lefel uwch gan raddedigion, megis:
- Blaengarwch
- Rheoli risg ac ansicrwydd
- Mentrusrwydd
- Meddwl creadigol
Byddwch yn ennill sgiliau deallus (neu wybyddol) drwy astudio unrhyw ddisgyblaeth gradd, er enghraifft:
- Gwerthuso tystiolaeth yn feirniadol a'i dehongli;
- Gallu cynnal dadl resymegol a dod i gasgliad y gellir ei amddiffyn yn rhesymol;
- Dadansoddi a chyfosod gwybodaeth;
- Gallu cymharu a chyferbynnu esboniadau damcaniaethol ac integreiddio methodolegau gwahanol;
- Meddwl yn hyblyg a gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol barseli gwybodaeth;
- Gwerthuso ymarfer proffesiynol a herio tybiaethau;
- Modelu problemau yn fathemategol a'u datrys yn feintiol.
Mae hefyd sawl agwedd y rhoir gwerth mawr iddynt ochr yn ochr â'r sgiliau hyn:
- Cynllunio'ch prosiectau yn gadarn;
- Ymwybyddiaeth o faterion moesegol, gwybod beth yw cyfyngiadau eich data a'r technegau a ddefnyddir i'w casglu a'u dadansoddi;
- Cadw meddwl agored i heriau i'r sefyllfa bresennol a bod yn barod i archwilio problem o sawl safbwynt;
- Rhesymu o dystiolaeth wrth oddef dehongliadau eraill o'r dystiolaeth honno;
- Ymwybyddiaeth o fylchau yn eich gwybodaeth a bod yn barod i ddysgu gan eraill yn ogystal ag yn annibynnol.
Adnoddau i'ch helpu i adnabod ac adolygu'ch sgiliau:
Bydd yr adnoddau canlynol yn eich helpu i ddeall a datblygu'r sgiliau craidd a'r sgiliau lefel uwch y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt gan raddedigion.
Mae Profiling for Success yn wasanaeth ar-lein sydd AM DDIM i'n holl fyfyrwyr. Mae'n cynnig offer hunanasesu i'ch helpu i wirio'ch sgiliau mewn meysydd megis rhifedd, llythrennedd a rhesymu geiriol, a hefyd i ddadansoddi'r hyn sy'n eich ysgogi, yr hyn sy'n gwneud ichi weithio a beth yw eich arddull ddysgu - gall y ffordd rydych yn dysgu orau fod yn arwydd defnyddiol iawn o'r math o amgylchedd gwaith fyddai orau ar eich cyfer.
E-ddysgu Sgiliau Busnes (Mae angen i chi fewngofnodi i MyUni i ddilyn y ddolen hon): Mae hon yn set o gyrsiau rhyngweithiol sy'n cwmpasu: Sgiliau Cyfarfod, gwasanaethau cwsmeriaid, cyd-drafod, sgiliau cyflwyno, rheoli prosiectau, sgiliau gwaith tîm, datrys problemau, yn ogystal â sgiliau datblygiad personol, gan gynnwys pennu blaenoriaethau, cynllunio amser, gwneud penderfyniadau a dirprwyo.
Adrannau ar wefan Graduate Prospects:
- Eich gradd... beth nesaf? Mae yn rhoi help gyda datblygu'ch ymwybyddiaeth sgiliau yng nghyd-destun eich diddordebau, eich personoliaeth, eich gwerthoedd a'r hyn sy'n eich ysgogi.
- Gwneud cais am swyddi – pa sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt
Adrannau ar wefan TARGETjobs: