Mae llawer o ffyrdd y gallwn eich helpu a'ch cefnogi. Am ragor o wybodaeth:
Mae'r tîm entrepreneuriaeth yn helpu myfyrwyr a graddedigion i ddatblygu eu sgiliau drwy weithdai, mentrau a magu profiad gwerthfawr i'w helpu i ddechrau eu busnes eu hunain, bod yn hunangyflogedig, dechrau menter gymdeithasol, gweithio ar eu liwt eu hunain neu ddechrau busnes technoleg.
Ers 2016, rydym wedi gweithio gydag ychydig dan 10,000 o fyfyrwyr, gan arfogi dros 131 o fyfyrwyr i ddechrau eu busnesau eu hunain. Mae'r cymorth a gynigwn yn eang iawn, o ddigwyddiadau a chyfleoedd rhwydweithio, cystadlaethau, lleoliadau entrepreneuraidd, cyngor a hyfforddiant i le swyddfa a chyllid sbarduno.
Mae Abertawe'n ymrwymedig i entrepreneuriaeth myfyrwyr, fel a amlinellir yn ein Strategaeth-Entrepreneuriaeth-Myfyrwyr-2018-23.
Am ragor o wybodaeth am sut y gallwn ni helpu, cysylltwch â ni neu ewch i'n tudalen Facebook.