Cyn i Chi Ddechrau
Byddwch yn drefnus cyn i chi gyrraedd Abertawe

Gwneud y campws yn ddiogel
Edrychwch ar ein fideo o'r bobl sy'n helpu i gadw'r campws yn ddiogel
Mynediad i'r fewnrwyd, eich cyfrif e-bost yn y Brifysgol a gwasanaethau ar-lein eraill
Cynghorir trwy e-bost pryd y gallwch gael cyrchiad i’ch cyfrif.
- Mewngofnodwch i'n gwasanaethau ar-lein yn myuni.swan.ac.uk sy'n caniatáu i chi gael mynediad at y rhyngrwyd, eich e-bost, Blackboard, a gwasanaethau ar-lein eraill. Eich cyfeiriad e-bost yw’ch rhifmyfyriwr@abertawe.ac.uk. Er enghraifft, os 123456 yw'ch rhif myfyriwr, eich cyfeiriad e-bost yw 123456@abertawe.ac.uk
- Wrth fewngofnodi i’ch cyfrif yn y Brifysgol, gofynnir i chi newid eich cyfrinair. Unwaith y byddwch wedi newid eich cyfrinair, gofynnir i chi ddarparu mwy o wybodaeth i gofrestru er mwyn eich galluogi chi i reoli eich cyfrinair eich hun e.e. os ydych wedi anghofio eich cyfrinair neu os yw eich cyfrif wedi’i rwystro. I gofrestru, bydd angen i chi ddarparu mwy o wybodaeth i brofi pwy ydych chi, megis rhif ffôn symudol i dderbyn neges destun, cyfrif e-bost arall neu ymatebion i gwestiynau diogelwch. Gallwch benderfynu peidio â chofrestru yn awr, ond cewch eich annog bob amser y byddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif nes eich bod wedi cofrestru.
Lanlwythwch lun ar gyfer eich Cerdyn Adnabod y Brifysgol a'r Llyfrgell
Lanlwythwch eich llun drwy fewngofnodi i'r Fewnrwyd a bydd eich cerdyn yn barod pan fyddwch yn cyrraedd.
Er mwyn i'ch llun gael ei dderbyn, bydd angen iddo:
- fod yn llun clir a diweddar arddull pasbort o'ch pen, yn wynebu ymlaen ac yn edrych yn syth at y camera
- bydd angen i'ch llygaid fod yn amlwg ac ar agor yn llawn (heb sbectol haul na sbectol arlliwedig, a heb wallt ar draws eich llygaid)
- o'ch pen cyfan, heb unrhyw beth yn ei orchuddio (ac eithrio dillad a wisgir am resymau meddygol neu oherwydd credoau crefyddol)
- ohonoch chi ar eich pen eich hun (heb bobl eraill mewn golwg)
- yn llun lliw (nid du a gwyn) oddeutu 150 picsel ar ei led a 180 picsel ar ei hyd
Cadarnhau bod gennych yr hawl i astudio
I wirio'ch hawl i astudio, porwch drwy'n Canllawiau Hawl i Astudio.
Er mwyn cofrestru, mae angen i ni gael prawf o'ch hunaniaeth a'ch cenedligrwydd i gadarnhau'ch hawl i astudio, eich statws ffioedd dysgu a'ch cymhwysedd i dderbyn benthyciadau/grantiau.
Am wybodaeth am sut i gofrestru, porwch drwy'r adran Cofrestru ar gyfer Myfyrwyr Newydd - Cofrestru Hawl i Astudio.
Trefnwch eich llety
- Os byddwch yn aros yn llety'r Brifysgol, darllenwch y wybodaeth am baratoi i gyrraedd a chasglu allweddi
- Os oes angen cymorth arnoch i ddod o hyd i rywle i aros, edrychwch ar yr adran ynghylch Llety
Trefnwch eich ffioedd dysgu
- Os oes gennych fenthyciad cyllid myfyrwyr y DU oddi wrth y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, telir eich ffioedd gan eich benthyciad/grant ffioedd dysgu a thelir eich benthyciad cynhaliaeth pan fyddwch wedi cofrestru a chasglu eich cerdyn myfyriwr ac ar ôl i ni gadarnhau’ch hunaniaeth.
- Os oes gennych nawdd arall, anfonwch Ffurflen Cadarnhau Nawdd neu lythyr gan eich noddwr atom drwy’r post i: Cofnodion Myfyrwyr, Parc Singleton, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP, Cymru, y DU neu drwy e-bostio: studentfinance@abertawe.ac.uk
- Os yw’r Brifysgol yn cyfrannu at eich ffioedd, sicrhewch fod eich ysgoloriaeth/bwrsariaeth wedi’i hawdurdodi cyn i chi gofrestru
- Os ydych yn aelod staff, anfonwch eich ffurflen Bwrsariaeth Staff neu eich ffurflen Bwrsariaeth Cynorthwyydd Ymchwil atom
- Fel arall mae angen ichi wneud eich trefniadau eich hun i dalu â cherdyn neu drwy ddebyd uniongyrchol pan fyddwch yn cofrestru ar lein neu gallwch dalu o flaen llaw drwy fewngofnodi i fewnrwyd Prifysgol Abertawe a chlicio ar Drafodion Ariannoli wneud taliad.
Rhestr Wirio Ariannol Cyn Cyrraedd
Mae'n bwysig i fyfyrwyr ystyried eu cynllun ariannol cyn cofrestru ar eu cwrs, a sicrhau eu bod yn gwneud cais am y cyllid a'r cymorth sydd ar gael iddynt. Defnyddiwch y Rhestr Wirio Ariannol Cyn Cyrraedd i'ch helpu gyda'ch cynllun ariannol, a chofiwch fod Arian@BywydCampws ar gael i ateb unrhyw gwestiynau am faterion ariannol sydd gan fyfyrwyr.
Eich iechyd a'ch lles
Mae eich iechyd yn bwysig i ni ac fel myfyriwr newydd mae angen i chi:
- darllen y wybodaeth am iechyd a lles i sicrhau bod popeth yn ei le rhag ofn y bydd angen cymorth arnoch
- cofrestru gyda meddyg teulu (meddyg) – cofrestru gyda’r Ganolfan Iechyd
- cofrestru gyda deintydd – cofrestru gyda’r Ddeintyddfa
Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion penodol:
- os oes gennych anabledd corfforol neu ddysgu, cyflwr meddygol neu angen lles arall, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr i roi gwybod i ni.
Darllenwch reolau a rheoliadau’r Brifysgol
Cyn i chi gytuno i gydymffurfio â rheolau a rheoliadau’r Brifysgol dylech edrych ar y rheolau, y rheoliadau a’r polisïau yn y Rheoliadau Academaidd a'r cyfrifoldebau yn y Siarter Myfyrwyr.