Cefnogaeth o fewn y Brifysgol
Cysylltiadau Lles y Coleg
Gallwch chi gysylltu â staff Gwybodaeth i Fyfyrwyr / Profiad Myfyrwyr y Coleg sy’n gallu cynnig cyngor ymarferol, arweiniad, a’ch cyfeirio chi i wasanaethau perthnasol. Gallant hefyd drafod y broses amgylchiadau esgusodol â chi pe bai angen i chi ei defnyddio. Mae rhestr manylion cyswllt ar gyfer staff Gwybodaeth / Profiad y Coleg ar gael yma.
Gallwch chi ddysgu mwy am y broses amgylchiadau esgusodol yma.
Gwasanaeth Gwrando
Mae gwasanaeth gwrando Ffydd@BywydCampws yn cynnig clust i bawb – beth bynnag yw’ch crefydd, neu ddim crefydd. Cynhelir y sgyrsiau hyn dros y ffôn neu drwy alwad fideo, beth bynnag sy’n well gennych chi. Os hoffech chi siarad ag aelod penodol o’r tîm, nodwch yr enw wrth gysylltu. I gyrchu’r gwasanaeth hwn, e-bostiwch Listeningservice.campuslife@abertawe.ac.uk
Lles
Mae gwasanaeth Lles Prifysgol Abertawe yn cynnig arweiniad a chymorth iechyd meddwl a Chyflwr Sbectrwm Awtistiaeth (ASC) i fyfyrwyr: mae hyn yn cynnwys cymorth un i un gydag ymarferwyr iechyd meddwl ac awtistiaeth, mentoriaid a chynghorwyr, addasiadau academaidd ac adnoddau a chyrsiau hunan-gymorth. Gallwch chi weld yr ystod o gymorth sydd ar gael yma. Gallwch chi hefyd ofyn am gymorth drwy lenwi’r Ffurflen Cais am Gymorth Lles. Gallwch chi gysylltu â’r Gwasanaeth Lles drwy e-bostio wellbeingdisability@abertawe.ac.uk
Cefnogaeth Allanol
Y Samariaid
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi neu os ydych chi’n pryderu am rywbeth neu’n teimlo’n ypset neu’n ddryslyd, neu os hoffech chi siarad â rhywun, mae’r SAMARIAID yn cynnig cymorth emosiynol cyfrinachol, 24 awr y dydd. Cysylltwch â’r Samariaid drwy e-bost neu yn www.samaritans.org neu drwy ffonio (o’r Deyrnas Unedig) 08457 90 90 90 neu 116 123 oddi ar ffôn symudol.
UKCISA