Rydym yn cydnabod bod Covid-19 wedi achosi ansicrwydd a newid sylweddol a allai effeithio ar eich iechyd meddwl a’ch lles. I helpu i’ch cefnogi yn ystod y cyfnod heriol hwn, rydym wedi casglu ynghyd amrywiaeth o adnoddau lles, gan gynnwys erthyglau, cyrsiau ar-lein, fideos a phodlediadau. Mae’r adnoddau hyn yn ychwanegol at y gwasanaethau sydd eisoes ar gael, yn hytrach nag yn eu lle. I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd, ewch i’r tab ‘Cymorth Pellach’.
Adnoddau Iechyd Meddwl yn ystod COVID-19
Sut i Ofalu am eich Lles yn ystod Pandemig
CYSYLLTU - Bwriad CYSYLLTU, sef cydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yw lleihau unigrwydd ac unigedd ymhlith myfyrwyr.
Mae Student Space yn ei gwneud yn haws i chi ddod o hyd i’r gefnogaeth y mae arnoch chi ei hangen yn ystod y coronafeirws.
Building Wellbeing during COVID-19 llyfr gwaith (PDF, 6MB) gan y tîm gwyddoniaeth Genial ym Mhrifysgol Abertawe.
Coping with Coronavirus gan Seicolegwyr Clinigol dan Hyfforddiant yng Ngholeg Prifysgol Llundain.
How to look after your mental health during the Coronavirus outbreak gan y Sefydliad Iechyd Meddwl.
Erthyglau Amrywiol a gyhoeddwyd gan The Psychologist.
Podlediad Coping with anxiety about Coronavirus gan Let’s Talk About CBT.
Advice for the public gan y Gymdeithas Cwnsela a Seicoleg Brydeinig (BACP).
Resources for Coronavirus gan Psychology Tools.
Coronavirus and your wellbeing gan MIND.
Resources on Coronavirus gan Student Minds.
Maintaining Health and Wellbeing During a Pandemic gan Goleg y Brenin Llundain.
Approaching Coronavirus with Compassion gan Libratum, Grŵp o Seicolegwyr Clinigol Siartredig.
FACE Covid – How to respond effectively to the Corona crisis PDF a fideo YouTube gan Dr Russ Harris, awdur The Happiness Trap.
Living with Anxiety and Worry Amidst Global Uncertainty PDF gan Psychology Tools.
The ABCD of Coronavirus Anxiety gan Dr Emma Svanberg.
OCD and Coronavirus Survival Tips gan OCD UK.
Tips and Strategies to Cope with Anxiety and Coronavirus gan BACP.
Awgrymiadau’r GIG am ymdopi â Gorbryder gan Every Mind Matters, y GIG.
Coronavirus anxiety: how to cope if you're feeling anxious about the outbreak gan BACP.
Psychological Coping in Social Isolation gan Gymdeithas Seicolegol America.
Looking after your Mental Health in Social Isolation gan BACP.
How to look after your self-care during Coronavirus gan BACP.
The Psychological Impact of quarantine and How to Reduce It gan The Lancet.
Managing your mental health during the Coronavirus outbreak gan Rethink Mental Illness.
Eating Disorders and Coronavirus gan Beat.
Adnoddau Coronafeirws a fforwm ar-lein ar gyfer pobl awtistig a’u teuluoedd gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol.
Arweiniad ar gyfer y Cyhoedd am Agweddau Iechyd Meddwl a Lles ar y Coronafeirws gan y wefan GOV.UK.
Adnoddau Hunangymorth Ar-lein
Mae’r adran hon yn cynnwys amrywiaeth eang o gyrsiau a llyfrau gwaith ar-lein sydd â’r nod o wella lles a datblygu strategaethau i reoli anawsterau a gofid. Datblygwyd y cyrsiau hyn gan ymarferwyr proffesiynol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau seicolegol ar sail tystiolaeth. Sylwer nad yw’r adnoddau hyn yn disodli asesiad a chymorth arbenigol. Os oes gennych bryderon ynghylch addasrwydd y cyrsiau hyn i chi, ceisiwch gyngor gan ymarferydd meddygol, iechyd meddwl neu therapi proffesiynol.
Mae’r Ganolfan ar gyfer Ymyriadau Clinigol yn darparu llyfrau am dechnegau gwybyddol ymddygiadol i’ch helpu i reoli problemau gyda gorbryder, pryderon am eich gwedd, anhwylder deubegynol, anhwylder dysmorffia corff, iselder ysbryd, ymdopi â gofid, anhwylderau bwyta, gorbryder a phryder cyffredinol, pryder am eich iechyd, problemau rhyngbersonol, panig, perffeithrwydd, gohirio, hunan-dosturi, hunan-barch, cwsg, gorbryder cymdeithasol a ffyrdd niweidiol o feddwl.
Mae Ymddiriedolaeth Sefydliad y GIG Sir Gaergrawnt a Peterborough wedi cyhoeddi llyfrau gwaith am dechnegau gwybyddol ymddygiadol i reoli problemau straen, dicter, gorbryder, panig, anhwylder gorfodaeth obsesiynol a ffobiâu.
Mae Prifysgol Caerwysg wedi cyhoeddi llyfrau gwaith hunangymorth am ddim ar gyfer rheoli pryder, wynebu ofnau, datrys problemau, pennu nodau a rheoli iselder ysbryd yn seiliedig ar egwyddorion therapi gwybyddol ymddygiadol.
Darllediad byw MindSET gan Body & Soul, sesiwn wythnosol 45 munud o hyd sy’n helpu i ddarparu sgiliau DBT i bobl ifanc mewn gofid meddyliol.
Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn darparu gwybodaeth, canllawiau hunangymorth a phodlediadau am iechyd meddwl ac ymwybyddiaeth ofalgar.
Mae’r Togetherall yn cynnig gwybodaeth a chymorth am iechyd meddwl am ddim a fforwm i fyfyrwyr â phroblemau iechyd meddwl gefnogi ei gilydd.
Mae Living Life to the Full yn cynnig cyrsiau am ddim ac am dâl i helpu i fynd i’r afael â phroblemau hwyliau isel a gorbryder gan ddilyn ymagwedd wybyddol ymddygiadol.
Mae Mood Gym yn adnodd hunangymorth ar-lein â’r nod o helpu pobl i hunanreoli problemau iechyd meddwl cyffredin.
Mae Mood Juice yn darparu llyfrau hunangymorth am reoli amrywiaeth o anawsterau seicolegol.
Mae’r Coleg Seiciatreg Brenhinol yn darparu gwybodaeth am amrywiaeth eang iawn o broblemau iechyd meddwl ac mae hefyd yn darparu arweiniad am sut i gael mynediad at asesiadau a thriniaeth.
Mae’r elusen MIND yn darparu gwybodaeth a chanllawiau byr i reoli amrywiaeth eang o broblemau iechyd meddwl a ffynonellau cymorth.
Mae Students Against Depression yn darparu gwybodaeth am iselder ysbryd a fforwm i gael cefnogaeth gan fyfyrwyr eraill yn y DU sy’n wynebu iselder ysbryd.
Mae gan AMOSSHE, y sefydliad gwasanaethau myfyrwyr, gasgliad o ganllawiau i hyrwyddo cydbwysedd a gwytnwch emosiynol.
Mae Mindfulness for Students yn darparu gwybodaeth ac arweiniad am ddatblygu ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar. Dangoswyd bod ymwybyddiaeth ofalgar yn gwella hwyliau a gallu i ganolbwyntio.
Mae Headspace yn darparu ap ymwybyddiaeth ofalgar ar gyfer ffonau symudol sy’n cynnig mynediad at raglen 10 niwrnod o ganllawiau clywedol i ymwybyddiaeth ofalgar.
James Clear yw awdur y llyfr poblogaidd iawn “Atomic Habits” ac mae’n darparu canllaw am ddim i oresgyn arferion gohirio.
Good Universities Guide am ohirio a’r Dull Pomodoro.
Mae BEAT yn darparu gwybodaeth ac arweiniad am anawsterau bwyta ar gyfer pobl ag anhwylder bwyta.
Mae Mental Health Matters yn cynnal grwpiau cymorth ar-lein wythnosol i bobl â phryderon am hunan-niweidio, pryder ac iselder, anhwylderau bwyta a materion LGBTQ+. Maent hefyd yn cynnig gwybodaeth ac eiriolaeth
Adnoddau ar gyfer Myfyrwyr Gofal Iechyd
Mitigating the Impact of COVID-19 Toolkit gan Holly Blake a Fiona Bermingham, Prifysgol Nottingham.
Managing Healthcare Workers' Stress PDF gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer PTSD.
Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru. Dyma wasanaeth cyfrinachol sydd ar gael am ddim i holl weithwyr iechyd proffesiynol a myfyrwyr gofal iechyd sy’n gweithio yn y GIG yng Nghymru.
Adnoddau ar gyfer Staff Lles
Adnoddau ar gyfer Ymarferwyr Seicolegol a Therapiwtig Proffesiynol:
Guidance for Psychological Professionals during Covid-19 PDF gan BPS.
Supporting Student Mental Health gan Office for Students.
Podlediadau DPP Ar-lein:
Effective therapy via video - top tips PDF gan BPS.
Arweiniad i weithio o bell ar gyfer staff:
Effective therapy via video - top tips PDF gan BPS.
Telephone work at the end of the world blog gan notaguru.
Looking After Your Wellbeing Whilst Working From Home gan BACP.
Guidance on Remote Supervision gan BABCP.
Guidance on Delivering Remote Therapy gan BABCP.
Guide to Remote Working in Coronavirus Pandemic gan IAPT.
Dolenni Llywodraethu Gwybodaeth y GIG:
Cymorth Pellach
Cymorth Brys
Os teimlwch fod angen cymorth brys gyda’ch anawsterau arnoch, mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â’ch meddyg teulu, yn ymweld ag adran achosion brys eich ysbyty agosaf neu’n ffonio GIG Cymru ar 111 neu 999 os yw’n argyfwng difrifol i gael mynediad at unrhyw ofal a chymorth y gallai fod eu hangen arnoch.
Llinellau Cymorth
Os oes angen gwybodaeth am iechyd meddwl arnoch, neu os ydych yn poeni, yn cynhyrfu neu wedi’ch drysu, neu os oes angen clust i wrando arnoch yn unig, mae’r GIG yn darparu rhestr o linellau cymorth cyfrinachol am ddim.
I gael gwybodaeth am gamddefnyddio cyffuriau, ewch i Talk to Frank.
Cymorth Iechyd Meddwl yng Nghymru
I gael mynediad at gymorth iechyd meddwl, cwnsela neu therapi yng Nghymru, cysylltwch â’ch meddyg teulu. Dim ond meddyg teulu neu ymarferydd gofal iechyd proffesiynol arall sy’n gallu eich cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl y GIG yng Nghymru. Yn ystod y pandemig COVID-19, mae’r rhan fwyaf o feddygfeydd meddyg teulu’n cynnal apwyntiadau dros y ffôn.
Mae’r elusen MIND yn darparu gwasanaethau cymorth lleol i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ledled Cymru, a gall eich cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill sydd ar gael yn eich ardal. Ewch i wefan MIND Cymru.
Cymorth Iechyd Meddwl yn Lloegr
I gael mynediad at gymorth iechyd meddwl, cwnsela neu therapi yn Lloegr, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu rhowch eich côd post yn y dolenni canlynol i gael gwybod am eich gwasanaethau lleol a chysylltu â nhw’n uniongyrchol.
Mae’r gwasanaethau Gwella Mynediad at Therapi Seicolegol (IAPT) yn darparu asesiadau a therapi seicolegol ar gyfer pobl sy’n wynebu pob math o orbryder, trawma ac iselder meddwl. Mae gwasanaethau IAPT yn derbyn hunan-gyfeiriadau ar-lein a thros y ffôn ac, yn ystod pandemig Covid-19, maent yn parhau i ddarparu asesiadau a chymorth ar-lein a thros y ffôn. Gallant hefyd eich cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill sydd ar gael yn eich ardal. Ddod o hyd i’ch gwasanaeth lleol.
Os hoffech dderbyn cymorth gyda phroblemau alcohol, mae manylion eich gwasanaethau lleol.
Os hoffech dderbyn cymorth gyda chamddefnyddio cyffuriau, mae manylion eich gwasanaeth lleol.
Gall y sefydliadau canlynol ddarparu cyngor a chymorth defnyddiol hefyd:
- Change Grow Live
- We are With You
- Mae MIND a Rethink yn darparu gwasanaethau cymorth lleol i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ledled Lloegr, a gallant hefyd eich cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill sydd ar gael yn eich ardal.
Cymorth Iechyd Meddwl yn yr Alban
I gael mynediad at gymorth iechyd meddwl, cwnsela neu therapi yn yr Alban, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu defnyddiwch y rhestr o wasanaethau ar wefan NHS Inform i ddod o hyd i wasanaethau lleol.
Gwasanaethau Cymorth Lleol
Mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe wedi creu cyfeiriadur o wasanaethau cymorth lleol a chenedlaethol sy’n ymdrin ag amrywiaeth eang o faterion. Ceir rhagor o wybodaeth ar y wefan.
Cyngor ar Covid-19 gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion
https://www.rcpsych.ac.uk/about-us/responding-to-covid-19/covid-19-and-mental-health