Rydym yn gwneud miloedd o benderfyniadau bob diwrnod. Gall penderfyniadau ynghylch gyrfa fod yn anodd ac yn gymhleth. Sut ellwch chi ddatblygu'ch sgiliau penderfynu er mwyn gwneud gwell dewisiadau am eich dyfodol?
Y man cychwyn yw'r 2 gwestiwn allweddol hyn:-
- Beth ydw i eisiau o fywyd?
- Sut fydda i'n ei gael?
Dyma un model ar gyfer gwneud penderfyniadau (Chip and Dan Heath):
Gall y model hwn fod yn ddefnyddiol wrth i chi wneud penderfyniadau ynghylch eich dyfodol:-
- Ehangu'ch opsiynau
- Profi realiti'ch rhagdybiaethau
- Pellter
- Bydd yn barod i wneud camgymeriad
Mae adnoddau defnyddiol ar gael sy'n esbonio hyn yn fwy manwl: http://heathbrothers.com/resources/
Meddyliwch am sut yr ydych yn gwneud penderfyniadau ar hyn o bryd
Mae nifer o ddulliau o wneud penderfyniadau. Does dim tystiolaeth i awgrymu bod yr un yn fwy effeithiol na'r lleill. Mae'n bwysig i chi werthuso sut yr ydych chi wedi gwneud penderfyniadau effeithiol yn y gorffennol, gan ystyried pa ddull byddwch chi'n ei ddefnyddio am y penderfyniad nesaf.
Dulliau o wneud penderfyniadau:-
- manteision ac anfanteision
- dilyn eich greddf
- hap trwy gynllunio - hynny yw, creu cyfleoedd
- siarad â chyfeillion, teulu, neu ddefnyddio'n cred
Cwblhewch y cwis canlynol i ddeall sut yr ydych chi'n gwneud penderfyniadau ar hyn o bryd.
Sut i wneud dewis anodd
Trafodaeth TED ddiddorol ar wneud penderfyniadau:-