Os yw myfyriwr yn teimlo bod rhywun yn aflonyddu arno/arni, yna dylai gadw cofnod o’r digwyddiad(au) er mwyn cofio beth sydd wedi digwydd.
Cam 1:
Yn gyntaf, dylai’r myfyriwr a aflonyddir ei gwneud yn glir cyn gynted ag y bo modd wrth y person sy’n achosi’r tramgwydd, fod yr ymddygiad yn annerbyniol iddo/iddi, os yw’n bosibl gwneud hyn a’i fod yn briodol. Gellir datrys nifer fawr o bryderon yn y cam hwn.
Os yw’r achwynydd yn teimlo na all siarad â’r person sy’n achosi’r tramgwydd, gallai ofyn i gydweithiwr/ffrind cydymdeimladol (sy’n aelod o Brifysgol Abertawe) neu gynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr, fynd gydag ef i siarad â’r person dan sylw neu fynd yn ei le.
Pan na theimla’r achwynydd ei bod yn briodol neu’n bosibl iddynt sôn am eu pryder wrth yr aflonyddydd honedig, neu os bydd eu cwyn yn dal heb ei datrys wedyn, dylai ef/hi gysylltu â Chynghorydd Aflonyddu (yn unol â Cham 2 isod).
Cam 2:
Gall yr achwynydd gysylltu ag unrhyw un o Gynghorwyr Aflonyddu’r Brifysgol– mae rhestr ohonynt yn Atodiad 1 y polisi hwn. Bydd pob un ohonynt yn fodlon trafod achosion, waeth pa mor fawr neu fach bynnag y maent yn ymddangos.
Yn ystod y cam hwn, byddant yn gwrando â chydymdeimlad ar broblem yr achwynydd ac ni fyddant yn barnu mewn unrhyw ffordd. Unwaith y mae’r broblem wedi’i hesbonio, bydd y Cynghorydd Aflonyddu yn gallu egluro unrhyw weithredu priodol posibl.
Bydd unrhyw drafodaeth a geir yn gyfrinachol ac ni chymerir unrhyw gamau gweithredu pellach heb ganiatâd penodol yr achwynydd. (Yr eithriad i hyn yw pan fo trosedd wedi digwydd ac mae’n gyfrifoldeb cyfreithiol ar y Brifysgol bryd hynny i gymryd y camau priodol.)
Cam 3:
Bydd y Cynghorydd Aflonyddu ynghyd â’r achwynydd yn gweithredu’r dewis(iadau) y penderfynwyd arnynt o dan Cam 2. Er enghraifft, gellid cytuno y bydd y Cynghorydd Aflonyddu yn gyrru e-bost at yr aflonyddydd honedig yn amlinellu’r gŵyn neu’n cwrdd â’r aflonyddydd honedig (gyda neu heb yr achwynydd) er mwyn ceisio hwyluso datrysiad.
Dylai unrhyw esboniad, ymddiheuriad neu ymateb arall (ar lafar, drwy e-bost neu yn ysgrifenedig) a gynigir gan yr aflonyddydd honedig ei drosglwyddo’n ôl i’r achwynydd gan y Cynghorydd Aflonyddu. Y canlyniad delfrydol yw y caiff problemau eu datrys, er nad yw hyn yn golygu y bydd cosb.
Os yw’r aflonyddu’n parhau yn dilyn y camau gweithredu cychwynnol a amlinellir uchod, neu os yw’r achos o natur fwy difrifol nag achosion y gellir ymdrin â hwy drwy gyfrwng y camau a ddisgrifir uchod, gellir gwneud cwyn ysgrifenedig ffurfiol yn unol â’r Gweithdrefnau Ffurfiol. Dylid cysylltu â Chynghorwyr Aflonyddu’r Brifysgol i gael cyngor ynghylch y gweithdrefnau hyn.