Croeso i'r Ysgol Rheolaeth
Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn yr Wythnos Groeso. Bydd rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos a gobeithiwn y bydd hon yn rhoi digon o wybodaeth ac ysbrydoliaeth i chi wrth i chi ddechrau eich rhaglen astudio. Bydd llawer o gyfleoedd hefyd i gymdeithasu â'r myfyrwyr eraill ar eich cwrs a dysgu am y cymorth a fydd ar gael i chi wrth i chi astudio.
Rydym yn gweithio ar eich amserlen Wythnos Groeso, a bydd yn cael ei diweddaru’n fuan. Rydym yn eich annog i gymryd rhan mewn cynifer o'r gweithgareddau hyn â phosib.
Sylwer bod hon yn wahanol i'ch amserlen addysgu a fydd ar waith pan fydd y darlithoedd yn dechrau ddydd Llun 30 Ionawr.