Mae Prifysgol Abertawe'n gweithredu ymagwedd 'dim goddefiant' wrth fynd i'r afael â thrais rhywiol.

Trais rhywiol yw'r term cyffredinol a ddefnyddir i ddisgrifio unrhyw fath o weithred neu weithgarwch rhywiol nas dymunir. Mae’n cynnwys trais, ymosodiad rhywiol, cam-drin rhywiol a llawer mwy. Mae gan Brifysgol Abertawe fecanweithiau cefnogi ar waith i'ch cefnogi chi os ydych wedi dioddef o drais rhywiol neu fod trais rhywiol wedi effeithio arnoch chi.

Ble i ddechrau

Dywedwch wrthych chi eich hun: Weithiau mae'n rhaid i oroeswyr ddatgelu i'w hunain yn y lle cyntaf. Gall goroeswyr fewnoli negeseuon yn rhy aml nad oedd yn "rhy ddrwg" neu mai eu bai nhw ydoedd.

Rhannwch gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddo: Nid yw hyn byth yn hawdd, ond ystyriwch ddweud wrth ffrind, mentor academaidd neu eich cynorthwyydd bywyd preswyl os ydych yn byw ar y campws. Rhowch wybod iddynt yr hyn sydd ei angen arnoch.

Ceisiwch ofal meddygol: Mae'n bwysig eich bod yn cael sylw meddygol os yw'r ymosodiad newydd ddigwydd hyd yn oed os nad oes anafiadau amlwg neu os nad ydych am roi gwybod i'r heddlu am yr ymosodiad. Gallwn eich helpu chi yn hynny o beth, gan eich cyfeirio at y Ganolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) leol.

Cysylltwch â'r Tîm Cymorth: Cysylltwch â'r Gwasanaeth Lles yn yr adran Gwasanaethau Myfyrwyr neu'r Ganolfan Cyngor a Chymorth yn Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Abertawe. Rydym ni yma i wrando arnoch, a byddwn yn eich helpu i gael gafael ar adnoddau a gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch y camau nesaf – bryd bynnag ac os ydych yn penderfynu gwneud hynny.

Sut gall y Gwasanaeth Lles ac Anabledd a'r Ganolfan Cyngor a Chymorth helpu?

Gallwch gael mynediad at ein cymorth ni waeth a ddigwyddodd y trais rhywiol ar y campws neu oddi arno, neu os oeddech yn destun trais rhywiol cyn i chi ddod i Abertawe. Gyda'ch cydsyniad chi, gallwn eich helpu gyda'r canlynol:

  • Cyfeiriadau at wasanaethau cwnsela a meddygol
  • Addasiadau academaidd a llety
  • Deall yr opsiynau  adrodd sydd ar gael i chi
  • Dod o hyd i'ch ffordd drwy systemau ac adnoddau yn y Brifysgol a'r gymuned

Mae pobl yn ymateb ac yn ymdrin â thrais rhywiol mewn sawl gwahanol ffordd. Byddwn yn parchu pa bynnag ffordd y byddwch yn ei dewis. Byddwn yn eich cefnogi chi ar ba bynnag lwybr sy'n gweithio orau i chi. Byddwn yn ymdrin â'ch datgeliad yn gyfrinachol ac yn parchu unrhyw benderfyniadau rydych yn eu gwneud – rydym ni yma i wrando arnoch ac i'ch cefnogi chi.

Rydym wedi casglu rhywfaint o wybodaeth ynghyd am eich opsiynau a'r camau nesaf i'w cymryd isod.

Beth i'w wneud nesaf

Cysylltwch â'r tîm

I drefnu apwyntiad gydag un o'r tîm neu i gael cyngor, cysylltwch â ni:

Gwasanaeth Lles ac Anabledd

Llenwch y Ffurflen Cymorth Myfyrwyr. Byddwn wedyn yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad. 
E-bost: wellbeingdisability@abertawe.ac.uk


Y Ganolfan Cyngor a Chymorth yn Undeb y Myfyrwyr

Rhif ffôn: 01792 29 5821
E-bost: advice@swansea-union.co.uk