Pa fath o bethau y bydd angen i’ch Mab/Merch ymdopi â nhw?
- Byw mewn llety a rennir
- Dysgu sut i fyw yn annibynnol
- Hiraeth
- Gwneud ffrindiau newydd
- Lefel uwch o waith academaidd
Beth y gallwch chi ei wneud, fel Rhiant/Gwarcheidwad?
Bod yn gefnogol – Hwyrach ei bod yn anodd i chi ddod i delerau â gweld eich plentyn yn gadael cartref. Bydd cefnogi eich plentyn yn lles i’r ddau ohonoch.
Ei helpu trwy’r trawsnewid – Annog eich plentyn i fod yn realistig o ran yr hyn y mae’n ei ddisgwyl gan y Brifysgol. Gall y trawsnewid o ysgol/coleg i lefel gradd beri braw i rai myfyrwyr.
Cadw mewn cysylltiad – Os gallwch gadw o fewn cyrraedd galwad ffôn, bydd hynny o fudd i’r ddau ohonoch; ond cofiwch adael llonydd i’r myfyriwr newydd ymgynefino am yr wythnos neu ddwy gyntaf.
Ei gysuro – Gall symud i Brifysgol fod yn brofiad pur frawychus. Ceisiwch ei atgoffa bod teimlo’n bryderus, nerfus neu ychydig yn ofnus yn adwaith normal. Mae’r teimladau hyn yn rhan o’r broses o adael cartref a mynd i’r Brifysgol.
Ceisio lleihau’r pwysau sydd arno i lwyddo – Nid yw’n llesol gosod cyrchnodau rhy uchel i fyfyrwyr sy’n dal i geisio ymdopi â’r newid i addysg uwch. Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn rhoi digon o bwysau arnynt eu hunain i gael canlyniadau gradd da.
Ei annog i gymryd rhan – Mae digonedd o glybiau a chymdeithasau yma yn Abertawe. Bydd ymuno â thîm neu glwb yn sicr o wella ei brofiad o’r Brifysgol. Mae’n ffordd ragorol o gwrdd â ffrindiau a dysgu rhywbeth newydd ar yr un pryd.
Ei annog i ofyn am gymorth pan fo angen - Yma yn Abertawe, rydym yn ymdrechu i roi pob cymorth posibl i’r myfyrwyr. Os yw’ch mab/merch yn cael trafferth ymdopi, dylech ei annog/hannog i ofyn am gymorth gan FywydCampws neu gan eu Coleg.
Yr adegau o’r flwyddyn pan ddylid cadw llygad arno
Yn ystod rhai adegau allweddol o’r flwyddyn bydd myfyrwyr yn fwy tebygol o wynebu anawsterau. Ni fydd y patrwm yn effeithio ar bob myfyriwr, ond bydd y rhan fwyaf yn profi ambell gyfnod o ofid bob yn ail ag asbri, yn enwedig yn ystod y tymor cyntaf. Mae hon yn broses sy’n naturiol i bob myfyriwr.
Ar ddechrau’r flwyddyn – Gall y cyfnod o adael cartref a cheisio dygymod â byw’n annibynnol mewn Prifysgol, fod yn gyfnod ingol i rai myfyrwyr. Cymer gryn amser cyn y byddant wedi ymgynefino’n llwyr a gwneud ffrindiau newydd yma yn Abertawe. Bydd rhaid i’r myfyrwyr ddysgu sut i goginio, glanhau a chanfod ffordd o fyw sy’n sefydlog a chytbwys.
Canol tymor – pan fo’r terfyn amser ar gyfer cwblhau aseiniadau yn nesáu, a’r Nadolig yn ymddangos yn bell, bell yn y dyfodol. Hon, fel rheol fydd yr adeg ddelfrydol i riant/gwarcheidwad neu ffrind ymweld â’r myfyriwr. Gall hynny liniaru unrhyw bryderon ynghylch byw i ffwrdd o gartref.
Mis Rhagfyr – Ar ôl byw’n annibynnol am fis neu ddau, bydd rhai myfyrwyr yn ei chael hi’n anodd gadael eu ffrindiau newydd a dychwelyd adref dros y Nadolig. Hwyrach y bydd dechrau byw unwaith eto yn unol â’r rheolau chi yn achosi rhywfaint o wrthdaro. Trafodwch y rheolau hynny cyn bo’r myfyriwr yn cyrraedd adref, er mwyn i bawb wybod beth i’w ddisgwyl.
Ionawr/Chwefror – Pan fydd yn dywyll ac oer, ac yn amser i symud yn ôl i lety myfyrwyr. Gall hwn, eto, fod yn amser anodd o’r flwyddyn i fyfyrwyr a fydd wedi ailgynefino â moethusrwydd eu harhosiad gartref. Hwyrach y bydd yn gyfnod anodd i chithau fel rhiant, os byddwch wedi mwynhau cael eich mab/merch gartref dros y Nadolig. Amser adolygu fydd hwn i’r rhan fwyaf o’r myfyrwyr, a bydd rhai’n dechrau pryderu ynghylch sefyll arholiadau mewn lleoliad newydd.