Mae llawer o fyfyrwyr yn cyfuno eu hastudiaethau yn y Brifysgol â chyfrifoldebau gofal, megis gofalu am blant, rhieni anabl neu rieni hŷn ac oedolion eraill sy’n dibynnu arnynt.
Myfyrwyr gyda chyfrifoldebau gofalu

Myfyrwyr â chyfrifoldebau gofal
Gall eich sefyllfa olygu bod gennych gyfrifoldebau gofal yn y tymor byr yn unig, megis cefnogi aelod o’r teulu ar ôl damwain. Gallai fod gennych rôl ofalu yn y tymor hirach, megis bod yn rhiant.
Rydym yn deall y gall ymdrin â chyfrifoldebau gofalu fod yn heriol. Mae’n debygol y bydd y cyfrifoldebau hyn yn rhoi pwysau ychwanegol arnoch wrth i chi astudio ar gyfer eich gradd. Oherwydd hyn, gallech fod yn ei chael hi’n anodd cynnal y cyflymdra o ran eich gwaith academaidd neu gynnal presenoldeb rheolaidd.
Os ydych yn teimlo bod eich cyfrifoldebau gofalu yn cael effaith ar eich astudiaethau, mae’n bwysig eich bod yn tynnu sylw’r staff perthnasol yn eich coleg at eich sefyllfa. Bydd hyn yn galluogi eich coleg, yn ogystal â Bywyd Campws, i’ch helpu wrth roi’r cymorth sydd ei angen arnoch er mwyn llwyddo ym Mhrifysgol Abertawe.
Cyngor ac awgrymiadau ymarferol
Myfyrwyr sy’n Ofalwyr
Mae BywydCampws wedi ymrwymo i gefnogi myfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu, ac yn ddiweddar, maent wedi creu pecyn yn benodol ar gyfer Myfyrwyr sy’n Ofalwyr.
Caiff gofalwr myfyriwr ei ddiffinio fel myfyriwr sy’n darparu gofal di-dâl ar gyfer aelod neu ffrind sydd oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd neu gaethiwed i sylweddau, yn methu ymdopi heb gymorth y myfyriwr. Sylwer, byddai’r dyletswyddau hyn ar ben cyfrifoldebau arferol rhiant i ofalu am blentyn dibynnol, oni bai fod gan y plentyn dibynnol salwch difrifol, problem iechyd meddwl neu anabledd.
Mae’r pecyn yn cynnwys llawer o gymorth, a bydd angen i fyfyrwyr gyflwyno tystiolaeth atebol er mwyn cael gafael ar y pecyn. Ewch i'r wefan i gael rhagor o wybodaeth am y ‘Pecyn Cymorth Gofalwyr Myfyrwyr.’
Cyngor ymarferol ac argymhellion
Arian@BywydCampws
Gall arian fod yn bryder i bawb. Os ydych yn rhiant neu os oes oedolyn yn dibynnu arnoch chi/gofalwr/neu rywun sy’n gadael gofal yn ariannol, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys ar gyfer grantiau ychwanegol. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydych yn gymwys ar ei gyfer, ewch i wefan Arian@BywydCampws.
Gofal Plant
Gall dod i’r Brifysgol gyda chyfrifoldeb gofalu am blentyn ymddangos fel rhywbeth a fydd yn rhoi llawer o straen arnoch, yn enwedig wrth geisio trefnu gofal plant.
Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig gofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel ar gyfer plant rhwng 3 mis ac 8 mlwydd oed. Nod yr Undeb yw cynorthwyo myfyrwyr sy’n dychwelyd i addysg uwch.
Mae’r feithrinfa ar agor rhwng 7.30am a 6.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Diwrnod llawn (7.30am – 6:00pm), £35.00
Sesiwn yn ystod y bore (7.30am – 1:00pm), gan gynnwys cinio £24.00
Sesiwn yn ystod y prynhawn (1:00pm – 6:00pm), heb ginio £24.00
Academi Cyflogadwyedd Abertawe
A ydych yn poeni am gael swydd ar ôl graddio? Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn cynnig ystod eang o wasanaethau ac adnoddau sydd ar gael i bob myfyriwr a chyn-fyfyriwr (hyd at bum mlynedd ar ôl graddio) o Brifysgol Abertawe, gan gynnwys:
- Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd.
- Gwobr Cyflogadwyedd Abertawe (a gofnodir yn eich Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch).
- Rhaglenni profiad gwaith.
- Adnoddau ar gyfer chwilio am swydd, dod o hyd i waith pan rydych yn astudio a gwirfoddoli.
- Cyngor a chanllawiau unigol gan Gynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol cymwysedig.
- Mynediad at wybodaeth am ystod eang o bynciau rheoli gyrfaoedd.
- Cyngor a chanllawiau ar astudiaethau a chyllid ôl-raddedig.