gymryd rhan
Fel partner Abertawe neu fyfyriwr, gobeithiwn fod yr addysg a'r cyfleoedd a gawsoch chi tra oeddech chi yma yn astudio wedi'ch arwain at bethau gwych a bod gennych gysylltiad ac ymdeimlad o berthyn â'r Brifysgol. Felly, rydym yn gofyn am eich addewid i helpu a chefnogi ein cenhedlaeth nesaf o fyfyrwyr a rhoi rhywbeth yn ôl i'n cymuned.
Gallwch gymryd rhan mewn ffyrdd amrywiol:
- Eich amser (dod yn ôl i'r Brifysgol ac ysbrydoli myfyrwyr drwy sgyrsiau neu drwy fod yn feirniaid cystadlaethau).
- Mentora myfyrwyr sy'n dymuno datblygu gyrfa yn eich diwydiant
- Lleoliadau neu interniaethau entrepreneuraidd yn eich cwmni (yn lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol)
- Rhodd ariannol i gefnogi cyflwyno Addysg Entrepreneuraidd a sefydlu cronfa
- Hyrwyddo'r hyn mae'r Brifysgol yn ceisio ei gyflawni yn eich rhwydwaith er mwyn i eraill gymryd rhan
- Cynnig problemau i'n myfyrwyr weithio arnynt, megis prosiectau "byd go iawn"
- Dod yn aelod o Brifysgol Abertawe: LINC Rhwydwaith Busnes y Brifysgol
- Awgrymiadau eraill ynghylch y ffordd yr hoffech chi gymryd rhan