Ymateb i Coronafeirws: cyngor a gwybodaeth ddiweddaraf

Gwasanaethau i Raddedigion Prifysgol Abertawe

Bwrdd Swyddi'r Parth Cyflogaeth

Mae ein hysbysfwrdd swyddi digidol , Y Parth Cyflogaeth, ar gael i raddedigion newydd Prifysgol Abertawe. Gallwch chi gyrchu a chyflwyno cais am Swyddi i Raddedigion, interniaethau a lleoliadau gwaith. Mae'r bwrdd swyddi hefyd yn hysbysu cyfleoedd a hysbysir yn rhyngwladol. Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif cyn-fyfyrwyr gyda'ch e-bost personol er mwyn cyrchu holl nodweddion y bwrdd swyddi.

Cwrs Datblygu Gyrfa i Raddedigion

Ydych chi am gael hyfforddiant am ddim i fod yn fwy cyflogadwy ac adeiladu hyder yn y gweithle?

Mae'r Cwrs Datblygu Gyrfa i Raddedigion yn gwrs ar-lein sy'n helpu graddedigion Prifysgol Abertawe i gael swyddi buddiol sy'n gydnaws â'u dyheadau, eu sgiliau a'u rhinweddau ar gyfer gyrfaoedd.

Rydym wedi llunio cwricwlwm y cwrs hwn gyda chyflogwyr a graddedigion diweddar fel y byddwch yn deall ac yn meithrin y sgiliau y mae'r galw mwyaf amdanynt heddiw. Ym mhob un o'r modiwlau hyn, byddwch yn canolbwyntio ar feithrin sgil wahanol, er enghraifft, datblygu eich hunanymwybyddiaeth, dewis gyrfa a chyflwyno cais am swyddi perthnasol, rhwydweithio â chyflogwyr, ysgrifennu eich CV a llythyr eglurhaol, ysgrifennu ffurflenni cais llwyddiannus a pherfformio'n dda mewn cyfweliadau, datblygu eich gwytnwch a'ch meddylfryd twf.

Caiff ein Cwrs Datblygu Gyrfa i Raddedigion ei gyflwyno'n llwyr ar-lein a gallwch ei wneud yn eich amser eich hun er mwyn bod yn gwbl hyblyg ynghyd â chyngor ar yrfaoedd gan ein hymgynghorwyr gyrfaoedd i roi help a chymhelliant i chi.

Sut mae'n gweithio?

Dim traethodau. Dim arholiadau. Yr hyn y mae angen i chi ei wneud yw cwblhau'r cwrs a rhoi cynnig ar y cwisiau ar ddiwedd pob uned. Mae hyn yn bennaf i chi ganfod pa mor dda rydych wedi deall y pwnc ac a oes angen i chi ailymweld ag ef.

Pam oedi? Cofrestrwch eich diddordeb yma a byddwn yn anfon y ddolen atoch chi.

Apwyntiadau a Chyngor: Rydym yn eich cefnogi chi fel arfer drwy gyngor gyrfaoedd ar-lein

Rydym yn darparu cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd am ddim i raddedigion Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl graddio.  Rydym ni'n croesawu ymholiadau gan ein graddedigion ac yn cynnig cymorth drwy apwyntiadau wyneb yn wyneb, dros y ffôn, Skype neu dros e-bost.

If you need advice from a Careers Adviser, please book directly via this link. 

Y tro cyntaf byddwch chi'n cyrchu'r Parth Cyflogaeth, bydd gofyn i chi osod eich proffil. Pan fyddwch chi wedi gwneud hyn, gallwch chi drefnu apwyntiad o'r tab ar yr ochr dde ar frig y faner werdd.

Bod yn hwyr i apwyntiadau a pheidio â dod:

Mae galw mawr am apwyntiadau gydag Ymgynghorwyr Gyrfaoedd.  Pan fyddwch chi'n trefnu eich apwyntiad, sicrhewch eich bod chi'n trefnu apwyntiad ar amser sy'n gyfleus i chi a sicrhewch eich bod chi'n dod ar amser. Os ydych chi'n fwy na 10 munud yn hwyr am eich apwyntiad, rydym ni'n cadw'r hawl i beidio â chynnig yr apwyntiad. Os nad ydych chi'n gallu dod i'r apwyntiad, rhaid i chi ddweud wrthym ni a chanslo'r apwyntiad cyn gynted ag y gallwch chi oherwydd byddai hyn yn rhyddhau'r apwyntiad i fyfyriwr neu fyfyriwr sydd wedi graddio arall.

Rydym ni'n gweithredu polisi diffyg presenoldeb i'r holl fyfyrwyr a graddedigion. Os nad ydych chi'n dod i 3 apwyntiad yn ystod y tymor, mae'n bosib y byddem ni'n gwrthod cynnig apwyntiadau pellach i chi.  Mae hyn er mwyn sicrhau y gall yr holl fyfyrwyr a graddedigion gyrchu ein hapwyntiadau.