Amgylchiadau Esgusodol a goblygiadau ariannol

Os yw amgylchiadau esgusodol wedi effeithio ar eich astudiaethau chi ac rydych chi wedi cysylltu â'ch coleg academaidd i drafod eich opsiynau, rydym yn gobeithio y bydd yr wybodaeth ganlynol yn eich helpu i ddeall y goblygiadau posib o ran cyllid neu arian o ganlyniad i newidiadau yn eich astudiaethau.

Mae'r wybodaeth hon yn canolbwyntio ar Gyllid Myfyrwyr a'r goblygiadau ariannol i fyfyrwyr sy'n derbyn y pecyn Cyllid Myfyrwyr llawn, h.y. Ffioedd Dysgu Israddedig a chyllid Cynhaliaeth neu Feistr. Os na fydd hyn yn berthnasol i chi ond mae gennych ymholiadau sy'n ymwneud ag arian, cysylltwch â ni drwy e-bostio yn: money.campuslife@abertawe.ac.uk

Os ydych chi wedi derbyn bwrsariaeth y GIG ar gyfer eich gradd, mae'n bwysig eich bod chi'n gwirio eich cymhwysedd am gyllid cyn newid eich statws cofrestru. Fe'ch cynghorir i chi drafod eich amgylchiadau â thîm Swyddfa Bwrsariaeth y GIG drwy e-bostio: bursary-medicinehealthlifescience@abertawe.ac.uk a chysylltu â swyddfa Arian@BywydCampws am ragor o gymorth: money.campuslife@abertawe.ac.uk

 

Israddedigion

Cyrsiau Gradd Meistr

I fyfyrwyr sy'n cyrchu cyllid Ôl-raddedig, nid yw cyllid dros yr uchafswm ar gael, hyd yn oes mewn achosion o resymau personol anorchfygol. E-bostiwch Arian@BywydCampws gydag ymholiadau. 

Ymholiadau eraill?

E-bostiwch Arian@BywydCampws yn money.campuslife@abertawe.ac.uk