Profion Sgiliau Rhesymu a Phecyn Datblygiad Personol
Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn darparu amrywiaeth o asesiadau ar-lein gyda chaniatâd Team Focus Ltd sy'n cynnwys meysydd personoliaeth, gallu, cymhelliad a pherthnasoedd. Rydym yn darparu'r rhain i:
- ddatblygu eich hunanymwybyddiaeth, ystyried sut yr hoffech ddatblygu
- eich helpu i gyfathrebu eich cryfderau â chyflogwr / darparwr cyfleoedd
- rhoi cyfle i ymarfer profion a ddefnyddir gan rai cyflogwyr.
Gallwch roi cynnig ar gynifer o holiaduron ag yr hoffech. Byddwch yn derbyn adroddiad ar gyfer pob un y byddwch yn ei gwblhau i fyfyrio arno, gan ystyried pa sylwadau yr ydych yn cytuno â nhw, ble mae eich barn yn wahanol a sut y gallwch weithredu o ganlyniad i'r broses hon. Os hoffech drafod eich canlyniadau gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd, anfonwch e-bost i employability@abertawe.ac.uk.
Mae'r holiaduron canlynol yn rhan o fodiwl Adnabod Eich Hun Gwobr Academi Cyflogadwyedd Abertawe:
- Asesu arddulliau dysgu: Deallwch eich arddull ddysgu a sut y gallwch fod yn ddysgwr mwy effeithiol.
- Dangosydd Deinameg Math Personoliaeth: Archwiliwch hoffterau eich personoliaeth a sut maent yn gysylltiedig â'r byd gwaith.
- Profion Gallu: Rhesymu geiriol, rhifiadol a haniaethol.
- Dangosydd Cymhelliant ar sail Gwerthoedd: Mae gwerthoedd yn allweddol i ddeall egni a chymhelliad pobl. Archwiliwch werthoedd pobl a sut y gallwch ddeall 'beth, ble, pryd a pham' eu gweithredoedd.
- Llechres Gyrfaoedd o Ddiddordeb: Deallwch fwy am eich diddordebau ac ystyriwch awgrymiadau swyddi.
Mae'r holiaduron canlynol hefyd ar gael ond nid ydynt yn rhan o fodiwl Adnabod Eich Hun Gwobr Academi Cyflogadwyedd Abertawe ar hyn o bryd:
- Gwydnwch: Asesu eich agweddau, credoau a’ch ymddygiadau arferol mewn perthynas â’r heriau neu’r digwyddiadau anodd sy’n rhan o fywyd pob dydd. Rydym yn argymell yn gryf i chi drafod eich canlyniadau i’r holiadur hwn a’ch teimladau tuag at eich adroddiad gyda Chynghorydd Gyrfaoedd profiadol a chymwys. E-bostiwch employability@swansea.ac.uk i drefnu hyn. Os nad ydym yn clywed gennych, byddwn yn eich e-bostio oddeutu mis ar ôl i chi gwblhau’r holiadur i’ch atgoffa.
- Deallusrwydd Emosiynol: Aseswch eich gallu i adnabod a rheoli eich emosiynau eich hun ac emosiynau pobl eraill.
Mae'r prawf ar gael yn www.profilingforsuccess.com/take-an-assessment.php. Mae wedi'i ddiogelu â chyfrinair, felly rhaid i fyfyrwyr ei gyrraedd yn y ffyrdd canlynol:
Myfyrwyr Abertawe:
Logiwch i mewn i MyUni a chliciwch yma i gael mynediad at Profiling For Success yn uniongyrchol.
Neu, gallwch logio i mewn i Blackboard a chael mynediad at Profiling For Success drwy’r modiwl "Swansea Employability Academy (SEA) Resources".
Graddedigion:
Dylai graddedigion sydd am ddefnyddio'r asesiadau ffonio ein Desg Gymorth ar 01792 295500.
Ar ôl mewngofnodi i Profiling for Success, bydd hefyd angen i chi roi rhai manylion personol, yna dewis yr asesiad rydych am ei gymryd. Byddwch yn derbyn adroddiadau adborth drwy e-bost. Dylid cwblhau pob prawf mewn un tro - mae hyn yn rhan o'r cynllun. Os nad ydych yn llwyddo cwblhau'r prawf mewn un tro, bydd angen i chi ei ail-wneud er mwyn derbyn adroddiad adborth.
Sylwer y defnyddir gwybodaeth bersonol ar gyfer creu eich adroddiad personol ac at ddibenion monitro data yn unig. Caiff yr holl wybodaeth ei chadw'n ddiogel ac yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data.