Gall Cynllun Gweithredu eich helpu i roi camau ar waith i gyflawni'ch targedau.
Mae Cynllunio Gyrfa yn broses sy'n eich helpu i ganolbwyntio'ch syniadau a phenderfynu ar ba gamau i'w cymryd er mwyn cyflawni eich targedau gyrfa
Bydd Cynllun Gweithredu eglur yn eich helpu i gydbwyso'ch astudiaethau academaidd a datblygu'ch cyflogadwyedd
Sut i greu Cynllun Gweithredu Gyrfa
- Meddyliwch am eich sefyllfa gyfredol a ble yr hoffech fod
- Gallwch chi gwblhau dadansoddiad SWOT (cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau)
- Gosodwch amcan neu darged eglur a dichonadwy (meddyliwch CAMPUS):-
- Cyraeddadwy
- Amserol
- Mesuradwy
- Penodol
- Uchelgeisiol
- Synhwyrol
Sut i Ddatblygu Cynllun
Torrwch eich targed neu amcan i lawr i dasgau llai, dichonadwy, yna rhestrwch y camau gweithredu a fydd yn eich helpu i'w cyflawni! Bydd ysgrifennu eich camau gweithredu i lawr a dweud wrth bobl eraill yn cynyddu'ch ymrwymiad. Gosodwch amserlen a gwobrwywch eich hun pan fyddwch yn cwblhau tasg - gallai hyn helpu i'ch ysgogi.
Byddwch yn rhagweithiol, dechreuwch nawr, a cheisiwch beidio â'i gadael hi tan eich blwyddyn olaf cyn creu eich cynllun gweithredu. Bydd dechrau'n gynharach yn rhoi mwy o gyfle i chi archwilio'ch opsiynau.
Adolygwch eich cynllun a myfyriwch ynghylch eich cynnydd. Mae'n bwysig meddwl am y rhwystrau y gallech eu hwynebu, sut byddwch yn eu goresgyn a pha adnoddau fydd eu hangen arnoch i'ch cynorthwyo.